



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Catrin yn gantores 'glam' o Gaerdydd sy'n hoffi gwisgo ffrogiau amryliw.
Sut fydda ti'n disgrifio dy steil di?
Weithiau, dwi eisiau gwisgo rhywbeth dramatig achos y mŵd dwi ynddo ar y pryd. Felly does neb byth yn gallu dweud be dwi'n mynd i wisgo! Dwi jyst moyn teimlo fel cymeriad arall.
Pa mor bwysig yw dillad yn dy fywyd di?
Ma' cerddoriaeth a ffasiwn yn rhan fawr o 'mywyd i. Dwi'n canu i fand o'r enw Sal, felly dwi'n licio gwisgo dillad sy'n sefyll mas. Dwi'n licio lot o liwiau, lot o bethau bach 'mad' fel sgertiau mawr a corsets neu rock t-shirts - pethau sy'n mynd i sefyll mas ar lwyfan. Dwi wastad wedi bod yn perfformio, felly dwi wedi bod yn gwisgo dillad llwyfan ers pan o'n i'n fach. Ddechreuais i ganu drwy ganu caneuon clasurol. Roedd yn athrawes i'n dweud wrtha' i y math o bethau ro'n i fod i wisgo, ond doeddwn i ddim rili wastad yn hoffi beth oedden nhw'n ei roi i mi. Ond nawr, dwi'n canu caneuon fy hun, dwi'n gwisgo dillad dwi ishe eu gwisgo, felly mae o i gyd i'w wneud hefo fy mhersonoliaeth i nawr. Gyda'r stwff clasurol roedd popeth yn fwy sidêt - a dydw i ddim yn sidêt!
Dwi'n meddwl mai hwn ydy'r cwpwrdd dillad fwya' lliwgar dwi erioed wedi ei weld, a ma'r ffrog binc yma'n anhygoel!
Dwi'n licio lliw yn fawr iawn! Mi weles i hon mewn boutique bach yng Nghaerdydd, Pussy Galore, a ro'n i'n meddwl, ma'n rhaid i mi gael hi, achos ma' yna fanylder mawr ynddi - y ffrils i gyd! Ar y blaen ma' hi'n fyr, wedyn yn y cefn ma' hi'n hir. Ma'r enw ar y label yn ciwt, Frilly Lilly. Mae'r cefn fel corset hefyd. Dwi'n licio corset gan eu bod nhw'n tynnu ti mewn ac yn rhoi siâp neis, hyd yn oed os ti'n teimlo'n bloated! Ma' lot o'n nillad i - ti'n meddwl eu bod nhw'n 'girly' ond 'girly' - slash - 'raunchy' ydy nhw! Mae yna ddau ochr i fy nghymeriad i'n dod mas - yr angel a'r diafol!
Ma' hon y ffrog anghyffredin, o le gest ti hon?
Ma' stori tu ôl i'r ffrog yma. Ges i hon mewn siop o'r enw Betsey Johnson yn San Francisco pan es i ar 'roadtrip' gyda ffrind i mi, Sian. Fi oedd yn gyrru'r holl ffordd - sa' i'n gwybod sut nes i fe - o LA i Vegas. Roedd y siop Betsey Johnson 'ma yn popo lan ym mhobman! Roedden nhw'n llawn o ffrogie rili pert a ro'n i moyn un, ond roedden nhw mor ddrud! Felly, pob tro yr oedden ni'n gweld siop, mi oedd Sian a fi'n trio ffrogie mhlân - ma' nhw'n rhoi esgidiau i ti i fynd gyda phob ffrog a rodd y ddwy ohona ni'n trio nhw o flaen y drych. Yn y diwedd, roedd yn rhaid i mi gael un, a mi wnes i ffeindio hon yn y sale yn San Francisco - brilliant!
Wyt ti wedi gwisgo'r ffrog o gwbl?
Ar ôl Vegas, mi aethon ni i Efrog Newydd ac roedd premier Sex and the City ymlaen felly mi naethon ni gyd fynd i weld y ffilm wedi gwisgo lan fel y cymeriadau a wedyn mynd mas yn y nos yn y ffrogiau i gael cocktails. Ma'r ffrog yma'n fy atgoffa fi o'r girly trip yna!
Be sy'n dy ddenu di tuag at brynu cymaint o ffrogiau?
Pan dwi'n mynd mas i siopa, dwi wastad yn meddwl am ffrogia cyn dim byd arall achos 'dych chi ddim yn gorfod rhoi top a sgert hefo'i gilydd. Dwi wedi gwario cymaint o arian ar ffrogia dros y blynyddoedd! Weithia, dim ond unwaith dwi'n gwisgo rhai ohonyn nhw! Felly ma' fi a'n ffrind, Alex, wedi meddwl dechrau cwmni llogi ffrogiau o'r enw, Cwpwrdd Cudd, My Seceret Wardrobe yn Saesneg - yn enwedig rŵan hefo'r 'credit crunch' - mi fydd o'n berffaith!
Ma'r ffrog yma'n fendigedig, at ba achlysur ges di hon?
Ro'n i wedi trio cystadleuaeth ar MySpace i ysgrifennu cân ar gyfer audio book James Bond. Roedd Sebastian Faulks yn sgrifennu'r llyfr a mi oedden nhw moyn chwilio am rywun i ysgrifennu cân i'r llyfr. Felly ro'n i'n meddwl, beth am roi tro arni. Mi ysgrifennais i gân, a mi wnaethon ni ennill y gystadleuaeth! Enw'r gân ydy 'Devil May Care'. Felly mi wnes i wisgo'r ffrog yma yn y fideo i'r gân.
Beth fyddi di'n ei wisgo wrth berfformio ar y llwyfan hefo'r band?
Dwi'n licio cymysgu topiau roc fel yr un AC/DC yma gyda les neu netting. A dweud y gwir mi fyddwn i'n gwisgo'r sgert yma i siopa os faswn i yn y mŵd! Mi fyddai'n mynd mas a cherdded lawr y stryd yn y sgert yma a ma' pobl yn sbïo arna'i ag yn meddwl, 'be ma' honna'n wisgo?' Ond sdim ots da fi, achos os wyt ti yn y mŵd, jyst gwna fe! Dwi jyst yn licio gwisgo dillad a chael hwyl ynddyn nhw!
- CWPWRDD DILLAD