Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Carwyn Williams
Carwyn Williams
Carwyn Williams
Carwyn Williams
Carwyn Williams

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Carwyn Williams yn ddyn ifanc sy'n dianc o'i siwt i'r syrff.

"Dwi'n hoff iawn o dreulio'n amser hamdden mas yn yr awyr agored yn beicio mynydd, sgïo, dringo a cherdded mynyddoedd."

Carwyn Williams

Fyddi di'n gwisgo 'wetsuit' neu siwt sych i syrffio?

Ma'r siwt sych ar gyfer rhai sy'n mynd i ddeifio, snorclo neu rywbeth fel'na. Ma' wetsuit yn gadael y dŵr drwyddo, ond mae'r dŵr rhwng y siwt a'r corff yn cael ei dwymo gan y corff, wedyn mae'r ffilm o ddŵr sydd tu mewn yn cadw'r corff yn dwym. Felly dwi'n wlyb ond yn gynnes!

Carwyn Williams

Be arall sydd yn dy gwpwrdd dillad di?

Dillad cyfforddus sydd yn amrywiaeth o stwff syrffio, dringo, a mynydda. Dydw i ddim yn 'brand loyal' i lot o betha', ond dwi yn licio stwff Howies jyst achos eu bod nhw'n gyfforddus, yn edrych yn neis a bod ethics da gyda nhw. Ma' nhw'n defnyddio cotwm organig ac yn ailgylchu defnydd. Ma' nhw hefyd yn gwmni Cymreig o Aberteifi. Ond ar gyfer mynydda dwi'n gwisgo petha' fel Mammoth, North Face a Rab. Dwi hefyd yn gwisgo stwff plaen fel hoodies o H&M neu unrhywbeth i fod yn gyfforddus neis.

Carwyn Williams

Er dy fod di'n licio bod allan yn yr awyr agored, mi wyt ti'n gwisgo siwt i'r gwaith yn ystod yr wythnos yn dwyt?

Ydw, rhan amlaf. Dwi'n gweithio i Ganolfan Mileniwm Cymru yn yr adran datblygu a chodi arian sy'n golygu mod i'n gweithio gyda noddwyr.

Carwyn Williams

Oes yna dyndra rhwng y ddwy ochr o dy fywyd di neu wyt ti'n mwynhau eu bod nhw mor wahanol?

Dwi'n credu ei fod o'n iach achos os wyt ti'n cael diwrnod neu wythnos anodd yn y gwaith, ma' hi mor neis mynd lawr i'r traeth i switch off am hanner awr a chael syrff neu hyd yn oed mynd lan i'r mynyddoedd - jyst mynd allan i'r awyr agored. Ma' fe'n soothing neis a ti yna'n barod ar gyfer y dydd Llun canlynol.

Carwyn Williams

Pam fod angen dillad arbennig arnat ti i wneud yr holl chwaraeon yma?

Mae'r dillad 'da chi'n eu gwisgo i gerdded, dringo, beicio neu redeg pan fydd hi'n oer gyda lefele o haenau gwahanol, fel y top yma er enghraifft. Gwlân Marino ydi' o, felly ma' hwn yn dda iawn yn enwedig pan chi'n wlyb, ma' fe'n dal i'ch cadw chi'n dwym iawn ac yn tynnu'r chwys oddi wrth y corff gan eich cadw chi'n sych os ydych chi'n boeth. Ma' 'na rywbeth yn y defnydd sydd yn dda i gael gwared a'r drewdod hefyd ac mae'n ddefnydd naturiol iawn ac yn teimlo'n rili cyfforddus wrth y croen.

Carwyn Williams

Pa gwmnïau eraill sydd yn gwneud dillad fel hyn?

Ma' Helly Hansen wedi bod yn gwneud dillad fel hyn ers blynyddoedd. Ma'r top yma yn enghraifft glasurol o be ma' rhedwyr yn ei ddefnyddio a dwi hefyd wedi defnyddio hwn wrth ddringo hefyd. Eto ma' 'na wlân yn y defnydd felly mae fe'n dwym neis.

Carwyn Williams

Be ydy hanes y siaced las ysgafn yma?

