Cwpwrdd Dillad: Carwyn John
Cwpwrdd Dillad: Audrey Mechell | Carwyn John | Joyce Jones

Carwyn John
Carwyn John
Carwyn John
Carwyn John

Dillad sy'n sefyll allan sy'n mynd a bryd Carwyn John.

Carwyn: Dwi'n licio pethau sy''chydig yn wahanol. Dwi'n teimlo y gall pobl brynu rhywbeth fel crys plaen du yn rhywle. Dwi'm eisiau cael fy ngweld yn gwisgo yr un dillad a rhywun tua'r un oedran a mi yn yr un ardal. Tydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd os dwi'n mynd i siopau fel Vivienne Westwood er enghraifft.

Carwyn John

Carwyn: Mae hwn yn grys gan Gieves (adain ifanc Gieves & Hawkes). Mae'n dod a chrys 'limited edition'allan bob haf gan gynhyrchu dim ond tua 150 - 200 ohonynt. Mae gen i hefyd grys du 'limited edition'hefyd ond gan Gieves a Hawkes a dim ond 50 o'r rheiny sydd wedi eu gwneud. Mae'n siop mae'r teulu brenhinol yn siopa ynddo, felly os ydi o'n ddigon da iddyn nhw, mae'n sicr yn ddigon da i mi!

Carwyn John

Carwyn: Nai fynd i Alcatraz ym Mhwlleli i brynu llawer o'm dillad. Fyddan nhw'n fy ffonio'n aml i ddweud eu bod nhw wedi cael dillad diweddaraf Nicole Fahri fewn neu rai Ted Baker, Hugo Boss, Versace, Armani, Louis Vuitton, Burberry ac yn y blaen.

Carwyn John

Carwyn: Pan dwi'n sbio ar bobl, fydda i bob amser yn sbio ar eu sgidiau nhw. Dwi'n meddwl y gall sgidiau ddweud llawer am bersonoliaeth rhywun.

Carwyn John

Carwyn: Sgidiau Louis Vuitton ydi'r rhain. Es i yno i brynu esgidiau eraill ond rhain nes i brynu. Dwi rioed wedi eu gwisgo. Nathon nhw bwysleisio i mi nad oedden nhw'n sgidiau i wisgo bob dydd oherwydd mae 'na ryw fath o ffwr arnynt. Mae gen i bâr o sgidiau Patrick Cox hefyd nad ydw i wedi eu gwisgo.


Nia: Dwyt ti ddim yn teimlo'n flin felly dy fod yn gwario'r holl arian yma ar eitemau nad wyt ti wedi eu gwisgo erioed?

Carwyn: Ma'nhw yma'n barod i mi eu gwisgo, jyst fy mod yn disgwyl am yr achlysur!

Nia: Wyt ti'n un i wario lot ar ddillad felly?

Carwyn: Falle ai fewn i siop fel Hugo Boss a dod allan gyda thri pâr o drowsus ac alli di ddim gwario llai na thua £600 ar dri pâr o drowsus o Boss.

Carwyn John

Carwyn: Mae'r siwt yma ychydig yn wahanol gyda'r streipiau'n mynd ychydig yn dewach wedyn yn deneuach. Nes i ei chael ar gyfer Eisteddfod Casnewydd ar gyfer cystadleuaeth Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn. Nath hi ddod ag ychydig o lwc i mi hefyd oherwydd nes i ennill oedd yn sypreis mawr i mi.

Nia: Oedd hi'n un ddrud felly?

Carwyn: Doedd hi ddim yn un rad iawn...wel, mi oedd hi'n ddrud iawn a dweud y gwir!

Nia: Gobeithio nad wyt ti'n meddwl fy mod i'n hy yn gofyn, ond sut alli di fforddio'r dillad drud yma?

Carwyn: Dwi'n meddwl achos mod i'n byw adre a dim morgais i'w dalu. Ond, fwy na thebyg, pan fydda i'n prynu ty fy hun yn y dyfodol, dim ond un cwpwrdd o ddillad neis fydd genai.

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25