Cwpwrdd Dillad: Audrey Mechell
Cwpwrdd Dillad: Audrey Mechell | Carwyn John | Joyce Jones

Audrey Mechell
Audrey Mechell
Audrey Mechell
Audrey Mechell

Does dim llwyfan yng Nghymru nad yw wedi ei throedio gan gwmni theatr Audrey Mechell. Oddi ar y llwyfan, mae ei dillad hi yr un mor ddramatig. Un peth unigryw am Audrey Mechell ydi na wneith hi fynd ar gyfyl unrhyw siop heb fod popeth yn cydweddu'n dda.

Audrey: Mae yna lawer yn gofyn i mi lle ydw i'n prynu fy nillad, faint ydw i'n roi amdanyn nhw, sut ydw i'n cael dillad sy'n cydweddu'n dda ac ati. Y peth ydi, mi bryna i ddillad yn rhywle boed o'n y farchnad yn Llangefni, y farchnad yn Sbaen, diom ots genai mewn gwirionedd. Os ydi o'n tynnu fy llygad i, fydda i byth yn gofyn faint ydi o nag o le mae o wedi dod ond mi fydda i'n gofyn os ydi o am fy siwtio.

Audrey: Methu deall ydw i sut fod pobl yn meddwl mod i'n gwario ffortiwn ar ddillad. Tydw i ddim. Mae genai ambell i ddilledyn sy'n y cannoedd ond dim llawer. Daeth rhywun draw i'm gweld yn ddiweddar a dweud bod yna siwt yn Tesco fyddai'n fy siwtio i'r dim felly draw a fi'n syth bin i'w phrynu hi.

Audrey Mechell

Audrey: Os dwi'n rhoi 'sgidiau arian amdanaf, mae'n rhaid i mi gael bag i fynd gyda nhw. Hyd yn oed os ydw i jyst yn mynd i Cemmaes, os fydda i'n gwisgo côt frown, rhaid i mi gael 'sgidiau brown. Fyddwn i byth yn rhoi 'sgidiau du amdanaf.

Audrey Mechell

Nia: Dach chi'n licio denim Audrey?

Audrey: Ydw. Fase 'na lawer o bobl fy oedran i byth yn mentro gyda denim ond mi fydda i. Dwi'n gwisgo jîns drwy'r adeg.

Audrey Mechell

Audrey: Siwt gymanfa ganu ydi hon. Os ydach chi'n teimlo'n isel weithiau, gwisgwch goch a fyddwch chi ddim yn teimlo run un! Mae gofyn i chi fod yn reit hyderus wrth wisgo coch yn fy oedran i. Ond mi wnaf wisgo coch ond fyddai'n gwybod pryd i roi'r gorau iddi...ar ôl i mi fynd siwr o fod.


Nia: Ydach chi wedi ei ffeindio'n anodd i ddod o hyd i ddillad sy'n ifanc gan eich bod chi'n teimlo'n ifanc ond eto eisiau dillad sy'n eich siwtio chi a'ch bod chi ddim yn 'mutton dressed as lamb' fel petae?

Audrey: Yn hollol! Yr ateb i hynny faswn i'n dweud ydi pan dach chi'n sbio yn y drych, mae'n dweud wrthoch yn syth os mai 'mutton' neu 'lamb' ydach chi. Os dach chi wedi rhoi rhywbeth amdanoch a hwnnw'n rhy ifanc i chi, tydach chi ddim yn mynd i edrych yn dda. Cofiwch eich bod chi'n siarad gydag actores. Rhaid i chi gofio eich bod yn siarad gyda drama. Nai wisgo bron unrhywbeth.

Audrey Mechell

Nia: Pan dach chi'n sbio ar y ffrog hon rwan, ydach chi'n cael y teimlad o cyn mynd ar lwyfan?

Audrey: Fy nghwmni cyntaf oedd Cwmni Mechell a mi roedd yna ddeunaw yn y cwmni a fi oedd y Ferch o Gefn Ydfa sef y brif ran. Hon oedd y ffrog oeddwn yn ei gwisgo a fi wnaeth wnio pob darn ohoni. Pan dwi'n sbio arni rwan, mae yna hiraeth yn dod drosof ond hefyd balchder ar yr un pryd.

