Cwpwrdd Dillad: Catrin Finch
Cwpwrdd Dillad: Catrin Finch | Eirwen Williams | Mark Lugg

catrin finch
catrin finch
catrin finch
catrin finch

"Dwi'n edrych yn ifanc, dwi'n edrych yn eitha' 'poppy' mae'n debyg ond eto dwi'n chwarae miwsig clasurol. Ma' nhw'n dweud fod pobl yn gwrando gyda'u llygaid hefyd so pan dwi'n gwneud cyngerdd, mae'n rhaid meddwl lot am yr hyn ma' pobl yn ei weld."

Mae'r ddelwedd y mae Catrin Finch yn ei chyfleu i'r gynulleidfa yn un bwysig iddi ac ma' hi bellach wedi datblygu ei steil unigryw ei hun ond ydi hi wedi bod yn ymwybodol o'i delwedd hi erioed?

catrin finch

Catrin: Wel, o'n i'n bach o 'tomboy' pan o'n i'n fach ag o'n i wastad mewn welintons a phob math o bethau brwnt a dweud y gwir. Doeddwn i ddim wir yn ferch ffrogiau a sgertiau!

catrin finch

Nia: Wedyn pan es di i'r coleg, es di i Lundain. Mae'n siwr bod hynny'n ddipyn bach o sioc mynd o Lannon i Lundain?

Catrin: Oedd! Roedd y ffasiwn dipyn bach yn wahanol rhwng y ddau le! Nes i ddechrau meddwl beth o'n i'n wisgo a pha fath neu frand oedd y dillad. Ma' fy ffrindie yn fy ngalw i'n 'The Diesel Queen' achos dwi'n mynd syth i Diesel pan dwi'n mynd i siopa. Yna Miss Sixty, Karen Millen a Ted Baker. Dwi'n mynd syth i Selfriges pan dwi yna oherwydd fel arfer allai ddod o hyd i bopeth o dan un to!

Nia: Faint o gypyrddau sydd gyda ti felly?

Catrin: Mae genai ddau. Un cwpwrdd ar gyfer dillad bob dydd a'r llall ar gyfer dillad cyngerdd 'posh'. Felly dwi'n cadw rheiny ar wahan. Felly mae'r cwpwrdd cyntaf yn cynnwys dillad dwi wedi eu dewis.

catrin finch

Nia: Alla i weld un top o bellter a dwi bron yn sicr mai Diesel ydi o?!

Catrin: Ti'n gywir. Mae'r tyllau yma'n reit nodweddiadol o Diesel tydyn. Lot o rips ayb. Mae'r top dwi'n ei wisgo yn Diesel hefyd. Roedd Mam yn meddwl ei fod yn wirion 'mod i'n prynu dillad hefo rips ynddyn nhw'n barod. Ond dwi'n trio dweud wrthi "Look Mum, it's cool!"

catrin finch

Nia: Mae'r gôt yma'n neis

Catrin: Hen gôt Nain yw hon a ma' hi'n anhygoel. Mae hi ryw 60 mlwydd oed ond ma' hi'n dal i fod yn anhygoel. Minc ydi hi.

catrin finch

Nia: Beth am Catrin Finch y berfformwraig, y delynores? Ti'n cofio beth wisgais di ar gyfer dy berfformiad cyntaf di ar y teledu?

Catrin: Ydw! Hel Straeon, S4C a Blue Peter gyda John Leslie oedd y rhaglenni cyntaf i mi ymddangos arnynt. Roeddwn i tua 8 neu 9 mlwydd oed a mi wisgais ffrog ddu flodeuog gyda rhuban 'peach' ar ei chefn. Doedd na ddim rhyw lawer o arian adref bryd hynny, felly roedd Mam yn eu gwneud nhw i mi ac odden nhw'n gorjys. Wy'n edrych arnyn nhw nawr a ma' nhw'n dod ag atgofion melys yn ôl i mi.


