Cwpwrdd Dillad: Alma Williams
Alma Williams
Alma Williams
Alma Williams
Alma Williams

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Alma Williams o'r Fali, Ynys Môn, wedi dotio ar ddillad ers pan oedd hi'n ddim o beth. Pan oedd hi'n ferch fach byddai'n fynych i'w chanfod â'i thrwyn rhwng tudalennau cylchgrawn Vogue. Heddiw, mae gan Alma obsesiwn gwirioneddol gyda defnydd a theimlad dillad - mae hi'n cael eu hudo ganddynt!

Alma Williams

O ble wyt ti'n meddwl y daeth dy obsesiwn di am ddillad?

Dwi'n meddwl iddo ddechrau pan oeddwn i'n hogan fach gan i mi dyfu i fyny efo'n mam a'n nwy chwaer oedd i gyd wedi gwirioni efo dillad. Mi fyddwn i'n aml yn gwylio'n mam yn gwisgo i fyny i fynd allan gyda'r nos. Roedd fy chwiorydd a finnau bob amser yn rhannu dillad, redden ni'n hoff o'r un pethau a doedd na fawr o wahaniaeth oedran rhwng y tair ohona ni.

Alma Williams

Faset ti'n dweud dy fod yn dilyn ffasiwn ta?

Dwi'm yn dilyn ffasiwn i'r pwynt pe byddai rhywbeth newydd yn dod ar y farchnad y byddai'n rhaid i mi ei brynu'n syth bin. Ond mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn y byd ffasiwn ac mi fyddai'n aml yn prynu cylchgrawn Vogue i weld pa fath o ddillad sydd mewn ffasiwn. Dwi di bod yn darllen Vogue ers pan oeddwn i'n Hogan fach. Byddai nyrs gymunedol fy mam, a arferai ymweld yn aml, yn dod â hen Vogues i mi gael eu darllen.

Alma Williams

Beth am dy ddillad di rwan, beth wyt ti'n eu hoffi?

Dwi'n licio dillad mae rhywun yn eu prynu i fynd allan gyda'r nos, dillad urddasol, achos maen nhw'n gwneud i chdi deimlo'n fwy sbesial.

Alma Williams

Alma ar ei ffrog briodas...

Y flwyddyn briodais i oedd y flwyddyn briododd y Dywysoges Diana. Roedd Diana wrth ei bodd efo ffrogiau trawiadol, y steil meringue! Ond doedd y ffrogiau yma ddim yn apelio ata i.

Un diwrnod ddois i ar draws hysbyseb mewn cylchgrawn am siop yn Llundain o'r enw David Fieldman. Roedd David Fieldman yn arbenigo mewn ffrogiau antique style. Roeddwn i'n lwcus iawn gan i'r diwrnod y gwnes i ymweld â'r siop roedd David Fieldman ei hun yno. Roedd y siop yn llawn o ffrogiau bendigedig. Syrthiais i mewn cariad ag un ffrog yn arbennig a dyna'r ffrog wnes i brynu.

Alma Williams

Os fyddai'n rhaid i ti ddisgrifio'r teimlad ti'n cael o weld defnyddiau neu ddilledyn rwyt ti'n ei hoffi sut fyddet ti'n ei ddisgrifio?

Dwi wrth fy modd gweld a theimlo dillad o ansawdd uchel.