Nia: Ydach chi'n gwisgo popeth dach chi'n brynu?

Audrey: Ew mawr, nac ydw! Fyddai ddim yn cofio fod genai rhai pethau. Fyddai'n dod ar draws blowsus weithiau sydd heb eu tynnu o'r cwpwrdd ers i mi eu prynu. O! Mae hynny'n ofnadwy ond mae'n wir.

Nia: Felly ydach chi'n ystyried eich hun fel 'shopaholic' felly?

Audrey: Bendant! Ath yr hogiau a mi i Iwerddon am 'drît' ond welis i ddim un siop, dim ond gweld lle oedd Oscar Wilde yn byw a lle oedd Molly Malone. Doeddwn i ddim eisiau gweld lle oedd Molly ac Oscar, o'n i jyst eisiau mynd i siopa. Ches i'm mynd i un siop. Dyna i chi siom. Ond brynais i rywbeth wrth ddod adre ar y cwch ond nes i ddim mwynhau'r gwyliau yna rhyw lawer.

Audrey Mechell

Audrey: Fedrai ddim dwad adre'n aml iawn heb brynu pâr o sgidiau, dyna fy ngwendid. Fyddai'n mynd a chesys gweigion gyda mi ar fy ngwyliau er mwyn dod a nhw adre gyda mi.

Audrey Mechell

Nia: Dwi erioed wedi gweld gymaint o sgidiau mewn un ystafell yn fy mywyd! Lle ydach chi'n eu cadw nhw i gyd?

Audrey: Mae'r rhan fwyaf ohonynt yng ngwaelod y cwpwrdd dillad mawr. Mae trio dod o hyd i ddwy, wel mae eisiau cychwyn awr cyn i chi fynd i rywle. Dim ond un fyddwch chi'n ffeindio'n aml ond dach chi'n gwybod fod y llall yna'n rhywle. Does dim peryg i roi unrhyw bâr arall amdanoch, rhaid ffeindio'r union rai yna.

Audrey Mechell

Audrey: Mi brynais i sgert flodeuog rhyw dro a ffeindio sgidiau oedd yn cydweddu mewn siop hollol wahanol. Gan fy mod yn dreifio llawer bryd hynny, prynais un pâr gyda sodlau gyda defnydd drostynt a pâr arall heb.

Audrey Mechell

Audrey: Roeddwn i'n meddwl bod y sgidiau coch yma'n lyfli pan brynais i nhw. Dyma fi'n gwisgo amdanaf un dydd Sadwrn a gwisgo sgert goch gyda'r sgidiau. Falle mod i 'di mynd dros ben llestri gyda'r coch oherwydd dyma'r ferch ieuengaf yn dweud wrtha i "Wel Mam bach, mae'r Yellow Brick Road yma!" Dyna ddiwedd ar y sgidiau coch, dwi 'di pwdu gyda nhw. Ond nai ddim eu taflu nhw chwaith.

Audrey Mechell

Nia: Beth ydi'r gyfrinach felly? Sut ydach chi'n dal i edrych mor ifanc a'n gwisgo'n ifanc ond eto'n smart ar yr un pryd?

Audrey: Wel, dwi'n tynnu at fy 80 a dwi'n edrych yn y drych weithiau a'n diolch i Dduw mod i'n gallu edrych fel unrhywbeth erbyn hyn! Dwi'n lliwio fy ngwallt, 'sa waeth i mi ddweud hynny'n blaen achos ai ddim yn wyn tra byddai fyw! Dwi 'di dweud wrth y ferch trin gwallt os ydw i'n marw iddi ddod yma i roi lliw i'm gwallt cyn i neb fy ngweld! Dwi'n meddwl mai agwedd at fywyd sy'n ei wneud o ac mae gennych chi ddawn gyda dillad neu beidio.

Audrey ar ddillad...
Ar ôl i mi fynd a dillad i siop elusen, bydd hangers dros ben yn y cwpwrdd a mwy o le a does dim posib cael hangers gweigion nag oes?! Dyna ydi'r drwg.

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25