Cwpwrdd Dillad: Ann Sandbrook
Ann Sandbrook
Ann Sandbrook
Ann Sandbrook
Ann Sandbrook

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Ann wedi dawnsio bol ers rhai blynyddoedd bellach. Mae hi'n cynnal dosbarthiadau bron bob nos ac yn trefnu sioeau ar gyfer achosion da. Mae’n trafeilio cyn belled â Chairo i gael gwneud rhai o’r gwisgoedd ar gyfer ei hun a’i dawnswyr, Y Divas.

"Yn y dydd dwi’n trin gwallt, ond yn y nos dwi’n dawnsio bol! Er mwyn dawnsio bol mae ishe tri ‘B’s’ arnoch chi - ma’ ishe boobs, bum a ma' ishe bottle!"

Ann Sandbrook

Pam wnaethoch chi benderfynu eich bod chi ishe dechrau dawnsio bol?

Roeddwn i eisiau dechra' cadw’n ffit, a ro’n i mewn oedran od! Es i i un neu ddau o wersi keep fit, ond wedi gweld y dynion ‘na i gyd mewn lycra – do’n i ddim yn licio hynny! Mi glywais i am ddawnsio bol, a gan mod i yn licio dawnsio, mi es i’w drio a’i licio fo. Mae e’n very addictive wedyn, munud ‘da chi’n dechre- y gwisgo lan, y sbarcls i gyd- ma’ fe’n grêt!


Ann Sandbrook

Be ydach chi’n wisgo i ddawnsio?

Yn y dechra da chi’n gwisgo sgert ac wedyn chi’n gwisgo sgarff, chi’n siglo a ma’ nhw’n gneud sŵn. Da chi’n cael gwisg wedyn sydd â sgert sbarcls a bra. Pan ‘da chi’n dawnsio mae’n rhaid i chi gael y bra yn solid, achos pan da chi’n codi’ch dwylo lan, ma' popeth yn shifftio! Mae’n rhaid felly iddo fo eich ffitio chi’n iawn ac yn isde yn deidi arnoch chi! Wedyn ‘da chi’n cael y sgidie i fatshio- ma' hynny’n rili ecseiting ac mae’r lliwie yn ffabiwlys!


Ann Sandbrook

Ydach chi’n teimlo’n secsi wrth ddawnsio?

Ydw, brilliant, mae o’n ffab!



Ann Sandbrook

Pam fod gennych chi nicars mawr hefo’r ddraig goch arnyn nhw?

Mi ‘naethon ni sioe ryw dro, ac roeddwn i wedi gwisgo fyny yn y ngwisg, ac er mwyn dod ac ychydig o hwyl i’r sioe roedden ni wedi tycio’n sgerti i mewn i’n blwmars fel pan oedden ni’n troi rownd rodd y fflag ar ddraig ar ‘yn pen ola’ ni! Dwi’n hidio dim am neb ar y llwyfan, dim ond joio!


Ann Sandbrook

Beth oedd ymateb eich gŵr pan ddywedoch chi eich bod chi’n mynd i ddechrau dawnsio bol?

Ddeudais i ddim wrtho fo yn y dechra, o'n i’n mynd i’r dosbarth yng Nghaerdydd ac ro’n i’n dod 'nôl gyda chôt fawr dros y dillad, ag roedd o’n holi, “where have you been?” a finna’n ateb “Keep fit”. Ac roedd hyn yn mynd ‘mlaen am tua chwe mis nes y des i adra un noswaith a wedodd e, “Ann bach ti’n edrych yn dwp iawn i fynd i keep fit class!” Roedd e’n gwybod yn iawn beth oedd gen i ymlaen o dan y gôt, wedyn mi oedd yn rhaid i mi ddweud ble o’n i’n mynd. Ond roedd gen i ofn dweud rhag ofn iddo fe fynd yn grac!


Ann Sandbrook

Ydych chi yn un sydd yn mynd yn sentimental ac yn cadw eich dillad?

Dwi’n cadw popeth! Mae pâr o wellies melyn ‘da fi, a ma' nhw wedi bod ‘da fi ers blynyddoedd mawr. Fe aethon ni i’r ŵyl ym Mhontardawe flwyddyn dwytha’ ac roeddwn i’n gwisgo fy ngwisg dawnsio bol a’r wellies bach melyn yma ymlaen. Roedd pawb ar y cae yn holi o le ces i nhw ond ma' nhw yn hen iawn - dwi’n cadw popeth.


Ann Sandbrook

Sut deimlad ydi o pan ‘da chi ar ganol y llwyfan yn eich gwisg gogoneddus, ydych chi’n teimlo’n berson gwahanol?

Yndw, da chi’n anghofio popeth arall. Mae’r miwsig yn mynd ymlaen a ma’r ffrog gennych chi a da chi’n gadael i fynd. ‘Da chi’n dawnsio ac yn anghofio pwy ydych chi. Mae rhai merched yn dawel, dawel ond unwaith maen nhw yn rhoi'r wisg ymlaen ma’ nhw yn rhywun arall.

Dwi’n dwli ar y dillad i gyd a ma’ nhw yn rhoi shwd gymaint o bleser i mi dwi’n dwli arnyn nhw.


Ann Sandbrook

Sut fasa chi’n teimlo tasa chi’n colli rhain i gyd?

Wel, os fyddwn i’n colli nhw i gyd mi fyddwn ni’n mynd mas i Cairo ac yn prynu rhai eraill!