catrin finch

Catrin: Mae yna gwmni telynau o'r enw 'Salvi' yn Llundain. Pan o'n i'n Llundain, roedd y cwmni yn cynnig rhyw fath o help i delynorion ifanc er mwyn prynu eu dillad. Felly o'n i'n ddigon lwcus i gael y cynnig yna ganddynt. Roedd Julia Salvi o'r cwmni yn fy helpu i ddewis dillad ag odd hi'n ffantastig gyda fi. Roedd hi'n mynd a fi i siopa unwaith y flwyddyn a'n dweud "Oh Catrina, we must go shopping to Harrods now, we must go straight to Harrods for some dresses." Dwi'n cofio un tro athon ni yno a phrynu ffrog Amanda Wakely sydd yn ddu a chynffon coch sidan a mae hi'n anhygoel o ffrog. Doedd gan y ffrog ddim strapiau iddi a'n anffodus wrth chwarae'r delyn, ti'n symud lot ac wrth ymarfer mi ddisgynnodd y ffrog lawr i'm wast! Roedd hi'n lwcus mai ymarfer yn fy ystafell oeddwn i. Felly dyma fi'n ffonio fy athrawes ar y pryd a dywedodd hi "Right Catrin. We must put some straps on." Felly nath hi jyst roi strapiau ar ffrog £2000 Amanda Wakely! Mae'r holl beth yn eitha' doniol wrth edrych nôl nawr, ond ar y pryd, odd yr holl beth yn ofnadwy a finne'n nerfus a phopeth. O'n i'n meddwl bod y byd yn beni!

catrin finch

Nia: Yn 1998 penodwyd Catrin yn delynores frenhinol i Dywysog Charles

Catrin: Yr unig bryd odd 'na ryw fath o reolau neu drefn o'r hyn roeddwn i'n wisgo oedd pan o'n i'n delynores i'r Tywysog am bedair mlynedd rhwng 18 a 22 mlwydd oed, 1998-2002. Odd 'na drefn a hynny oedd posh, posh a mwy o bosh! Un peth oedd yn ddoniol oedd sylwadau'r rhai oedd yn gweithio yn y palas am yr hyn roeddwn yn ei wisgo o bryd i'w gilydd. Pan o'n i tua 20 mlwydd oed, o'n i'n trio gwisgo'n llai ffurfiol a'n fwy ifanc a sylwi bod staff y palas yn dechrau sylwi ar hyn a'n dechrau mynd yn nerfus am y peth! Bob hyn a hyn, roedd rhywun yn dweud wrthyf "Oh, remember Catrin, the Prince IS very traditional you know. You do know it's a black tie event don't you." Felly roedden nhw jyst yn profi'r dwr fel petai cyn unrhyw ddigwyddiad pwysig i sicrhau fy mod ddim yn troi lan mewn trowsus!


catrin finch

Nia: Dwi'n cofio'r trowsus lledr coch yma. Odd 'na ffys mawr yn y wasg amdanyn nhw?

Catrin: Oedd! Nes i eu gwisgo nhw i ryw gynhadledd telyn a roedd yr holl delynorion yn gwisgo ffrogiau. A finne yn dod mas mewn trowsus lledr coch a ryw dop bach du ac odd pawb fel 'Oh my god!' a fel petae nhw'n cael trawiadau bychain ar y galon am yr hyn oeddwn yn ei wisgo!

catrin finch

Catrin: Prosiect newydd, cyffrous i mi nawr yw un gyda Jane Davies sy'n byw yn y Gogledd a sydd yn dylunio a gwneud dillad. Mae hi'n wych. Dwi'n ffan mawr yn gyffredinol o beth mae Jane yn ei wneud felly roedd hi'n wych pan nath hi ddylunio fy ffrog gyntaf i mi. Roedd y ffrog wedi'i dylunio'n arbennig ar gyfer cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd yng nghwmni'r Tywysog. Wrth weithio gyda Jane, ma' hi hefyd yn neis i mi gael dewis be' dwi eisiau ei wisgo - alla i ddweud wrthi, er enghraifft, hoffwn gael ffrog felen a mae'n rhaid iddi gael secwins arni yn y steil yma. Mae'n gret.

Catrin ar ddillad...
Ma' pob ffrog sy' gen i yn dweud stori neu'n dod ag atgofion yn ôl i mi. Oherwydd hyn, nai fyth daflu unrhyw ffrog i ffwrdd.

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25