



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Ceri Hughes wedi bod yn byw a gweithio yn Llundain fel Ymgynghorydd Rheolaeth Busnes ers deng mlynedd, ac mae dillad a steil y brifddinas yn byrlymu o'i chypyrddau.
Fasach chdi'n deud bod byw yn Llundain wedi dylanwadu ar, a siapio, dy gwpwrdd dillad di?
I radde' byswn. Dwi'n meddwl bo chdi'n gwisgo dillad gwahanol yn y ddinas, a hefyd o ran fy ngwaith i, mae hynny'n amlwg wedi dylanwadu ar be dwi'n wisgo - gwaith swyddfa, gwisg ffurfiol, y math yna o beth. Mae gen i ddau gwpwrdd - cwpwrdd dillad gwaith a chwpwrdd dillad fi fy hun a dwi'n eitha' gwahanol swn i'n ddeud yn y dillad dwi'n wisgo i'r gwaith a'r dillad dwo'n wisgo yn fy amser sbâr.

Fel dynes ym myd busnes, wyt ti'n gwneud ymdrech arbennig i wneud yn siwr nad ydy dy siwt di'n rhy isel, y sgert yn rhy fyr ac ati?
Yndw. Mae byd busnes yn dal yn le gwrywaidd iawn yn tydi, ac er bod hynny wedi dechre newid i ryw radde faswn i ddim isio bod yn y gwaith mewn dillad anweddus - da chi'm isio i ddillad dynnu sylw am y rhesymau anghywir nagoes!

Ceri ar ei siwt gyntaf...
Siwtiau dwi'n dueddu i wisgo i fynd i'r gwaith, a dyma'r siwt gyntaf i mi brynu erioed ar gyfer y gwaith, felly deng mlynedd yn ôl. Dwi'n cofio prynu'r siwt yma, mynd i siop Hobbs efo dwy ffrind a nhw'n eistedd yn ymgynghori ar y siwtie - a nhw ddewisiodd y'n siwt gynta' i.
Ceri ar ddillad amser sbâr...
Mae'r rhan fwyaf o bethau yn y cwpwrdd yma (dillad hamdden) yn ddillad sydd wedi dod o siop Whistles, dwi'n licio stwff y siop yna.
Mae dy gwpwrdd dillad di'n andros o daclus, ti'n colour codio bob dim, hyd yn oed dy ddillad isa!
Yndw, dwi'n licio cael trefn ar fy nghwpwrdd dillad, achos mae o'n adlewyrchiad o'm mywyd i'n gyffredinol. Os ydy fan hyn (y cwpwrdd dillad) yn daclus, ma' mywyd i'n daclus!