



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Anwylyd Wynn Jones yn deilwres sydd wedi etifeddu ei dawn a'i chariad tuag at ddillad gan ei mam.
Sawl cwpwrdd dillad sydd ganddo'ch chi?
Gormod mae'n siŵr. Dwi'n hoff iawn o ddillad, ac wedi bod ers pan oeddwn i'n hogan fach. Roedd mam yn gwisgo'n smart ac fe ddysgais i wnïo ganddi hi. Pan oeddwn i ryw ddeg neu ddeuddeg oed fe ddysgais i dorri patrymau allan, dysgu dewis lliwiau a defnydd a hefyd sut oedd gwneud y dilledyn.
O le fyddech chi'n cael y patrymau?
Roeddwn i'n ffond iawn o batrymau Vogue, mae gen i sawl ffrog hir wedi ei gwneud o batrymau Vogue. Efallai y byddwn i'n defnyddio'r un patrwm pump, chwe gwaith.
Ydy dilyn ffasiwn wedi bod yn bwysig i chi erioed?
Ydy. Byddwn i ddim yn meddwl ddwywaith am wisgo rhywbeth sydd ddim mewn ffasiwn, efallai y byddwn i yn ei gadw, ond fyddwn i byth yn ei wisgo. Mae gen i amrywiaeth o hetiau bob lliw. Fe fyddwn i'n eu gwisgo nhw i fynd i'r Capel, ond yr unig beth fyddai'n teimlo hefo het yw ei fod yn gwasgu eich gwallt chi. Ond, mae hetiau yn gallu gorffen outfit, does dim dwywaith am hynny.
O ble ddaeth yr hoffter am sgarffiau?
Mae gen i dipyn o sgarffiau, gormod efallai. Mae'n ffrindiau fi i gyd yn gwybod, pan mae'n Nadolig neu'n ben blwydd arna'i, maen nhw'n gwybod mod i'n licio sgarffiau. Mae gen i bob math o liwiau, dwi'n ffodus ofnadwy, digon i fynd hefo pob outfit.
Sut fath o ddillad sydd gennych chi?
Mae gen i amrywiaeth o bethau, yn cynnwys 'shoulder-pads'! Ambell waith mi fyddai'n rhoi 'shoulder-pads' i mewn yn yr ysgwyddau er mwyn iddo edrych yn lletach i gyd-fynd hefo'r gweddill. Dyma'n ffefryn i, mae'n siaced ddefnyddiol iawn achos mi fyddai'n ei gwisgo hefo du, ond fe fedrai ei gwisgo hi hefo pob un o'r lliwiau sydd ynddi. Dwi'n ffond iawn o'r siaced haf yma, dwi'n ffond iawn o batrymau a blodau.
Beth yw hanes y wisg hon?
Jumpsuit ydy hon oedd yn ffasiynol ryw bymtheg mlynedd neu fwy yn ôl. Mae hi wedi ei leinio ac mae ganddi felt patent du, wedyn fe fydd y top yn dod dros y belt ychydig bach. Ond mae eisiau ychydig o amynedd i fynd i'r tŷ bach ynddi! Mae hi'n gyffyrddus iawn ac yn ffefryn, fyddai byth yn gallu cael gwared a hi.
Ydych chi'n efelychu steil rhywun yn arbennig?
Dwi'n meddwl fod gen i'n steil fy hun. Dwi ddim yn poeni llawer am be mae pawb arall yn ei wisgo. Dwi'n hoff o fy nillad ac yn hoffi edrych yn neis trwy'r amser, prun a'i yw'r dillad wedi eu gwneud gartref neu wedi eu prynu o'r siop, maen nhw i gyd yn bwysig, maen nhw'n rhan ohono i.