Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Cathrin Daniel
Cathrin Daniel
Cathrin Daniel
Cathrin Daniel
Cathrin Daniel

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Fe fydd Cathrin Daniel yn cael trawsnewidiad lliwgar gan y steilydd Eleanor Gardner cyn iddi gwrdd â'r tywysog Harri.

Cathrin Daniel

Beth ydy dy waith di Cathrin?

Fi ydy cyfarwyddwr gweithredol Dolen Cymru, sef elusen sy'n hybu cysylltiadau rhwng Cymru a Lesotho yn Ne Affrica.

Cathrin Daniel

Pam wyt ti eisiau help Eleanor?

Ma' 'na ddau beth dwi angen cyngor arno. Un, ydy dillad gwaith pob dydd, ro'n i'n gyfarwyddwr eitha' ifanc, yn 25 yn cychwyn, felly roedd angen cyngor ar sut i wisgo'n fwy priodol ar gyfer y swydd. Ac yn ail ma' gynnon ni dri achlysur yn dod fyny'r haf yma a ro'n i isio cyngor Eleanor ar be i wisgo.

Cathrin Daniel

Pa fath o achlysuron sydd gen ti ar y gweill?

Y cynta' ydy gêm bolo yn Highgate tu allan i Lundain lle y bydd y Tywysog Harri, sef noddwr Dolen Cymru yn cyflwyno siec. Yn ail ma' gynnon ni gynhadledd yng Nghaerdydd da ni'n ei gynnal ar gyfer yr holl elusennau sydd yn gweithio yn Lesotho. Wedyn yn drydedd, ma' gynnon ni dderbyniad gyda'r nos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd lle y byddwn ni'n cael ocsiwn i godi arian ar gyfer yr elusen ac mi fyddan ni'n gwahodd Aelodau o'r Cynulliad a'r Tywysog Harri a phobl ddylanwadol eraill.

Cathrin Daniel

Fydda ti'n dweud fod cynnwys dy gwpwrdd di'n llawn o ddillad 'saff'?

Baswn, ma' 'na lot o ddu, gwyn a llwyd ynddo fe.

Cathrin Daniel

Er mwyn rhoi cymorth i Cathrin mae'r steilydd Elinor Gardner yn mynd i roi cyngor iddi.

E: Beth wnes di wisgo'r tro cyntaf nes di gwrdd â'r Tywysog Harri?

Nes i brynu pâr o drowsus du, bŵts du a thop sidan gwyn a du i fynd hefo fo.

Cathrin Daniel

E: Mae dy steil di'n ymddangos yn eitha' saff a diflas a dwi'n cael yr argraff dy fod di'n poeni am ddangos dy gorff ac am hyd y sgerti ti'n eu gwisgo. Dwi'n teimlo nad wyt ti'n dangos siâp dy gorff ddigon - ma' gen ti siâp perffaith a dwi'n meddwl bod angen i ti ddangos hynny fwy a pheidio bod ofn.

E: Dwi wedi dewis siaced lwyd gyda throwsus du a blows wen ar gyfer gwaith bob dydd. Ma'r siaced lwyd yn eitha' ceidwadol, ond mae modd creu delwedd fwy cyfoes wrth ei wisgo gyda throwsus du llac sy'n gorwedd ar y wast.

Cathrin Daniel

E: Ar gyfer y lansiad dwi wedi dewis ffrog cocktail lliw cryf, rhywbeth dwi'n meddwl y mae Cathrin yn ei ofni, ond dwi'n gwybod ei fod o'n mynd i edrych yn anhygoel arni hi ac ma'r toriad yn mynd i ddangos siâp ei chorff hi.

Cathrin Daniel

E: Ar gyfer y gêm polo nes i ddewis ffrog dwi'n teimlo sydd ychydig bach yn geidwadol, ond eto, gyda ychydig bach o dwist - ffrog ddu a gwyn hefo patrwm cryf. Er mwyn rhoi ychydig bach o liw i'r wisg dwi wedi ei roi hefo esgidia' coch patent gyda block heel a belt coch.

Cathrin Daniel

Ma'r wisg yma'n rhywbeth y baswn i'n disgwyl gweld Cathrin yn gwisgo i'r gwaith neu i gwrdd รข rhywun pwysig mewn cyfarfod. Dwi wedi dewis y got fach goch yma am ei bod hi'n dod mewn ar y wast ac yn creu siâp strwythiedig iddi. Mae'r trowsus yn weddol fitted gan fod dillad syth yn helpu i ddangos corff Cathrin.

Cathrin Daniel

Nia: Ma' gen ti gorff mor siapus, mi fedrai weld pam fod Eleanor wedi dy roi di mewn dillad tynn. Ydy hynny'n teimlo ychydig bach yn anghyfarwydd i ti? Oes yna rai petha' na fydda ti byth wedi eu dewis mewn siop ond unwaith i ti eu rhoi nhw ymlaen, dy fod di wedi newid dy feddwl?

C: Yn sicr, faswn i byth wedi dewis lliw'r ffrog ar gyfer y lansiad ar ben fy hun. Faswn i ddim wedi dewis y ffrog ar gyfer y gêm bolo fy hun chwaith, ond dwi'n licio fo, mae o'n neis.

Cathrin Daniel

Be wyt ti'n feddwl fydd ymateb pawb i dy edrychiad newydd di?

Dwi'n meddwl y bydd yr ymateb yn gymysg.

Cathrin Daniel

Anna, rwyt ti'n chwaer i Cathrin, beth wyt ti'n feddwl o'i steil newydd hi?

Dwi'n meddwl ei bod hi'n edrych fel rhywun y bydda'r Tywysog Harri yn hoffi cwrdd! Dwi'n licio'r ffrog ond dwi ddim yn licio'r belt.

  • CWPWRDD DILLAD