Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Beverly Hughes
CWPWRDD DILLAD: Beverly Hughes | Craig Evans
Beverly Hughes
Beverly Hughes
Beverly Hughes
Beverly Hughes

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Beverly Hughes yn athrawes Celf yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, ger Pontypool, ac mae ganddi steil sydd yn adlewyrchu dylanwadau gan ddiwylliannau a dylunwyr byd eang - o Foroco, Sbaen yr Eidal, Affrica a’r Dwyrain Pell.

Beverly Hughes

Be mae dillad yn ei olygu i ti?

Dwi’n rhoi lot o feddwl y tu ôl i be’ dwi’n gwisgo - ag yn ôl fy mam, o’n i’n dewis be o’n i’n gwisgo cyn i fi allu siarad. Ma’ nhw’n atgof o fy mywyd mewn ffordd, a ma’ nhw’n bwysig i mi. Mi fyddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn cael gwared ohonyn nhw.

Beverly Hughes

Lle ti’n meddwl gwnaeth y diddordeb mewn dillad gychwyn?

Dwi’n credu y tro cyntaf i mi fynd dramor. O’n’ i’n chwech oed, ac fe wnes i adael Cymru yn y wisg yma, yn y got ffwr, y boots mawr a’r het. Fe aethon ni ar gwch, ar cruise draw i Tangiers. Wrth gwrs, pryd wnaethon ni gyrraedd yna odd hi’n chwilboeth – a finnau 'di mynnu mynd a’r got ffwr. Oeddwn i’n caru’r got ffwr ac roedd yn rhaid iddi ddod fynd efo fi!

Beverly Hughes

Dwi just yn cofio gweld pobl yn gwisgo mor wahanol i be oedd pobl yn gwisgo yng Nghymru. Dwi’n cofio fy nhad yn prynu’r wisg hollol amazing yma - gwisg hir ac od oedd o byth yn mynd i wisgo, ond oedd o dal yn exciting - cal cyffwrdd y defnydd yma a’i weld. Fe wnaeth sawl bachgen yn yr ysgol wisgo fo mewn cyngherddau Nadolig pan o’n i yn yr ysgol gynradd, fel un o’r tri gŵr doeth, felly oedd o wastad yn dod allan.

Beverly Hughes

Dro arall, dwi’n cofio bod yn Sbaen ac yn rhyw farchnad. Mi welais i’r clogs mwyaf anhygoel yma! Oedden nhw mor uchel a mor goch, a nes i feddwl mai’n rhaid i fi gael y rheina. Rwan mae fy merch Isabella yn gwisgo i fyny ynddyn nhw.


Beverly Hughes

Nid yn unig wyt ti di cadw llwythi o ddillad ers dy fod yn hogan fach - ond ti di cadw'r rhain o’r wythdegau. Does dim ond rhaid edrych arnyn nhw a ti’n gwybod bod nhw’n dod o’r 80au! Pam?

Wel dwi’n caru'r rhain - dwi’n gweld lot ohonyn nhw fel darnau o waith celf - fel yr un yma, mae’n flows ond mae’n llun adnabyddus hefyd gan un o’r arlunwyr genre celf pop. Pwy fyddai’n meddwl pan wnes i ei brynu y byddwn wedi disgwyl ei wisgo i ddysgu plant yn Ysgol Gwynllyw am gelf pop? Dwi’n meddwl ei fod yn gyfnod lle mae pobl yn edrych yn ôl ar ffaswin y cyfnod - a’i fod o’n erchyll gyda shoulder pads ag ati ond dwi’n meddwl nes i osgoi'r edrychiad ‘Dallas’ yna ac fe wnes i edrych ar ochr greadigol y cyfnod yn fy nillad. Er enghraifft mae hon yn vest gafodd ei brintio gan Boy George - ac yn ddyluniad gan Boy George. Fe wnes i brynu fo ar y Kings Road, ddim am bris rhy enfawr, doedd Boy George mor adnabyddus â hynny, just yn enw roedd rhai pobl wedi clywed amdano.

Beverly Hughes

Pa gyfnod sydd wedi dylanwadau ar dy steil fwyaf?

Yn ystod fy nghyfnod yn y Coleg Celfyn yr 80au hwyr, fe ges i gyfle i astudio am ychydig yn yr Eidal, ac fe ges i grant i fynd i Venice i astudio’r gwaith celf. Yn ogystal ag astudio’r gwaith celf, fe wnes i astudio’r siopau a’r dillad! Roedd pethau amazing ar gael yno. Enghraifft ydy’r ffrog felen yma sydd yn dod o gyfnod Bob Geldof a ‘Feed the World’ - pan oedd lot o bethau gyda chyffyrddiadau Affricanaidd o gwmpas. Odd o’n gyfnod cyffrous iawn oherwydd oddech chi’n gallu mynd i siopau a chael pethau anhygoel - ‘one offs’ - pethau artizan. Yna, fe wnes i brynu’r wisg yma wrth ymyl Forum des Halles ym Mharis. Os oeddech chi’n digwydd bod yn rhai o’r siopau ar yr amser iawn oeddech chi’n medru prynu pethau oedd y dylunwyr am gael gwared ohonynt o’r catwalks.

