Cwpwrdd Dillad: Carys Owen
CWPWRDD DILLAD: Catrin James | Glyn Wise | Carys Owen
Carys Owen
Carys Owen
Carys Owen
Carys Owen

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Carys Owen o Borthmadog yn teimlo fod ei bywyd yn troi yn ei unfan - felly mae Eleanor a Nia yn camu i'r adwy er mwyn rhoi tröedigaeth ffasiwn iddi!

Carys Owen

Nia: Sut 'da chi'n teimlo pan da chi'n sbïo arnoch chi'ch hun yn y drych, a be da chi'n gobeithio cael o'r profiad yma?

Carys: Mae'n dibynnu'n hollol be sy gynna i arnodd, ond dwi yn meddwl weithia 'Oh God, dwi'n edrych yn awful!' Ond os 'swn i'n mynd allan ac yn gwisgo i fyny a rhoi colur, 'swn i'n teimlo ychydig yn fwy secsi neu rhywbeth felly. Rhan fwyaf o'r amser rwan, dwi'n edrych yn ffrwmp dwi'n meddwl. Dwi'n gobeithio cael ychydig mwy o hyder yn fy hun a chael gwybod sut i wisgo, be' sy'n mynd gyda'i gilydd a be sy'n siwtio. Dim jyst cymryd rhwbath rhwbath o'r wardrob, trio matsio petha i fynd gyda'i gilydd. Dwi'n edrych ymlaen at gael gwneud fy ngwallt - ac mae 'ngwallt di cael ei adael a di bod fel hyn ers blynyddoedd. 'Swn i'n leicio newid.

Carys Owen

Nia: Be am eich bywyd personol? Fe fuoch yn briod am sbel do?

Carys: Fe fues yn briod am ddeunaw mlynedd ac wedyn fe ges i ysgariad. Fe fues mewn perthynas arall am ddeg mlynedd ac mi ddoth hwnnw i ben ac ar y funud dwi ddim yn siwr lle mae bywyd yn mynd.

Nia: Yma i roi ychydig o arweiniad i Carys y mae steilydd Cwpwrdd Dillad, Eleanor Gardener.

Carys Owen

Eleanor: Yn gyntaf dwi am son am siâp dy gorff. Mae gen ti siâp awrwydr llawn a ma' gen ti wast fach yn cuddio o dan y bronnau 'na felly ti angen gwisgo dillad sy' hefo strwythur.

Dwi'n mynd i sôn am y top yma - dydy'r lliw ddim yn grêt, dydy o ddim rili yn mynd i gynhesu dy groen di a does 'na ddim strwythur yna. Dydy o ddim yn mynd i ddangos dy wast di o gwbl ac mae'n mynd i dynnu gormod o sylw at y bronnau. Ma' gen ti fronnau ffantastig, mae lot o ferched eisiau bronnau mawr ond dydy gwisgo vest-top fel 'ma ddim yn mynd i wneud dim byd i dy fronnau. Ti'n gweld y lliwiau yma, mae lot ohonyn nhw'n liwiau ysgafn a lliwiau pastel, ti angen bach fwy o liw.

Carys Owen

Eleanor: Mae'r siwt yma hefyd yn eithaf di-siap. Mae dy gluniau di'n eithaf mawr, ac mae trowsus fel hyn sy'n mynd yn gul ar y gwaelod yn mynd i wneud i dy gluniau di edrych yn fwy - felly mae'n well i ti wisgo trowsus sy'n fwy llydan ar y gwaelod. A dydy siaced fel hyn ddim yn mynd i ddangos dy siap.

Ond cyn datgelu'r dillad newydd, rhaid taclo'r gwallt. Da'n ni'n mynd i roi layers yno fo, ei dorri fo at y gên a rhoi 'highlights' brown a chopr ynddo fo.

Carys Owen

Nia: Wel mae'r trawsnewidiad yn hollol anhygoel, bron na fyswn i'n eich nabod chi! Cyn i mi dy holi am sut wyt ti'n teimlo – Eleanor, be wnes di yn union achos mae 'na gymaint o wahaniaeth!

Eleanor: Oes, ond y newid mwyaf i mi yw'r gwallt. Da ni 'di cael gwared â'r hyd a chael gwared â'r gwyn. Wedyn mae'r lliw wedi cael ei gynhesu ac am fod y gwallt yn fyrrach, ti'n gweld y wyneb a llygaid Carys yn sgleinio. Gyda'r dillad, dwi 'di creu delwedd bach fwy soffistigedig. Mae'r gardigan tua £30 o M&S a'r got rhyw £120 o Debenhams - Betty Jackson, y trowsus eto o Betty Jackson, a'r mwclis syml yma'n dod o Principles - felly mae'n hawdd iawn creu'r edrychiad yma o'r stryd fawr.

Carys Owen

Nia: Ac wrth gwrs Carys, y cwestiwn mawr, sut ydach chi'n teimlo?

Carys: Dwi'n hapus dros ben, mae o'n lyfli ac mae o 'di newid fi'n hollol - dwi'n teimlo llawer yn fwy hyderus a smart, ac yn braf neis. Dwi 'di mwynhau'n arw ac yn diolch yn fawr i Eleanor.