Cwpwrdd Dillad: Ani Saunders
Ani Saunders
Ani Saunders
Ani Saunders
Ani Saunders

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Ani Saunders

Sut wyt ti’n mynd ati i greu dy steil di?

Dwi’n licio creu outfits newydd mas o ddillad sy’ ‘da fi’n barod. Pan dwi’n gwisgo yn y bore dwi’n teimlo fel mod i’n gwneud llun achos pan ‘da chi’n arlunio chi’n rhoi lliwiau, siapiau a phatrymau chi’n hoffi at ei gilydd. Dwi’n teimlo’n falch mod i ‘di wedi gwneud llun newydd o’r un defnyddiau oedd gen i o’r blaen. Dwi wir yn hoffi gwisgo lan a dwi’n lico silhouette elegant a phethe sy’n edrych yn bert a sparkly. Ma' well gen i wisgo lan gormod na dim digon!

Ani Saunders

Be sydd wedi ysbrydoli neu ddylanwadu ar dy steil di?

Byddwn i’n tueddu i ddweud yr 80au. Dwi’n lico lliwiau pethau’r 80au, y glas a’r pincs llachar. Ond be dwi ddim yn lico yw silhouette o fenywod gydag ysgwyddau llydan, bydden well gyda fi beidio cael ysgwyddau llydan.

Ani Saunders

Ma' hwn yn dop anghyffredin iawn.

Nes i brynu’r top yma o siop elusen, ac roedd ‘na ‘shoulder pads’ ynddo fe, felly nes i dynnu nhw mas. Ma’ gyda nhw nicers ar y gwaelod a chi’n ei glymu o dan a’i wisgo o dan drowsus. Dwi wedi gwisgo fo ond mae’r nicers yn rhy fawr a chi’n gallu eu gweld nhw drwy’r dillad sydd yn bach o broblem.

Ani Saunders

Oes yna ryw gyfnod wedi dylanwadu ar dy waith dylunio ffasiwn di?

Dwi’n lico cyfnod ‘art-deco’ - mae’r dillad mor elegant. Dwi’n lico cynllunio dillad fel’na ond fyddai ddim gwisgo fel’na. Dwi’n lico silhouette y 30au a’r ffordd doedd dim cymaint o ddiffiniad ar y canol fel oedd wedyn yn y 50au. Nes i lot o weu yn fy nghasgliad cynllunio i a ro’n i’n hoffi’r elfen o wneud rhywbeth, o wneud crefft gyda’r dwylo fel y bydde rhywun wedi ei wneud yn ystod y 30au.

Ani Saunders

Ti ddyluniodd y ffrog anghyffredin yma?

Ro’n i wedi penderfynu mod i am gyfuno’r gweu a’r gwnïo, ond roedd yr athrawes wedi dweud wrtha’i am beidio â gwneud hynny achos y byddwn i’n cael lot o broblemau. Ond nes i benderfynu peidio cymryd unrhyw sylw ohoni. Nes i gyfuno’r ddau ac wedyn rhoi’r pleats mewn ag elfen o wisg chwaraeon o’r tridegau hefyd. Roedd e wir yn edrych yn neis ac o’n i wir yn hapus gyda’r ffordd roedd e’n sgleinio pan o nhw o dan y goleuadau ar y catwalk.

Ani Saunders

Wyt ti dal i wneud dillad ers i ti adael coleg?

Ers i mi symud i Brighton, dwi wedi gwneud ffrogiau i fand fy chwaer, Gwenno, sef y Pipettes. Roedd Gwenno a fi’n arfer dawnsio felly dwi wedi arfer bod ar y llwyfan yn dawnsio a gwisgo lliwiau llachar. Dyna ‘dwi’n disgwyl ei weld pan 'dwi’n gwylio pobl ar y teledu neu ar lwyfan, felly ro’n i eisiau rhoi ychydig o’r elfen yna ynddyn nhw a ro’n i’n trio cynllunio’r ffrogiau i siwtio eu siâp nhw yn hytrach na thair ffrog bert.

