Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Awen Teifi
CWPWRDD DILLAD: Buddug Jones | Awen Teifi | Dewi Foulkes
Awen Teifi
Awen Teifi
Awen Teifi
Awen Teifi

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Awen Teifi yn gynllunydd ffasiwn ifanc uchelgeisiol.

Awen Teifi

Be ydy dy uchelgais di yn y byd ffasiwn?

Dwi'n bwriadu cael cymaint o brofiad ag y fedra' i yn gweithio i'r enwau mawr i gyd yn Llundain a falle ym Mharis neu hyd yn oed Milan. Ar ôl blynyddoedd o brofiad dwi'n meddwl y byddai'n barod i sefydlu label fy hun- ryw fath o brosiect lle dwi'n dylunio i fi yn hytrach nag i bobl eraill.

Awen Teifi

Eglura wrtha' i sut mae dy yrfa ffasiwn di wedi dy arwain di i Lundain.

Esh i i Goleg Menai i astudio Celf Gain, Sculpture a Tecstiliau. Mi nathon nhw ddweud wrtha'i yno fod gen i dalent am ffasiwn ac y dylwn i fynd i astudio ffasiwn yn Llundain. Nesh i roi cais i fynd i goleg Westminster a gesh i mewn, a dyna lle wnes i gychwyn fy nghwrs gradd a dwi newydd raddio eleni.

Awen Teifi

Be wnes di ar gyfer dy brosiect terfynol i'r cwrs gradd?

Nesh i 'neud lot o waith wedi ei ysbrydoli gan sculpture - gwahaniaeth siâp a sut oedd siâp yn llenwi gofod. Wedyn mi nesh i gymryd ysbrydoliaeth o hynny ac o gelf a dyna sut ddes i fyny hefo'n mhrosiect gradd. Ma tailoring yn bwysig iawn i mi. Dwi'n meddwl fod toriad rhywbeth yn gallu newid siâp person a ma' hynna'n agos iawn at sculpture i mi - dyna lle dwi'n cael fy ysbrydoliaeth.

Awen Teifi

Ma' llawer yn dweud fod y ffin rhwng celf a ffasiwn yn denau iawn neu yn croesi, be ydy dy farn di ar hynny?

Ma'n bwnc sy'n cael ei ddadla' lot. Ma' pawb yn dweud fod ffasiwn yn rwbath commercial, ond pan ti'n cyrraedd y lefel ucha' fel couture a llefydd dwi 'di gweithio yn y gorffennol - ma' yna lein dena iawn rhwng darn o gelf a rhywbeth ti'n wisgo.

Awen Teifi

Wedi i ti raddio, be wnes di wedyn?

Mi 'nath 'na rywun o Giles Deacon fy ngweld i yn Graduate Fashion Week a gofyn i mi helpu nhw hefo eu sioe Spring/Summer nhw ar y pryd. Mi ges i berthynas da hefo cwmni Giles, ond wedyn ar ôl y sioe mi ath petha'n ddistaw, felly mi es i weithio a chael pres. Ond dwi rŵan newydd orffen sioe Autumn/Winter 2009 hefo Giles.

Awen Teifi

Be sydd gen ti yn dy gwpwrdd dillad? O le ges di'r siaced frown yma?

Un o'r prosiectau cynta' nes i yn fy nhrydedd flwyddyn yn y Brifysgol ydy'r siaced yma. Ma' hi wedi ei hysbrydoli gan tailoring a bywyd yn Harrow on the Hill ag eccentricities y dosbarth uwch! Nesh i edrych ar tailoring Saville Row a'r technegau gwahanol oedden nhw'n eu defnyddio a sylwi fod y ffordd yr oedd y lapel yn disgyn yn bwysig. Felly mi nesh i roi welt pocket ar y lapel i ddangos ei fod o'n disgyn yn union yn y lle iawn. Mi nesh i neud y siaced yma i gyd hefo llaw a dwi wrth fy modd yn chwarae hefo'r manylion i gyd.

Awen Teifi

Ma' yna waith manwl iawn yn mynd mewn i'r dillad yma yn does?