Beverly Hughes

Dwi’n dechrau sylweddoli rŵan dy fod ti’n licio cadw pob dim! Felly mae’n fy synnu i fod gen ti le i gadw’r holl stwff mae’n dy gwpwrdd di...

Ma' na rhywbeth yn y cwpwrdd dillad ma’ o’n i’n gwisgo yn yr 80au - a dwi dal yn ei wisgo hyd heddiw! Mae o’n hollol glasurol - ac wedi ei ddylunio gan Vivienne Westwood.

Cafodd ei ddylunio yn ystod y cyfnod pan oedd ei chariad ar y pryd, Malcolm McLaren, yn rheolwr y Sex Pistols - ac mae o’i chasgliad ‘Pirate Collection’ gyda’r sgarff enfawr ‘ma i fynd o’i amgylch. Roedd dyluniadau Vivienne Westwood mor anhygoel am y cyfnod - dach chi’n gweld ar y llewys fod cyffyrddiadau ‘Renaissance’ – ond mae’r llewys dal yn y ffasiwn heddiw. Dwi’n meddwl fod o’n anghygoel fod Vivienne yn gwneud hyn nôl yn yr wythdegau. Dwi’n cofio cael y dilledyn yma yn y post, roedd fy nghariad ar y pryd wedi postio fo i fi ac o’n i’n smitten felly nes i briodi fo - pwy sy’n gallu dweud na wrth rywun sydd wedi prynu ffrog Vivienne Westwood iddyn nhw yn de?

Beverly Hughes

Beth mae dy ddisgyblion yn meddwl o dy steil?

Mae fy nosbarth cofrestru’n caru’r got ma’ - ma’ nhw’n canu ‘You are my sunshine, my only sunshine’ i mi pan dwi’n ei gwisgo hi!

Nes i brynu’r un yma yn Harajuku yn Tokyo, a’r rheswm i mi ei phrynu oedd oherwydd ma’ na gymaint o bobl yn Tokyo, o’n i’n meddwl os y byddwn i’n cael fy ngwahanu oddi wrth fy ngŵr a fy merch, fe fyddan nhw’n gallu cael hyd i mi’n gyflym yn y got yma. Ma’ Gwen Stefani wedi cyfeirio at yr ardal o Tokyo yn un o’u chaneuon - dwi’n caru’r llinell ‘You Harajuku girls - you’ve got some wicked style!’

Beverly Hughes

Oes gen ti hoff gynllunydd?

Oes, dwi’n hoffi’r dylunwyr Eidaleg fel Georgio Armani a Valentino yn enwedig. Yr hyn sy’n fy nenu i i ddillad Eidaleg yw ei bod nhw’n syml, ma’ nhw’n stylish ac mae’r toriad ar y dillad yn arbennig. Mae siacedi du Armani ‘to die for’ – mae’r toriad arnyn nhw’n berffaith. Dwi’n ffodus iawn o gael cwpwl o siacedi a chotiau Armani, a dwi’n breuddwydio am brynu ffrog goch Valentino!

Roeddwn i wedi dylunio plât Eisteddfod Casnewydd yn 2004 a ro’n i’n gwybod fod 'na seremoni lansio plât, felly wnes i feddwl ‘Grêt, esgus am outfit!’. Fe ges i’r outfit yma o Selfridges yn Llundain ac mae o gan y dylunydd Markus Lupfer. Mae o wedi astudio yng Ngholeg Celf Central St Martin’s ac yn dod yn wreiddiol o’r Almaen. Mae’n ddylunydd o safon sydd yn cael ei grybwyll yn aml yn Vogue ac yn adnabyddus am y defnydd mae’n ei ddefnyddio.

Beverly Hughes

Mae’n amlwg fod hoffter o ddillad yn rhywbeth sydd yn rhedeg yn y teulu!

Mae gen i ffrog fan hyn oedd fy mam yn gwisgo yn y 50au hwyr ac os ‘da chi’n teimlo’r melfed mae’n hollol anhygoel. Roedd hi’n ei wisgo i bartïon yn y 50au oedd yn gyfnod really glamorous gyda lot o couture - a pan 'da chi’n ei wisgo, ‘da chi’n teimlo’n really hyfryd ac yn sbesial. Fe wnes i gynnal parti ar gyfer y ffrog yma gyda’r thema ‘Breakfast at Tiffany’s’ ac fe ges i wisgo’r ffrog. Beth sy’n hyfryd am y ffrog yw bod 'na hanes yn perthyn iddi, a bod fy mam wedi ei wisgo - a dwi wir yn hoffi’ syniad fod Isabella’n gwisgo fy nillad i a bod hanes yn mynd yn ei flaen!

  • CWPWRDD DILLAD