



Dillad 'vintage' ydi steil Aimee Phillips sy'n wreiddiol o Ben-y-bont ond sydd yn byw yn Llundain erbyn hyn...
Nia: Mi nes di raddio mewn ffasiwn, felly lle mae merch sydd â gymaint o steil yn siopa?!
Aimee: Unrhyw le lle mae'n rhad - siopau elusen, siopau 'vintage' neu siopau hen ddillad gan ddylunwyr. Weithiau dwi'n mynd i siopa ac ar ôl siopa am ychydig, dwi'n gwybod na fydda i'n dod o hyd i ddilledyn ar y diwrnod hwnnw. Ond, ar ddiwrnod siopa gwahanol, falle y byddaf yn cael teimlad da a'n gwybod fy mod am allu cael dillad.
Nia: O le ges di'r ffrog hon?
Aimee: Topshop Vintage. Nes i dalu tri deg punt amdani, sy'n fwy na dwi'n ei wario ar ddilledyn fel arferol, ond roedd hi'n noson cyn parti nadolig gwaith felly odd rhaid i mi ffeindio rhywbeth yn gyflym! Dwi'n hoffi'r ffordd mae rhywun wedi gwnio'r ffrog yn y canol er mwyn troi'r ffrog lan ychydig gan ei bod hi'n rhy hir mae'n debyg.
Nia: Ydi hanes dillad yn bwysig i ti?
Aimee: Ydi, dyna pam dwi'n hoffi pethau 'vintage' oherwydd pwy sy' wedi eu gwisgo cyn fi. Dwi'n meddwl am pwy oedden nhw a beth oedden nhw'n arfer wneud tybed?
Nia: Pryd wisgais di hon?
Aimee: Ar gyfer fy niwrnod graddio er mwyn edrych fel menyw Gymreig gyda phais o dan a chenhinen bedr, er mwyn i bawb wybod fy mod yn Gymraes. Dwi'n gwisgo'r ffrog bob blwyddyn, adeg Nadolig neu yn ystod y dydd er mwyn teimlo'n arbennig.
Aimee: Dwi'n hoffi dillad clasurol all gael eu gwisgo am flynyddoedd fel jins, ma' pawb yn hoffi jins. Dwi'n meddwl bo' jins yn wych oherwydd ma' nhw'n 'tyfu gyda ti' a dwi'n hoffi un crys denim sy' gen i oherwydd mae'n ddau ddeg pedwar mlwydd oed a dwi dal yn caru e! Dyw e heb fynd mas o ffasiwn a fydd e byth yn mynd mas o ffasiwn oherwydd bod steil unigryw iddo.
Aimee: Dwi'n caru'r ffrog flodeuog hon. Dwi'n caru'r patrwm a'n caru unrhywbeth sydd â blodau arno. Mae'r lliwiau'n wych a ges i'r ffrog i fynd i barti ffrind sy'n byw yn y Cotswolds.
Nia: Rhaid i mi gyfaddef pan welais i'r gardigan hon i gychwyn, doeddwn i ddim yn siwr iawn!
Aimee: Ie, mae bron yn debyg i seddi ar y National Express! Mae'n edrych yn dda iawn gyda phatrymau eraill.
Aimee: Dwi'n edmygu Dolly Parton neu bobl sydd â gwallt mawr a dillad 'eccentric' fel Dolly. Roedd hi fel Barbie - os oedd Dolly'n mynd i sgio, bydde hi'n cael y gwisg cyfan cyn mynd!
Aimee ar ddillad...
Wrth i mi fynd yn hyn, dwi'n mynd yn fwy a mwy hyderus gyda beth dwi'n ei wisgo felly dwi'n mynd yn fwy 'eccentric' bob dydd.