



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Buddug Wyn yn ddylunydd gemwaith o Eryri sydd bellach wedi ymgartrefu yn Llundain. Mae ei steil yn adlewyrchu ei galwedigaeth creadigol - a dydy hi’n sicr ddim yn un sydd ofn arbrofi!
Pa fath o berthynas sy’ gen ti hefo dillad a sut fydda ti’n disgrifio dy steil?
Dwi’n weddol unigryw a ma’ nillad i’n rhan fawr o fy mhersonoliaeth i. Dwi’n licio gwisgo petha’ reit wacky. Dwi’n licio gwisgo ffrogiau a lot o bethau o gyfnodau gwahanol sy’n ffitio’r corff a sy’n siwtio’n siâp i. Dwi’n licio steil dillad ac edrych ar luniau o oes Fictoria. Dwi’n mwynhau siopa mewn siopau ail-law lle mae ‘na gymysgedd mawr o betha’ gwahanol a mae’n rhaid tyrchu drwyddyn nhw. Dwi wrth fy modd mynd i siopa mewn llefydd lle mae o’n teimlo fel mod i’n mynd drwy gwpwrdd dillad rhywun arall!
Be sy’n dy ddenu di at siopau o’r fath?
Dwi’n nabod lot o bobl sy’ ddim yn mwynhau siopau o’r fath, ond dwi’n licio gwisgo petha sy’n wahanol, ac mae o’n destun siarad os ydy rhywun yn licio rhywbeth ti’n ei wisgo. Ma’ na lot o bobl hen sy’n licio be dwi’n wisgo pan fyddai’n mynd nôl i Gymru a phan fyddai’n mynd i weld Nain ma’ hi wrth ei bodd hefo’r brethyn Cymraeg dwi’n wisgo.
Mae dy gwpwrdd a dy ystafell wely di’n llawn o ddillad!
Dwi’n licio pethe’ prydferth i mi sbïo arnyn nhw a dwi’n licio gweld y dillad achos ma’n rhoi syniadau i mi o be’ alla i wisgo bob dydd. Mi fydda i’n newid y pethau sydd yn y cwpwrdd a’r pethau dwi’n rhoi allan drosodd gan roi rhai yn ôl os dwi wedi cael digon arnyn nhw am ychydig.
Ma’ hon yn grêt - be di arwyddocâd y label?
Ffrind i mi o’r enw Leonie ‘nath neud y sgert yma i mi fel anrheg pen-blwydd a ma’r label yn nodi ei henw hi a’r dyddiad y gnath hi ei gorffen hi. Ma hi’n rhoi label ar bob darn o waith ma’ hi’n ‘neud, a ma hi’n licio arbrofi hefo deunyddiau a thoriadau gwahanol. Mae hi’n prynu petha gen i a ‘da ni’n medru swopio petha felly ma hynny’n reit braf bod ni’n licio gwaith ‘n gilydd.
Pam y gwnes di ddewis dylunio gemwaith?
Nes i ddewis dylunio gemwaith am ei fod yn rhywbeth 3-D a dwi’n licio hel petha bach, tactile. Er mod i’n hoffi dillad ac yn mwynhau prynu dillad, dwi’n gweld bod o reit fflat nes wyt ti’n ei wisgo fo. Ond hefo gemwaith mae’n dod yn fyw cyn i ti ei wisgo. Dwi hefyd yn mwynhau chwarae hefo deunyddiau gwahanol a pheidio dilyn patrwm fel sy’n rhaid hefo dilledyn.
O lle wyt ti’n cael dy ysbrydoliaeth?
Petha’ sy’n fy ysbrydoli i. Petha fel adar, potia te a cwpanau - dwi ‘rioed wedi meddwl amdano fo o’r blaen, ond ma nhw i gyd yn betha sy’n dod o Gymru. Am mod i’n byw yn Llundain, dwi’n licio’r petha dwi’n fethu am fy mywyd yng Nghymru. Mi fyddai’n gwisgo hen ddillad ac yn licio’r syniad fod 'na hanes yn perthyn iddyn nhw. Dwi hefyd yn teimlo fod y defnydd o ansawdd gwell ag yn teimlo’n brafiach ar y corff.
O lle ges di’r sgert ffantastig yma?
Dwi’n meddwl mai hen bais priodas ydi hi. Unwaith dwi wedi ei gwisgo hi a hynny i ben-blwydd un o’n ffrindiau i ac roedd hi’n destun sbort achos pan es i i’r toiled, doeddwn i ddim yn gallu ffitio trwy’r drws!
Sut wyt ti’n gweld dy steil yn datblygu wrth i ti fynd yn hŷn?
Dwi di bod yn arbrofi ers pan oeddwn i yn yr ysgol, ond wrth i mi fynd yn hŷn dwi’n meddwl bydd fy steil i yn newid ond yn dal i fod yn striking ac yn wahanol!
- CWPWRDD DILLAD