



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Brychan Llŷr a Sara Hunter yn ddau sy'n dwli ar un o labeli hynaf Prydain.
Cotiau beic modur oedd un o gynnyrch cynharaf Barbour, dim lledr oedd y rhain, ond cotiau o ddefnydd cryf wedi eu socian mewn cwyr.
Ffermwyr o'r Alban oedd teulu'r Barbour, ond yn 1894 aeth John Barbour ati i arallgyfeirio. Dechreuodd gynhyrchu dillad. Yn syth bin roedd y cotiau ymarferol hyn yn llwyddiant. Dros y blynyddoedd mae Barbour wedi addasu ac ychwanegu at y casgliad er mwyn sicrhau hir oes i'r label.
Brychan Llŷr
Beth mae dillad Barbour yn ei olygu i ti?
I mi, dim eitem o ffasiwn ydy'r siaced Barbour, ond rhywbeth hollol ymarferol. Os ydych chi'n sefyll yn gwylio rasus pwynt i bwynt neu mas mewn rhyw sioe, ma' pawb bron yn gwisgo côt Barbour. I mi, dau bwrpas sydd i'r gôt hon, sef i fy nghadw i'n sych ac yn dwym. Ma'n ticlo fi 'chydig bach eich bod chi wedi dod lawr fel rhaglen ffasiwn i siarad gyda fi yng nghanol y ffarm a'r ceffylau, ond dyna'r bywyd sydd gyda fi.
Be wyt ti'n ei wybod am hanes y cwmni?
Mae'n dal hyd heddi i fod yn fusnes teuluol. Margaret, y ferch yng nghyfraith sy'n ei redeg e nawr. Mi oedd bachan dwi'n nabod sy'n rhedeg y dafarn dros yr hewl yn arfer mynd mas gyda hi am sbel a dyna shwt ffeindiais i mas fod posib i chi yrru côt yn ôl i'r cwmni i gael ei adnewyddu. Felly, pan fydd amser y gôt sydd gen i nawr yn dod, mi fyddai'n mynd dros yr hewl, i gael esgus am beint, a gofyn i'r boi, "Reit, dere rif ffôn Margaret i mi!"
Côt draddodiadol Barbour sydd gen ti, pam dy di fod mor hoff ohoni?
Bushman ydy'r teip yma o gôt, a dwi'n tybio y bydd hon gen i am weddill yn oes. Ar y llawes ma yna strap lle ti'n gallu cau'r gôt lan pan mae'n chwythu achos does yna ddim byd gwaeth na drafft yn mynd lan dy lewys di. Ma yna fanylder neis ar y pocedi, felly ar ddiwrnod oer pan ti'n sefyll yn gwylio'r ceffylau yn rasio, ti'n sticio dy ddwylo yn dy bocedi a ma fe'n teimlo'n gwd! A hefyd ma'n arbed peth o'r dŵr glaw rhag mynd mewn i'r pocedi. Peth arall diddorol yw'r ddau dwll ar waelod y pocedi, felly pan ti'n ganol y glaw, mae'r dŵr yn arllwys mas o dy bocedi di fel dy fod di ddim yn cael dy fatsis a dy lighter yn wlyb!
Mae gan siacedi Barbour arogl unigryw yn does, yn debyg i arogl ceffyl!
Dros y blynyddoedd os wyt ti'n bwrw yn erbyn y ceffyl a ma' chwys ar y ceffyl, mae'n adeiladau lan yn y gôt. Wedyn dros amser ma' hi'n dechre sgleinio. Dyw hon ddim wedi dechre sgleinio eto achos dwi'n trio peidio ei baeddu hi gormod, ond dere nôl mewn rhyw bymtheg mlynedd a mi fydda i'n sgleinio fel swllt!
Pam wyt ti'n credu fod siacedi Barbour mor boblogaidd?
Falle, oherwydd bod y Frenhines yn gwisgo un bod yna elfen o snobyddiaeth i fod yn berchen ar Barbour. Fyddwn i'n tybio fod y rhan fwyaf o'r ffermwyr sy'n eu gwisgo nhw oherwydd eu bod nhw'n ymarferol nid oherwydd ei fod e'n eicon neu yn symbol o statws. Dwi'n gwybod am sawl person arall sydd yn eu gwisgo nhw oherwydd eu bod nhw'n eu gosod nhw ryw lathen neu ddwy yn nes at y Frenhines. I fi yn bersonol, yr ail un yw e….achos mod i ishe bod yn nes at y Frenhines!
Pa mor bwysig yw dy siaced i ti?
Gyda chôt o'r math yma, ma' storïau i ddweud, fel y marc ar y llawes lle gwympes i off y gaseg ac ati. Mae'r gôt yn dod yn rhywbeth mwy na rhywbeth ti'n ei wisgo, mae'n dod yn ffrind!
Sara Hunter
Pam wyt ti'n credu fod cotiau Barbour yn parhau i fod yn boblogaidd hyd heddiw?
Trend ffasiwn ar hyn o bryd dros y byd yw bod lot o bobl yn edrych ar Brydain a meddwl mai dyma'r ffordd 'da ni'n gwisgo. Dwi'n meddwl fod pobl yn parchu'r ffaith fod Barbour mor Brydeinig. Ma nhw'n ymarferol ac yn edrych yn 'chic'.
Pam wyt ti mor hoff o dy siaced Barbour?
Dwi ddim yn berson traddodiadol a dwi ddim yn berson gwledig. Does dim angen côt ymarferol arna'i, dwi jyst isho edrych yn dda. Dwi wastad wedi hoffi siacedi beic modur a'r ffordd ma nhw'n edrych, felly ro'n i'n meddwl fod hon yn berffaith a bod hi'n Barbour hefyd. Ers ei gwisgo hi dwi wedi ffeindio mas fod lot o bobl enwog hefo un run fath. Mi oedd pobl yn dweud wrtha'i fod Jo Whiley wedi bod yn gwisgo hon i gyflwyno Glastonbury llynedd, ond i ddeud y gwir fyddwn i ddim eisiau prynu rhywbeth am y rheswm yna, ro'n i ishe ei phrynu hi am mod i wedi ei gweld hi ac yn ei ffansio hi.
Oes gen ti unrhyw fwriad i brynu un arall?
Sa' i'n licio'r ffaith eu bod nhw'n mynd yn rhy ffasiynol. Er, dwi wedi gweld duffle bach ganddyn nhw o'r enw Patricia, un oren, a dwi'n eitha' ffansio hi…dwi'n credu Nadolig nesa!
- CWPWRDD DILLAD