O Sheffield ges i'r siaced Rab yma. Mae'r siaced wedi ei wneud o ddeunyddiau fel DuPont a polotech mewn haenau eto sy'n gyffyrddus ac yn feddal i'w gyffwrdd. Mae'n eitha' fitted hefyd ond mae'n denau iawn, eto ma' y rhain yn dda i dynnu chwys bant o'r corff.

Carwyn Williams

Ma' hon yn edrych yn siaced arbennig, o le ces di hon?

Dyma fy siaced Mountain Hardware i o'r Unol Daleithiau. Ma' ganddi soft shell run peth ar fleeces tew oedd pawb yn arfer eu gwisgo yn y gorffennol. Ma'n denau iawn ac yn feddal. Ma' yna hefyd Gore-Tex ar y siaced yma. Defnydd yw Gore-Tex sydd yn edrych ychydig bach fel foil gwyn hefo tylle bach, bach ynddo. Mae'n dda iawn am anadlu a chadw ti'n sych tu fewn, a sych o'r tu allan hefyd.

Carwyn Williams

Pam fod gen ti bâr o deits yn dy gwpwrdd dillad?

Dwi'n gwisgo'r rhain ar y penwythnos ambell waith neu ar foreau oer pan dwi'n rhedeg. Felly eto, ma' nhw'n rhywbeth sy'n eitha' agos i'r corff i dy gadw di'n dwym. Dwi'n gwisgo lot ar rhain pan dwi'n ymarfer yn y Gaeaf.

Carwyn Williams

I be fyddi di'n gwisgo'r top yma?

Top rhedeg Gore ydy hwn a ma' fe'n eitha' neis. Ma' Gore yn gwneud amryw o bethau, yn cynnwys stwff dringo, beicio, a rhedeg hefyd. Ma'r technoleg yn croesi drosto bopeth a'r brif elfen yw i gadw'n sych a thwym a'i fod e'n ysgafn ac yn gyfforddus.

Carwyn Williams

Ma'r gôt yma'n edrych yn gynnes iawn, pa ddefnydd ydy hi?

Plu go iawn, hwyaden a gŵydd sydd ynddi a ma' hi'n gynnes ag yn neis. Dwi'n gwisgo hon lawr i'r traeth eitha lot am ei bod hi mor dwym ma' hi'n gorjys yn enwedig yn y gaeaf.

Carwyn Williams

Mae yna enwau mawr yn gysylltiedig â'r byd syrffio sydd bellach yn adnabyddus i ni gyd. Fyddi di'n prynu eu dillad nhw?

Ma' marchnata a'r holl hysbysebion sydd yn mynd gyda syrffio wedi tyfu dros y blynyddoedd diwetha' a chi'n gweld siopa fel Quicksilver a Ripcurl ar y stryd fawr. Prif bwrpas cwmnïau fel hyn nawr yw i werthu crysa-t neu hoodies, i mi ma' nhw'n mynd allan o beth oedd syrffio yn y lle cynta' a ma' llawer o bobl ma' nhw'n alw'n 'soul surfers', y rhai sydd yn meddwl mwy am y profiad o syrffio - yn mwynhau a chael hwyl - ma' nhw'n teimlo y dyla' rhai o'r brandiau yma roi rhywbeth yn ôl mewn i'r gamp yn hytrach na chanolbwyntio ar werthiant.

Carwyn Williams

Be ydy dy farn di ar hyn?

Dwi'n eistedd yn y canol i fod yn onest achos dwi'n cydymdeimlo gyda'r noddwyr, ma'n rhaid iddyn nhw wneud elw, ond eto os oes ethics gyda chi tu ôl i hynny, dwi'n credu ei fod o'n beth da achos eu bod nhw'n dangos y ffordd.

Carwyn Williams

Ydy'r dillad a'r diddordebau yn rhan o'r un peth i ti?

Ydy. Pan dwi'n gwisgo siwt, mae'n fy atgoffa i mod i'n gorfod bod yn broffesiynol ac ennill bywoliaeth – ma'n rhoi ffocws i'm mywyd i. Ond, unwaith dwi'n rhoi fy 'fflip-ffops' ymlaen neu rywbeth cyfforddus fel hoodie, ma'n fy atgoffa fi o fod mas yn yr awyr agored - ma'n dda i'r enaid i gael balance.

  • CWPWRDD DILLAD