



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Beth mae steil yn ei olygu i chi?
Dwi’m yn meddwl am steil pan dwi’n prynu dillad, yr unig beth ydy, dwi ddim eisiau edrych yn debyg i bawb arall.
Yn tyfu fyny, roedd hi’n bechadurus iawn meddwl am ddillad, nid dyna beth oedd yn bwysig i unigolyn feddwl amdano. Roedd yn rhaid cael yr enaid a oedd yn bwysicach lawer - falla fod yna wirionedd yn hynny. Ond dwi’n cofio ffrindiau i mi yn y coleg flynyddoedd wedyn yn cyfadde’ mod i wedi newid o fod yn ferch fach cefn gwlad Ceredigion ac wedi mabwysiadu’r ffordd soffistigedig yma o wisgo fel oedden nhw’n ei wneud yn y dref. Dwi’m yn gwybod a oedd hynny’n gompliment neu beidio!
Pan ddechreuoch chi weithio ar y teledu a oeddech chi’n gwario mwy ar ddillad?
Dwi wedi gwario llawer gormod ar ddillad! Mi faswn i’n fenyw gyfoethog iawn, iawn petawn ni heb wario ar ddillad. Doeddwn i ddim yn cael dim help ariannol i brynu’r dillad felly roeddwn i’n gwario’r hyn oeddwn i’n ennill i gyd ar ddillad.
Mae hon yn siwt anghyffredin iawn tydi ac mae’n amlwg fod yna elfen ddrygionus ynddo chi!
Dwi’n hoff iawn o hon achos bod ei siâp hi’n hyfryd ac yn fy siwtio i. Mae’r ffrynt yn blaen iawn, iawn ac wedyn pan mae pobl yn gweld y tu ôl, maen nhw’n gweld coesau!
Beth ydy eich steil chi?
Dwi’n casau’r meddylfryd yma fod yn rhaid i chi newid eich steil wrth i chi fynd yn hŷn. Pam categoreiddio pobl? Dwi’n gwybod mod i wedi cael fy nghyhuddo o’r blaen o fod yn ‘mutton dressed as lamb’, ond dwi’n meddwl y dylwn i wisgo nhw achos dwi’n gyffyrddus yn y dillad yma. Yr unig beth ddeuda’i yw falle mod i yn gwisgo pethe y bydd eraill yn meddwl na ddylwn i wisgo oherwydd fy oedran i efallai. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw’n disgwyl i rywun fel fi wisgo jeans a cords, ond i fi, dyma’r dillad fwya’ cyffyrddus - mae jeans yn ddilledyn mor ymarferol!
Beth yw eich hoff liw?
Dwi’n licio oren, dwi’n licio pinc llachar, llachar a dwi’n hoff o las trydan - dyma’r math o liwiau sy’n tynnu’n sylw i.
Beth sydd yn tynnu eich llygaid chi mewn siop?
Dwi’n hoffi trainers, ond trainers gwahanol! Mae’r rhai sydd gen i yn disgleirio ac yn sbarclo a dyna dwi’n hoffi fwya’. Dwi ddim yn i gwisgo nhw’n aml, dim ond os dwi eisiau tynnu sylw, os dwi eisiau bod yn gyfforddus ac yn wahanol mi ro’ i nhw ymlaen. Fi, yn fy oedran i yn gwisgo rhywbeth fel ‘na? Wel, dyna ni!
Ydych chi wedi cadw unrhyw ddillad dros y blynyddoedd?
Ma yna ambell i beth dwi wedi eu cadw, ond dydw i ddim yn cadw llawer. Dwi wedi cadw'r catsuit yma. Dwi ddim yn gwybod pam mod i wedi 'i chadw hi achos dydw i ddim wedi ei gwisgo hi ers dros 30 mlynedd, ond mae hi’n dal yn y cwpwrdd. Pob tro dwi’n cael gwared â dillad, pan ddaw hi at hon, fedrai byth ei thaflu hi am ryw reswm. Roeddwn i’n hoff iawn o catsuits ar y pryd, falle achos mod i’n dal a'u bod nhw yn fy siwtio i.
Mae hon yn gôt anghyffredin!
Côt yr Eisteddfod ydy hon. Ac wrth gwrs mae’n rhaid cael côt i’r Eisteddfod pob blwyddyn! O’n i’n digwydd bod ym Mharis ar benwythnos rygbi ac fe weles i hon mewn siop oedd yn gwerthu pethau Japaneaidd ac fe gwmpes i mewn cariad â hi’n syth. Dwi’n hoff iawn o bethau metallic fel aur ac arian, ac roeddwn i’n meddwl fod hon yn berffaith. Mi fydda i fel arfer yn ei gwisgo hi gyda sgidiau plastic pinc!
A fydd eich steil chi yn newid yn y dyfodol?
Dwi ddim yn cymryd y peth o ddifri, ond fe ddylwn i fod yn ddoethach! Mae’n siwr mai yn fy jeans fydda’i nes fy mod i’n gant oed!