



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Buddug Jones yn ddynes sydd â dillad o bob degawd.
Be mae dillad yn ei olygu i chi?
Ma' nhw'n perthyn i mi a dwi'n teimlo eu bod nhw'n werthfawr i'r plant, yn enwedig i'r genod rŵan. Ma' nhw wrth eu bodda yn gwisgo nillad i o'r 50au, 60au a'r 70au.
Oes yna un cyfnod dillad yn sefyll allan i chi?
Dwi'n meddwl fod y 60au yn bendant yn un o'r rhai hapusa' i mi achos mi oedd hi hefyd yn adeg Mary Quant. Yn 1966 y doth hi o gwmpas, ac wrth gwrs roedd Mary Quant yn un o'r rheiny oedd wedi dod a'r 'trendy look' 'ma mewn. Ag roedd rhaid cael sgert ryw chwech i saith modfedd uwchben y pen-glin!
Tra oeddech chi'n byw yn Llundain, oeddech chi wrth eich bod yng nghanol y siopa i gyd?
Roeddan nhw'n ffantastig. Fues i'n gweithio yn Llundain am bum mlynedd yn y banc yn Drapers Gardens - yr adeilad talaf yn Llundain ers talwm cyn i Canary Wharf gael ei adeiladu. Ac felly roedd o'n gyfnod reit hapus. Ro'n i'n cael mynd i Oxford Street a Knightsbridge i siopa - roedd y dillad yno'n brilliant!
Mae gynnoch chi ddillad o bob cyfnod o'ch bywyd yn does?
Oes, a dwi wrth fy modd hefo dillad. Ma'r siaced yma wedi cael ei gwneud o felfed glas gyda sidan tu mewn. Ma' yna eyelets bach arni a ma' hi i gyd wedi ei wneud â llawn. Dwi'n meddwl fod hon o'r cyfnod 1890au. Modryb i mi, oedd yn byw am gyfnod yn Ynys Enlli, oedd pia hi ac roedd hi wedi priodi â gweinidog. Pan oedden nhw ar Enlli, 'da ni'n meddwl fod y siaced hon ganddi yno bryd hynny. Dwi wrth fy modd gyda hi a dweud y gwir - ma' hi'n hyfryd.
Ydach chi'n sentimental am ddillad ac yn cadw pob dilledyn?
Roedd yna adeg pan ddaru ni symud tŷ, ag yn anffodus, mi ddaru mam jyst rhoi llawer o bethau i Oxfam a llefydd felly. Ro'n i'n teimlo'n arw mod i ddim wedi cadw bob dim, yn enwedig y rhai o'r 50au. Felly does gen i ddim dillad o'r 50au.
Ma' steil y ffrog borffor a gwyrdd yma'n edrych fel ei bod hi'n hŷn nac o'r 50au yn dydy?
Mi ges i hon gan fy modryb, ma' hi'n sidan ac yn hardd dros ben a ma' hi'n mynd yn nôl i'r 1940au. Ond roedd fy modryb wrth ei bodd yn gwisgo hon hyd yn oed yn y 60au. Felly pan ddaru hi ofyn i mi os fyddwn i yn hoffi ei chael hi, roeddwn i'n teilmo fel mod i wedi cael miliwn o bunnoedd! Dwi ddim wedi ei gwisgo hi, dim ond rhywbeth i edrych arni hi ydy hi.
Ma' gynnoch chi bâr o 'hotpants' llachar iawn. Ydych chi erioed wedi eu gwisgo nhw?
Do, dwi wedi eu gwisgo nhw! Ond, yn anffodus dydy nhw ddim yn mynd amdana i rŵan oherwydd mai maint 8 ydy nhw! Ma' nhw'n dŵad o'r 70au cynnar a ma' nhw'n lliwgar dros ben. Er mod i ddim yn gallu eu gwisgo nhw, dwi'n falch o gael dweud fod y ferch yn gallu mynd mewn iddyn nhw!
Ydy'r ffrog ddu flodeuog hon o'r 70au hefyd?
Ydy ma'r ffrog yma o'r 70au. Ro'n i wedi bod yn Llundain am rai blynyddoedd a mi wnaeth fy nghyfnither briodi. Roedd hi isho i mi ddod i'r briodas a mi ddois i fyny o Lundain wedi cael gwneud fy ngwallt yn Vidal Sassoon. Pan o'n i'n torri ngwallt mi oedd gen i ddrych o mlaen i, drych tu ôl a dau ddrych bob ochr i mi! Mi nes i dorri fy ngwallt mor fyr fydda chi ddim yn credu - hanner modfedd reit rownd gan Vidal Sassoon. Mi ddaru fy chwaer yng nghyfraith wneud y ffrog yma i mi, a phan ddois i fyny a mynd i'r briodas - fi oedd yr unig un hefo ffrog hir! Wrth gwrs mi ddaru bawb sylwi arna'i. Ro'n i wedi gwahanu hefo fy ngŵr ar y pryd hefyd, ond mi welodd fi yn y ffrog yma - a roedd o isho dod yn ôl!
Ma'r siwt felen yma'n ddel iawn. O le gafoch chi hon?
Fi wnaeth y ffrog a'r siaced felen yma. Mi nes i'w gwneud nhw i fynd i briodas fy chwaer yng nghyfraith a mrawd yng nghyfraith - sef brawd y gŵr. Fi nath yr het hefyd a ro'n i'n gorffen ei gwneud hi am 3 o'r gloch y bore yn gwneud y stitches bach arni.
Be ydy hanes y siwt frown smart yma?
Ar gyfer Gŵyl Ysgol Sul oedd hon! Roedden ni'n gorfod cael dillad newydd i fynd i Ŵyl yr Ysgol Sul a mi ges i hon o Jaeger. Os dwi'n cofio'n iawn dwi'n meddwl y gwnes i dalu £22 amdani. Os fasa chi'n talu am hon heddiw, mi fasa hi'n costio tua £400 oherwydd ei bod hi wedi ei gwneud o wlân.
Ar gyfer pa achlysur y cafoch chi'r ffrog wen yma?
Ma'r ffrog yma'n un arbennig y gwnes i brynu yn Llundain yn 1974. Ro'n i'n mynd i ball ag roedd y cyfnod yna'n arbennig iawn. Dim ond ryw chwe gwaith dwi wedi ei gwisgo hi, ond mae'r plant yn meddwl ei bod hi'n un arbennig. Ma' yna bais o dan y ffrog, a dyna'r bais oedd gen i ar ddiwrnod fy mhriodas a mi ddaru fy chwaer yng nghyfraith wnio 'good luck' i mi arni, chwara teg iddi.
- CWPWRDD DILLAD