



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Ti'n drefnus iawn, popeth yn ei le! Beth am ddechrau gyda dy ddillad golff di? Ma' 'na reola' dillad ynghlwm hefo golff yn does?
Dwi'n licio meddwl mod i'n dipyn o olffiwr. Dwi'n aelod o Glwb Golff Porthmadog, felly mi fyddai'n chwara' dipyn, ryw ddwy, tair gwaith yr wythnos. Ti'n gorfod bod yn daclus ar y cwrs golff, ti'n gorfod gwisgo trowsus a chrys hefo colar a ballu, dim jîns - ma' na 'etiquette' dwi'n meddwl ydy'r gair cywir iddo fo. Yn theori fi ydy, os wyt ti'n edrych yn dda ar y cwrs - dyna ni, 'na'r cwbwl sy'n cyfri, dio'm otsh os ti'n rubbish, os ti'n edrych yn dda; ti di curo!
Deud ychydig o hanes y siwmper yma wrtha'i.
Ma' hon yn un o'n ffefryna' i, dwi'n gwisgo hon yn amal mewn gigs a ballu. Ond yn anffodus ma' hi di rhwygo wrth y goler ar noson wyllt!
Ydw i'n mynd i gael hanes y noson wyllt yma?
Na, dwi'n meddwl y basa'n well i ti beidio â gofyn!
Pan ti'n deud bo chdi'n chwarae hefo'r band – duda fwy wrtha'i am hanes y band a ballu.
Dwi'n chwarae trymped i Frizbee a hefyd dwi'n aelod o Fand y Royal Oakley, sef seindorf arian felly ma' nillad i'n gwahaniaethu lot rhwng y ddau grŵp. Er enghraifft, o ran crysa', hefo Frizbee, mi faswn i yn mynd am rwbath fel hyn sy'n steil newydd sydd ar lot o grysa' lle ti'n rolio'r llawes fyny at y botwm. Wrth mod i'n chwara trymped dwi ddim isho dim byd sy'n rhwystro mreichia' fi.
Ti'n meddwl yn reit galed cyn mynd ar lwyfan am sut wyt ti'n mynd i edrych neu ydach chi'n trafod fel grŵp sut edrychiad 'da chi isho?
'Da ni ddim yn tueddu i drafod fel grŵp, ond mi fyddai'n hun yn trio gneud yn siŵr mod i ddim yn gwisgo'r un crys-t o fewn dau gig yn ochr ei gilydd lle'i bod nhw'n meddwl mai dim ond un top sydd genna'i - mi fyddai'n licio cal think cyn y gig be ga'i wisgo.
Be am pam fyddi di'n chwara i Fand yr Oakely?
Yn anffodus does 'na ddim Diesel na All Saints yn cael ei wisgo tra dwi'n chwarae yn y band. Gucci ydy hon! Hon ydy'r siaced dwi'n wisgo bob tro i chwarae hefo'r seindorf, felly pob cyngerdd neu gystadleuaeth sydd gynnon ni, da ni i gyd yn gwisgo hon hefo cyrs gwyn a dici-bô!
Neis de, pawb yn unffurf, pawb yn edrych yn dda. Ti'n licio hynna?
Na! Ond ar yr achlysur mae o'n edrych yn reit smart!
O'n i'n clywed bo chdi'n licio gwisgo fyny yn hogyn bach hefyd!
Fi oedd offishali y carnival king yn Blaenau Ffestiniog – saith mlynadd yn undefeated!
Pa fath o wisgoedd oedd gen ti?
Mi fues i'n Teenage Mutant Ninja Turtle, o'n i'n OXO ciwb, Bertie Basset a Pied Piper of Hamlin!
Wyt ti wastad wedi cadw dy ddillad yn drefnus – siwmperi, crysa, crysa-t – popeth yn eu lle?
Ydw, dwi'n licio bod yn reit drefnus. Dwi'n reit obsessive am eu cadw nhw'n eu lliwia hefyd!
Wyt ti'n smwddio ag yn plygu dy dronsia hefyd?
Yndw!!!
Ydy cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o dy fywyd di erioed?
Ydy mi faswn i'n deud i fod o, ers dwi'n hogyn bach rili. Mi oedd fy nhad yn chwara'r organ geg a mi roth o un i mi, a dyna sut nes i gychwyn y ngyrfa cerddoriaeth i ddeu y gwir. Mi oedd y ddau ohona ni'n mynd i glybia' young wives i chwara – jyst y ddau ohona ni ar y llwyfan, wedyn mae o wedi mynd o fan'na. Mi oedd fy nhad wrth ei fodd hefo bandiau pres hefyd, wedyn mi oedd y recordia' yn cael eu chwara'n y tŷ. Dwi'n cofio mynd i wylio'r band yn marchio yn y carnifal a mi nesh i jyst penderfynu'r adag hynny mod i isho chwara' corn fy hun.
Fel arfer isho bod mewn band roc neu chwara gitâr ma' hogia' ifanc ynte?
Dwi'n cofio pan o'n i yn yr ysgol, chwara gitâr, canu a chwara'r dryms oedd y peth cool i 'neud - doedd chwara offeryn pres ddim yn beth cool o gwbwl. Ro'n i'n cal lot o stick amdano fo tra o'n i yn yr ysgol - mi oedd mam yn gorfod mynd a fi yn y car achos fod gen i ofn mynd a nghorn ar y bys.
Wyt ti'n gerddor llawn amser?
Nadw, ma' gynna'i waith ar wahân i chwara i Frizbee a ballu; optegwr ydw 'i, neu Dispensing Optician ydy'r term iawn a dwi'n gweithio i gwmni o'r enw Alton Murphy Opticians - felly nhw sy'n gyfrifol am dalu am y dillad dwi'n wisgo rŵan!
Fel criw ffrindia', ydach chi i gyd yn eitha' ymwybodol o ffasiwn a steil?
Ydan, mi rydan ni bellach, dwi'n meddwl mai oherwydd y fi ydy'w style guru nhw! Mi faswn i'n licio deud eu bod nhw i gyd wedi dal fyny oherwydd fi! Na, ma'r hogia i gyd yn dechra' gwisgo'n lot fwy ffasiynol na oeddan nhw'n ei 'neud; ond dwi'n meddwl fod pawb. Da ni'n byw mewn byd lle ma' ffasiwn yn bwysig - sut ma' rywun yn edrych a sut ma' nhw'n gwisgo - felly ma' pawb yn gwisgo'n reit ddeniadol 'di mynd.
Felly nes di arwain y ffordd pan oedda chdi'n ennill yn y carnifal yn do?
Do tad, pan roish i'r dilledyn OXO ciwb 'na mlaen, fi oedd y trend setter!
- CWPWRDD DILLAD