



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Arfon Haines Davies yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac mae'n ymddiddori mewn unrhywbeth sy'n ymwneud â'r gorffennol. "Fel rhywun sy’n tueddu i fyw yn y gorffennol, mae unrhyw beth sydd yn fy atgoffa i o’r gorffennol yn mynd i apelio. Dydw i ddim yn gwybod o ble ddaeth y diddordeb mewn dillad, yn sicr nid o fy nhad, er bod fy nhad yn ddyn smart iawn, ond doedd o ddim yn ddyn fyddai’n mynd allan i brynu crysau a chardigan a phethau felly."
Pam eich bod mor hoff o wisgo siwt?
Dwi’n un o’r rhai sydd yn meddwl yn bendant fod siwt hefo tei yn edrych gan mil gwell na siwt hefo crys agored fel mae ffasiwn y dyddiau yma. Dydw i ddim yn berson hyderus, ond dwi’n teimlo’n fwy awdurdodol mewn siwt, sydd yn rhoi hyder i mi.
Mae hon yn siaced smart, o ble ddaeth hon?
Mae rhai o’r siwtiau sydd yn fy nghwpwrdd i yn hŷn na rhai o gyflwynwyr S4C! Mae’r siaced yma’n mynd yn ôl i’r dyddiau pan oeddwn i’n dysgu yn ysgol gynradd Brynford, ger Treffynnon yn y 1970au cynnar. Faswn i byth yn gallu cael gwared â’r siwt yma oherwydd yr atgofion, efallai fod yna sialc yn dal i fod yn ei phoced hi!
Beth yw hanes rhain?
Dwi’n hoff o liwiau hydrefol. Roeddwn i’n ffilmio mewn ffactri wlân yn Nhrefriw, Dyffryn Conwy, ryw saith, wyth mlynedd yn ôl, wedi gorffen ffilmio roeddwn i’n edrych ar y defnydd a’r gwlân, ac fe ddywedon nhw wrtha’i am brynu siwt, ac fe wnaethon nhw un i mi. Siaced a gwasgod ydy hi. Fe gymeron nhw fy mesuriadau i a rhyw dri mis wedyn fe ges i alwad ffôn i ddweud fod fy siwt i’n barod! Dyma’r unig siaced dwi erioed wedi ei gwisgo roedd fy nhad yn hoff ohoni! Roedd o wastad yn dweud wrtha’i ei fod o yn ei hoffi, felly mae gen i dipyn o feddwl o hon.
Beth yw eich diddordebau ar wahân i ffasiwn?
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn trenau a rheilffyrdd a Hollywood y 1930au, 40au a’r 50au, yr oes aur. Roedd Cary Grant wastad yn edrych fel pin mewn papur. Dwi’n credu fod Cary Grant yn dipyn o arwr dillad a steil i mi.
Ydy eich steil chi wedi newid dros y blynyddoedd?
Dwi wedi cael fy nghyhuddo sawl gwaith mod i ddim wedi newid o safbwynt ffasiwn ers y 1970au, mod i dal i wisgo sbectol blastig a bod y ngwallt i’n debyg i fel roedd o bryd hynny. Mae’n siŵr felly fod y cyfnod hwnnw wedi dylanwadu yn fawr arna’i.
Beth yw steil i chi?
Pan ddechreuais i wneud gwaith cyhoeddi dwi’n cofio mam yn dweud wrtha’i: “siwt dywyll, crys gwyn a thei smart” ac mi fyddai’n olreit. Roedd hi hefyd yn dweud ei bod hi’n bwysig gwisgo esgidiau wedi ei glanhau - gall hynny ddweud lot am berson. Dydw i ddim yn meddwl fod ffasiwn wedi newid cymaint â hynny yn ystod y deg mlynedd ar hugain ddiwethaf.
Mae’r siwmper hon yn wahanol, o ble ddaeth hi?
Roedd mam yn arfer gwneud siwmperi i mi hefo patrymau anhygoel, roedd yna lawer o waith yn mynd mewn iddyn nhw. Roeddwn i’n gwisgo rhai ar y teledu ac weithiau roeddwn i’n teimlo eu bod nhw yn lliwgar iawn a bod angen hyder i’w gwisgo nhw. Felly dwi’n credu mod i ychydig mwy hyderus nac oeddwn i wedi meddwl mod i.
Mae gennych chi gasgliad anhygoel o deis!
Dwi’n hoff iawn o wisgo tei a dwi’n eu prynu yn rhy aml! Pan oeddwn i ar y teledu, roedd y gwylwyr yn anfon teis i mewn i mi ac yn gofyn i mi eu gwisgo nhw ar y teledu, roeddwn i wrth fy modd yn gwneud. Ond dwi’n credu fod tei yn ddewis personol iawn. Dwi’n cofio ryw ddwy, dair blynedd yn ôl roedd rhywbeth yn y Wales on Sunday am bobl yng Nghymru sydd yn gwisgo’n smart. Ac o’r pumdeg uchaf, roeddwn i’n seithfed ar hugain!