Dwi'n mwynhau gwneud y manylion a gwario amser yn gwneud rhywbeth yn gywir. Nesh i gael y syniad yma o ddefnyddio pleats ar ôl sbïo ar grys tuxedo dyn. Wedyn symud y syniad ymlaen er mwyn gwneud ffrog i ferch. Mi oedd yn bwysig i'w gario fo drwy'r casgliad i gyd.

Awen Teifi

Chdi sydd wedi gwneud y siaced a'r trowsus aur yma?

Ma' rhain o'n sioe gradd i. Mi nesh i ddechra' defnyddio defnyddiau mwy drud a defnyddio prints a silver foil. Hefo'r siaced mi nesh i ddefnyddio netting i greu volume yn y cefn. Nesh i brynu defnydd y siaced o siop ddefnyddiau couture yn Llundain. I wneud y trowsus mi nesh i brynu linen o Iwerddon a phrintio ar y linen hefo puff binder a foil adhesive. Wedyn rhoi'r foil ar ben y binder er mwyn ceisio cael yr un effaith a'r defnydd couture.

Awen Teifi

Mae'r ffrog aur a'r siaced ffwr yma'n edrych yn arbennig. A'i chdi wnaeth y rhain hefyd?

Darnau vintage ydy rhain dwi un ai wedi eu benthyg neu wedi eu ffeindio mewn siopa vintage yn Llundain. Ma'r ffrog yma o'r 80au - fel Dallas number, a ma' hi'n dda i fynd allan. Dwi' fel arfer yn ei gwisgo hi hefo côt ffwr gesh i'n anrheg. Ffwr llwynog ydy hi o'r 50au a ma hi'n rili cynnes - dwi di bod yn gwisgo hi lot dros y gaeaf.

Awen Teifi

Ma'r siaced aur a brown yma'n edrych yn anghyffredin iawn. O le ges di hon?

Ma hon yn siaced ddrud iawn o'r 50au o Hong Kong. Nain fy nghariad sydd wedi rhoi hon i mi - ma hi'n tailor-made ag ma'r defnydd yn amazing! Ma'n braf gwisgo rhywbeth fel hyn i'r gwaith, ma'n destun sgwrs bron gan fod pawb yn dweud wrtha'i ei bod hi'n unigryw ag yn gofyn o le dwi wedi ei chael hi.

Awen Teifi

Oherwydd dy fod di'n gweithio yn y byd ffasiwn, oes yna bwysa' arnat ti i edrych yn arbennig drwy'r amser?

Dwi'n meddwl fod be ydach chi'n ei wisgo yn bwysig os ydach chi'n gweithio yn y byd ffasiwn, ond does 'na ddim rhaid i chi edrych yn amazing, jyst cael darna' diddorol.

Awen Teifi

Ma gen ti ddwy wisg liwgar o'r 1980au yma sydd hefo top a gwaelod yr un patrwm. Pryd fyddi di'n gwisgo rhain?

Ma' rhain yn handi. Laura Ashley ydy'r ffrog a'r siaced. Dwi'n gwisgo'r ffrog hefo siaced ledar a ma'r siaced yn mynd yn rili cŵl hefo skinny jeans du a sgidia trendy er mwyn i godi fo 'chydig bach. Wedyn ma'r siwt arall, yr un las hefo sgert yn un o siop Bus Stop o'r 80au a ma'r siwt yna'n handi iawn i wisgo i gwaith. Mi fedrai wisgo'r sgert hefo top a'r siaced hefo jîns.

Awen Teifi

Ydy dillad yn golygu lot i ti? Wyt ti'n cadw nhw i gyd?

Ydy yn bendant ma dillad yn bwysig i mi. Ma' 'na rwbath neis am ddillad vintage - ma' yna deimlad gwahanol iddyn nhw, fatha bod yna hanes tu ôl iddyn nhw sy'n well na gwisgo rhywbeth o'r stryd fawr dwi'n meddwl. Os ydach chi'n methu fforddio dillad designer ma' dillad vintage yn ffordd dda o gael rhywbeth unigryw lle bo' chi'n edrych fel pawb arall.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales