



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Nid ffad newydd yw hoffter Catrin James o steil y 60au - mae'n gyfnod sydd wedi ei chyfareddu ers yn ferch ifanc. Mae hi hefyd yn benodol iawn am y cyfnod y mae hi'n diddori ynddo - wrth i'r blynyddoedd rhwng '66 a '73 ddylanwadu ar ei chwaeth mewn ffilmiau, rhaglenni teledu a steil y dillad y mae hi'n eu gwisgo bob dydd.
Ers pryd wyt ti wedi cael diddordeb mewn ffasiwn y 60au?
Ers i mi fod yn 15 dwi wastad wedi bod i mewn i ddillad o'r chwedegau - ac wedi treial cadw'r steil hynny a trwy 'mywyd i rili. Ro'n i wastad yn trio copïo fy mam, mewn hen luniau o'n i 'di weld ohoni hi yn y 60au oherwydd wrth dyfu i fyny yn yr 80au roedd y dillad a'r lliwiau pasteli'n rili hyll! Roedd yn well gen i liwiau fel oren a phorffor a lliwiau craidd. Dwi 'di cadw'r lluniau o fy mam yn 60au ers i mi fod yn fach a dwi'n caru nhw, jyst y lliwie, pa mor syml yw'r steil a phopeth. Dwi'n cofio meddwl mai dyna sut yr oeddwn i am edrych pan o'n i'n henach.
Ti'n sôn am gyfnodau'r 60au a'r 70au - ond mae o'n fwy na hynna'n dydi, rwyt ti hefyd yn benodol o ran y blynyddoedd...
Ydw, rwy'n hoff o'r steil rhwng '66 a '73, mae hynny gyda cerddoriaeth a ffilmiau hefyd. Un o fy hoff actoresau yw Rita Tushingham o'n i o hyd yn edrych ar ei ffilmiau hi wrth dyfu lan. Hefyd roedd rhaglenni teledu y cyfnod, fel 'Please Sir' – dwi'n absolutely caru'r rhaglen 'na a beth maen nhw'n wisgo, eu gwalltiau nhw a phopeth fel 'na. Pan o'n i'n tyfu lan roedd y rhaglenni 'ny'n wastad ar y teledu ac o'n i'n meddwl, 'reit, dyma sut fi eisiau edrych!'
Disgrifia steil y cyfnod i mi, te?
Esgidiau bach ciwt, gyda sawdl eithaf chunky, lot o patent, stwff syml gyda bwcwl, boots eithaf tynn, polo necks, sgertiau bach, ffrogiau eithaf syml, fel shift dresses gyda phatrwm neis arno fe, lot o wlân. Stwff syml rili.
Mae gen ti lot o goch yma.
Ydw, dwi'n hoff iawn o goch ac mae lot o gotiau coch gen i. Mae hwn yn got lyfli - oherwydd does dim botymau - dwi ddim yn hoffi botymau a dwi methu gwisgo pethau gyda botymau ers fy mod yn fach iawn.
Wyt ti wedi cadw dillad dy fam di?
Wel, dydw i ddim yn ffitio mewn i'r rhan fwyaf ohonyn nhw, roedd merched y cyfnod yn eithaf bach yn doedden nhw?
A beth am y broblem sydd gen ti gyda botymau?!
Dwi'n prynu dillad gyda zips a just yn trio peidio edrych ar ddillad sydd â botymau arnyn nhw, fi'n chwerthin am y peth fy hunan. Mae lot o'r stwff o'r cyfnod gyda zips arnyn nhw - so dwi'n falch fod y steil a'r phobia'n medru dod at ei gilydd.
O ble wyt ti'n cael y dillad - oherwydd mae'n siŵr ei bod hi'n anodd dod o hyd i ddillad gwreiddiol o'r cyfnod...
Mae'n anoddach nawr. Pymtheg mlynedd yn ôl pan nes i ddechrau mynd i'r siopau, roedd fel petai mwy o siopau yn arbenigo yn y cyfnod. Ond ers mae'r blynydde wedi mynd, mae'r tueddiad i wisgo dillad o'r cyfnod mas wedi dod yn fwy normal. Ma' hon yn ffrog dwi'n gwisgo allan trwy'r amser ac fe ges i hi mewn siop ail-law yng Nghaerdydd tua pum mlynedd yn ôl, mae'n dod o 1966. Achos fi'n gwisgo fe mas yn aml ma' lot yn gofyn i mi lle ges i e, yn meddwl fy mod wedi ei brynu mewn siop fel Zara neu rhywle a dwi wastad yn dweud ei fod yn bedwardeg mlwydd oed - ond mae'n edrych yn dda iawn, bron fel newydd.
Beth mae'r dillad yn ei feddwl i ti, oes 'na elfen sentimental?
Mae fel casgliad - dwi wedi casglu'r holl bethau ma' dros y 10 mlynedd diwethaf - neu mwy na 'ny! Dwi'n trin fy nillad fel darn o gelf a ma' na lot o bethau fan hyn bydden i byth yn medru taflu mas. Dwi'n hoffi nostalgia yn fawr iawn a'r dillad o'r cyfnod y 60au mor syml a mwy naïf mewn ffordd.
- Bob nos Fercher 20:25