Cwpwrdd Dillad: Alun Davies
Alun Davies
Alun Davies
Alun Davies
Alun Davies

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Alun Davies

Sut fydda ti’n disgrifio dy steil di?

Dwi’n meddwl ‘mod i’n eitha' stylish –pobl eraill sy’n anghytuno. Dwi’n gweld fy hun yn eitha’ ceidwadol, dwi’n cydnabod hynny, ond ma’ eraill yn fy ngweld i fel rhywun sy’n gwisgo’n hynod o hen ffasiwn a dwi jyst ddim yn deall hynny.

Alun Davies

Ydy dy waith di fel Aelod o’r Cynulliad wedi dylanwadu ar dy steil di?

Pan 'dwi yn y Cynulliad, yng Nghaerdydd, dwi’n meddwl mod i’n tueddu i wisgo’n eitha’ ceidwadol. Ond draw yn y Gorllewin a’r Canolbarth dwi’n tueddu i wisgo’n llai ceidwadol a falle’n fwy hamddenol. Dwi’n ymwybodol iawn fod dillad yn bwysig i’r ddelwedd a bod pob pwyllgor a phopeth da’n ni’n wneud yn y Cynulliad yn cael ei ffilmio. Mae pobl gartre’n gwylio yn meddwl am sut 'da’ch chi’n ymddangos ar y sgrin a sut 'da’ch chi’n ymddangos pan ma’ nhw yn eich cyfarfod chi, a dyna ma nhw yn gofio amdanoch chi.

Alun Davies

Be mae pobol yn ei ddweud am dy ddillad di?

Ma’ hanner yr e-byst dwi’n eu cael yn y Cynulliad amboiti be dwi’n wisgo. Pobl yn dweud wrthia be ma’ nhw’n ei feddwl am fy nhei i, neu fy siwt neu liw fy nghrys i.

Alun Davies

Pam dy fod di wedi penderfynu mai nawr yw’r amser i newid dy steil di?

Pan ddaeth y cynnig yma lan wnes i ddim meddwl dwywaith amdano fe. Ond roedd pobl yn dweud wrtha'i, dyma dy gyfle di Alun, cyfle i newid y ffordd ti’n gwisgo. Doeddwn i ddim yn meddwl mod i angen newid tan i bobl ddweud hyn wrtha’i. Dwi’n credu mod i yma achos fod pobl eraill wedi dweud wrtha’i 'mod i angen trawsnewidiad.

Alun Davies

Brynle Williams - Ceidwadwr:

Mae Alun yn reit geidwadol, ma’ rhai pobl wedi meddwl ei fod o’n aelod o mharti i! Dwi ddim yn foi stylish iawn, ond hwyrach fod genai just y blaen ar Alun. Yr unig beth sydd gan Alun na sydd gen i ddim ydy ieuenctid!

Alun Davies

Eleanor Burnham - Democratiaid Rhyddfrydol:

Hwyrach y gallai Alun fod llai ceidwadol yn y ffordd mae o’n gwisgo siwt. Er enghraifft, mae yna wahanol siwtiau lle y gallwch chi fod yn fwy unigryw a 'chydig yn fwy lliwgar hwyrach.

Alun Davies

Eleanor Gardner: Er bod gen ti lawer o grysau, ma’ nhw i gyd yn edrych yn rhy fach i ti.

Mae gen i uchelgais o fod yn dennau unwaith eto. Gobeithio, mewn chwe mis pan ddaw’r haf y byddai’n gallu eu gwisgo nhw eto. O’n i ddim wedi sylweddoli mod i wedi magu cymaint o bwysau a bod gan hynny gymaint o effaith ar be 'dwi’n wisgo a sut dwi’n edrych ynddyn nhw.

Alun Davies

Eleanor: Mae’r crys yma’n eitha’ lloerig ac yn fy atgoffa i o’r 90au.

Mae hynny’n beth da. Mae pethau ‘dwi fel arfer yn eu gwisgo o’r 80au felly dwi di symud ymlaen ddegawd yn barod! Dwi’n licio fe - ond dwi’n deall ei fod o’n acquired taste. Fe fyddwn i’n ei wisgo fe i fynd i rywbeth anffurfiol gyda’r nos gyda siwt.

Alun Davies

Eleanor:

Mae braidd yn ddiflas gwisgo navy i’r gwaith bob dydd. A hefyd mae’n liw sy’n edrych yn fflat a diflas ar y sgrin. Mae ‘na ochr ecsentrig yn cuddio tu mewn i ti a dwi isio dangos hynny. Mae’r dillad dwi wedi eu dewis yn mynd at ddelwedd y ‘Welsh Gent’. Ac felly dwi wedi dewis siwt lwyd sy’n codi lliw dy wyneb di'n syth. Ar gyfer dy waith yn y Gorllewin ‘dwi wedi dewis jeans tywyllach i ti sy’n ffitio o gwmpas y wast a’r siaced ‘Welsh Gent’ yma.

Alun Davies

Nia: Beth wyt ti’n feddwl o sylwadau Eleanor?

Dyw hi ddim yn licio lot nag yw hi? Mae pobl yn dweud pethau lot gwaeth yn, a thu fas y Cynulliad mae’n rhaid cofio. Dwi ddim yn becso am hynny gymaint, ond ro’n i’n siomedig ei bod hi ddim yn licio fy nghrys lliwgar i!

Alun Davies

Nia: Wyt ti wedi mwynhau cael cymorth Eleanor?

Dwi wedi mwynhau trio dillad gwahanol ymlaen a dwi’n credu fod beth mae Eleanor wedi dweud wrtha’i ynglŷn â lliwiau gwahanol, be’ 'dwi’n gwisgo a’r ffordd dwi’n gwisgo wedi agor fy llygaid i i lot fawr o bethau gwahanol. Mae wedi bod yn brofiad hynod bositif - dwi ‘di mwynhau!

Alun Davies

Nia: Beth wyt ti’n feddwl o dy steil newydd di?

Mae’r jeans yn ffitio fi a dydy’n nhw ddim o Tesco. Dwi’n licio’r crys yma, ond byddwn i byth wedi ei brynu na hyd yn oed ei drio ymlaen fel arfer, just wedi cerdded i ffwrdd. Rwy’n credu ei fod o’n edrych yn olreit, ond 'dwi’n methu aros i dynnu’r tank-top yma ffwrdd - ma’n gas gen i’r peth.