Cwpwrdd Dillad: Alex Jones
Alex Jones
Alex Jones
Alex Jones
Alex Jones

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Alex Jones

Beth fyddai dy hunllef ffasiwn di?

Wyt ti’n gwybod be dwi wastad wedi meddwl? Pob tro dwi mewn maes awyr, a ti’n aros am dy ges, tasa’r ces yna ddim yn troi lan, fasa fe fel diwedd y byd. Achos ti’n buddsoddi cymaint, nid yn unig arian, ond amser hefyd yn dy ddillad - faswn i’n hollol drist a ddim yn gwybod beth i wneud hebddyn nhw! Fel pob merch dwi’n hoffi siopa a phan o’n i’n fach o’n i’n licio gwisgo lan yn nillad mam a sodlau uchel. Ond mae dillad, a phrynu dillad, yn fy atgoffa i o waith ychydig bach erbyn hyn.

Alex Jones

Ydy siopa gyda steilydd yn brofiad neis?

Ydy. Dros y blynyddoedd dwi wedi bod gyda sawl steilydd gwahanol, mae e jyst fel cael ffrind, achos dwi’n agosach at rhai nac eraill. Mae rhai yn dy nabod di’n well, ac felly dwi’n gallu dewis dillad sydd falle yn gweddu ‘chydig bach yn well. Ond mae ambell i achlysur wedi bod lle mae’r steilydd wedi dweud - “Alex, ni moyn i ti wisgo hwn”, a finnau’n meddwl, o na! A dwi wedi bod yn yr ystafell wisgo bron mewn dagrau yn meddwl, na, dwi’n edrych yn ych-a-fi yn hwnna! Ond gan amlaf da ni’n dod i ryw gyfaddawd, ac mae’r steilydd a fi yn dueddol i ddeall yn gilydd. Mae’n gwneud i ti arbrofi gyda dillad na fydda ti falle ddim yn gwisgo fel arfer.

Alex Jones

Sut fydda ti’n disgrifio dy steil di?

Dwi ddim yn siŵr iawn beth yw’n steil bersonol i erbyn hyn a dweud y gwir. Merch jeans a crys-t dwi di bod erioed. Ond yn y ddeng mlynedd ddiwetha', ers i bobl ddechrau amharu ac ymyrryd, dwi wedi gwella ac yn mynd yn fwy arbrofol erbyn hyn. Dwi’n licio pethe hen, vintage. Mae ambell i ffrog sy’n ffefryn gen i yn hen. Mae un, dwi’n credu o 1940ish, ac mae honno’n un fach bert. Mae hynny yn rhywbeth newydd i mi yn y ddwy flynedd ddiwetha’. Nawr rwy’n joio mynd mewn i farchnadoedd a siopa vintage am oriau!

Alex Jones

Pa un yw dy hoff ffrog?

Hon. Dwi’n licio’r lliw achos ei bod hi’n reit lachar ac mae’r gemwaith arni yn neis. Dwi’n licio pethau sbarcli!




Alex Jones

Wyt ti wedi ei gwisgo hi achos mae’r label yn dal arni?

Do. Mae gen i ryw arfer o gadw tags ar ddillad rhag ofn mod i ishe mynd a nhw’n ôl, ond mae hi bach yn hwyr nawr! Roedd hi yn ffrog ddrud, a dwi’n meddwl y cawn i bant a’i gwisgo hi unwaith, ac wedyn mynd a hi yn ôl i’r siop. Nes i'w gwisgo hi i gyngerdd y Jonesys oedd ar S4C. Yn y parti wedyn, daeth Grace Jones ata’i a gofyn wrtha’i dynnu’r ffrog er mwyn iddi hi gael ei thrio hi ymlaen. Ond wyt ti wedi gweld ei seis hi? Mae hi’n dal ac yn fawr - byddai hi wedi ei rhwygo hi!

Alex Jones

Beth sydd gen ti yn dy gwpwrdd ti ddim yn ei hoffi?

Nawr te, sawl gwasgod wyt ti wedi ei weld hefo lot o geirw arno fe? Brynais i hon am £8 o siop rad yn y dre. Ond brynais i e gan mod i’n meddwl mai ddim yn aml iawn ti’n gweld pethau hefo ceirw ar gyfer y Nadolig! Dwi wedi ei wisgo fe sawl gwaith, er bod y label yn dal arno fe!

Rhywbeth arall sydd yn ych-a-fi iawn yw’r trowsus melyn llachar yma. Brynais i rain i wisgo ar raglen blant achos bod nhw’n llachar, a da ni’n licio lliwiau llachar ar raglenni plant, ond dwi’n meddwl fod hon gam yn rhy bell! Nid yn unig oedd gen i’r trowsus melyn yma ymlaen, ond hefyd roedd gen i liw haul ffug, tywyll iawn ar hyd y nghorff. Felly roedd yr effaith i gyd yn eithaf dramatig, ond am y rhesymau anghywir!

Alex Jones

Wel, mae hon yn anghyffredin!

Un o’r pethau eraill dwi ddim yn licio yn y cwpwrdd ydy’r siwt neidio, neu’r jumpsuit yma! Dwi ddim wedi ei gwisgo hi erioed. Steilydd gath hon i mi. Dyla’ ti fod wedi gweld y ngwyneb i. Dyma’r unig beth dwi wedi llwyr anghytuno am ei wisgo fe, fyddwn i byth yn gadael yr ystafell wely yn edrych fel yma!

Alex Jones

Wyt ti’n sentimental iawn am dy ddillad di?

Yndw, ambell i beth. Os dwi wedi ffendio rhywbeth dwi wir yn garu, fel y pâr yma o fŵts cowboi sydd gen i ers rhyw ddeng mlynedd. Maen nhw wedi bod at y crydd ryw ddeg gwaith achos mod i wedi eu gwisgo nhw cymaint, ac maen nhw wedi mynd yn denau iawn ar y gwaelod. Ond maen nhw’n neis ac yn gyfforddus, maen nhw’n mynd gyda phob dim, a dwi’n gallu cerdded milltiroedd ynddyn nhw. Dwi ddim am gael gwared ohonyn nhw, felly fe fydd yn rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at y crydd! Mae dillad yn bwysig iawn, ti’n cerdded milltiroedd i ffendio nhw, a faswn i ddim yn gwybod beth i wneud hebddyn nhw!