Cwpwrdd Dillad: Catrin Jones
Catrin Jones
Catrin Jones
Catrin Jones
Catrin Jones

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

O fod yn brif leisydd band blaengar Mao i ymarfer yoga a therapïau holistig, mae Catrin Jones, Cymraes sydd wedi ymgartrefu yng ngogledd Llundain wedi cyfenwid y cynnwrf am y llonyddwch.

Catrin Jones

Mae cerddoriaeth yn bwysig iawn yn dy fywyd di. I ba raddau mae dy steil di wedi cael ei ddylanwadu gan wahanol fathau o gerddoriaeth?

Llawer fawr dwi’n credu. Mae’r ffordd o fyw sydd gen i ar un adeg yn dylanwadu ar y math o gerddoriaeth dwi’n ei sgwennu, felly mae’r ddau ohonyn nhw yn mynd law yn llaw ac yn rhan o’r mynegiant o bwy ydw i. Ar ôl i mi orffen yn y Brifysgol, roedd gen i lawer o ddiddordeb mewn clybiau a chlybiau nos ac roedd dillad a cherddoriaeth yn rhan fawr o’r diddordeb yna. Ond nes ymlaen, fe wnes i ddarganfod cerddoriaeth ro’n i wir yn ei licio, sef ‘drum and base’, ‘hip-hop’ a ‘reggae’. Roeddwn i’n arbrofi lot gyda beth bynnag oedd yn ffasiynol ar y pryd. Dillad o’r 70au, dillad Biba. Dillad ar gyfer clybio oedden nhw, mynd mas a gwisgo lan.

Catrin Jones

Be am i ni ddechrau gyda’r peth hynaf sydd gen ti yn dy gwpwrdd...

Dyma ffrog brynais i sawl blwyddyn yn ôl mewn siop o’r enw ‘Frock-Brokers’ yn Spittalfields, Llundain. Roedd yn siop ddiddorol iawn oherwydd roedden nhw’n cael dillad fel ‘samples’ gan ddylunwyr newydd ac ifanc ac roedd ‘na gyfle i brynu nhw am bris lot rhatach na’r arfer. Mae’r ffrog yma’n hollol unigryw. Yr unig broblem gyda’r ffrog yma yw dydy e ddim yn addas iawn ar gyfer gwisgo dillad isaf, felly mae’n rhaid fy mod i’n teimlo’n eithaf dewr i fynd mas yn hwn!

Catrin Jones

Dweud wrtha i am dy amser fel rhan o’r band Mao...

Pan wnes i adael y Brifysgol roeddwn yn awyddus iawn i ysgrifennu cerddoriaeth. Odd e’n gerddoriaeth eithaf swnllyd a Avant Garde. Roedd e’n gyfnod oedd yn lot fawr o hwyl, ac fe fues i’n rhan o’r band Mao am bedair mlynedd.

Catrin Jones

Oedd be oeddet ti’n wisgo yn chwarae rhan bwysig o ran y perfformiad i gyd?

Oedd, roedd yn help i mi greu personoliaeth a rhyw fath o gymeriad. Pan oeddwn i yn y brifysgol, roeddwn i o hyd yn llewygu wrth wneud perfformiadau ac mi oeddwn i’n nerfus iawn. Be wnes i oedd mynd i sawl gig ac edrych ar y prif gymeriadau ar y llwyfan a meddwl ‘reit, be dwi isho gweld fel rhywun yn y gynulleidfa?’. Ro’n i am weld person oedd yn gwbl rydd fel petaent yn eu hystafell wely jyst yn freakio mas - llawer mwy na fydden nhw’n gwneud fel arfer mewn lle cyhoeddus. O’n i wedyn yn creu’r cymeriad ro’n i eisiau bod, ac roedd y dillad yn rhan o’r cyfanwaith yr oeddwn yn ceisio ei gyfleu. Dwi’n credu mai hwnnw oedd cyfnod aur fy mywyd hyn yn hyn - dwi’n disgwyl rhagor wrth gwrs!

Catrin Jones

Be ydy hwn - mae’r siâp yn anhygoel!

Mae hwn yn un o’r pethau mwyaf arbrofol dwi wedi ei brynu ac fe gath ei gynllunio gan rhywun o’r enw Shelley Long, oedd yn arfer bod yn ddarlithydd yng ngholeg Celf Central St Martin’s yn Llundain.

Catrin Jones

Beth ydi’r siwt yma?

Mae hon yn siwt gan y cynllunydd Ossie Clarke ac yn dod o’r 60au cynnar. Mae lluniau o Twiggy yn gwisgo fe. Mae’r print ar y siwt gan ei wraig, Celia Birtwell, sydd wedi bod yn cynllunio i TopShop yn ddiweddar. Mae’r ddau wedi gweithio llawer gyda’i gilydd - oherwydd bod ei phrintiau hi yn gweithio mor dda gyda’r toriad anhygoel sydd ar waith Ossie Clarke.

Catrin Jones

Oes yna ryw newid mawr wedi digwydd yn dy fywyd - o edrych arnat ti dwyt ti ddim yn edrych fel y ddelwedd clybio Drum and Base confensiynol, dim mwy beth bynnag?

Dwi’n licio’r syniad fod bywyd yn newid a doeddwn i ddim am fod yr un peth drwyddi draw - ond tua’r flwyddyn 2000, fe wnes i adael y bywyd clybio a darganfod bywyd mwy holistig. Dechreuais i ymarfer yoga a dysgu llawer am fwyd ac iechyd a dwi wedi bod yn astudio ‘sound healing’. Mae’r gerddoriaeth dwi’n ysgrifennu nawr yn hollol wahanol. Pan oeddwn yn ifancach roeddwn i’n hoffi gwisgo i greu argraff gan ddweud ‘dyma fi - rwy’n greadigol’ - ond nawr dwi’n fwy tebygol o wisgo rhywbeth sy’n hala fi deimlo’n fwy cyfforddus yn fy hun.

Catrin Jones

Felly ti’n fwy hyderus yn dy hun falle?

Dywedodd fy ffrind wrtha i bod menywod yn tueddu i wisgo coch pam maen nhw’n dod at amser yn ei bywyd ble maen nhw’n teimlo’n bwerus iawn, a maen nhw’n gwneud be maen nhw isie. Dwi yn sylwi bod ‘na ferched yn gwisgo coch fel ‘sa nhw’n rili gwybod be maen nhw isie. Dwi isie bod yn un o’r menywod hen yma sy’n gwisgo’i fyny tan y funud olaf!