Ani Saunders

Ydy o’n neis fod gen ti a dy chwaer yr un tast mewn dillad?

Mae hi mor dda yn prynu anrhegion i fi a wastad yn cael pethau sy’ wir yn neis. Ma pob lliw o dan y lleuad ar y top yma. Bydde’ ni ond yn gwisgo trowsus du a thop du a dim byd arall achos ei fod o mor llachar. Dwi’n meddwl y bydda plentyn yn licio hwn! Mae’n rhaid bod yna ddylanwad o fy mhlentyndod yn mynd mewn i be’ 'dwi’n wisgo achos ma' plant yn dueddol i fynd am rywbeth lliwgar a llachar.

Ani Saunders

Ma’r got yma’n un bendigedig.

Dwi’n teimlo fel mod i mewn ffilm Ffrengig pan 'dwi’n gwisgo’r got yma, fel bo fi jyst ishe rhedeg o gwmpas Paris ynddi. Wisges i’r got yma hefo brolly mawr a bag pan es i i weld Mary Poppins yn y West End ac o’n i'n meddwl mai fi oedd Mary Poppins!

Ani Saunders

Wyt ti’n gwisgo fyny i fynd allan?

Fi wir yn mwynhau gwisgo lan i fynd mas yn arbennig yn Brighton. Da’n ni ddim yn mynd i glybiau’n aml, da’n ni’n dueddol i fynd i dafarndai, ond pan da ni yn mynd mas mae wir yn hwyl a dwi’n paratoi lot o flaen llaw. Fe wnes i hynny noson Galan ac roedd ‘da fi’r wisg tua mis cyn y noson. Weles i’r wisg ac o’n i’n meddwl ei fod o’n ormod i’w wisgo ar unrhyw noson arall o’r flwyddyn ond yn berffaith i noson Galan. Ma’n eitha horrible, ond dwi wir yn lico fe a nes i fwynhau ei wisgo fo. Pan ych chi’n mynd mas Flwyddyn Newydd neu ryw achlysur arbennig chi’n prynu un outfit neis, o’n i just wir yn lico pa mor horrible oedd e. Dyna be dwi’n meddwl dwi’n licio neud, trio neud rhywbeth sydd ddim mor neis â hynny a neud e mor neis a dwi’n gallu.

Ani Saunders

Ma dy steil di’n wahanol iawn yn tydi?

Yr hyder yw e. Dim sut dwi’n edrych, ond bod gen i’r cheek i feddwl bo’ fi yn mynd i edrych yn neis ynddo fe, dyna beth yw e fi’n credu. O’n i 'di cyrlio ngwallt i gyd a’u rhoi nhw mewn curlers dros nos ac wrth i mi orffen nes i sylweddoli mod i’n gweithio’r diwrnod wedyn. Felly ro’n i’n gorfod bod yn y gwaith drwy’r dydd gyda rollers yn fy ngwallt. Ond 'nath neb gymryd unrhyw sylw. O’n i’n eitha’ upset - mae gen i rollers yn fy ngwallt, pam nagoes neb yn rhoi sylw i mi!?

Ani Saunders

Pa mor bwysig ydy dillad i ti?

Pam dwi’n gwisgo lan dydw’i ddim yn meddwl i mi fy hun, ydw i’n mynd i gael sylw yn y dillad yma? Ond mae’n rhaid bod rhywbeth yng nghefn fy meddwl i, achos dwi’n gwisgo’r lliwiau llachar a’r patrymau yma a does dim byd tawel nac yn neud i unrhyw un feddwl fy mod i eisiau cuddio. Os oes rhywun yn dweud eu bod nhw’n licio be ti’n wisgo, mae fel bod rhywun yn dweud eu bod nhw’n lico’r llun ti di tynnu. Rwy’n siŵr ei fod o fwy am hynny na fi’n edrych yn neis. Dwi’n hapus fod pobl yn lico be dwi’n ei roi at ei gilydd.