Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Christian Trumper
Christian Trumper
Christian Trumper
Christian Trumper
Christian Trumper

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae gan Christian Trumper steil hollol unigryw ac mae o’n hapus i chwilio a chwilio nes y daw o hyd i rywbeth sy’n ei blesio! Isdeitlydd rhaglenni teledu ydi Christian wrth ei waith, a dyma ddod a fo o du ôl i’r camera i drafod gwisgoedd yn lle geiriau.

Christian Trumper

Beth yw dy steil?

O ddydd i ddydd, i waith a phethe, jîns neu cords a chrysau. Dwi wastad yn gwisgo cryse mwy neu lai, hyd yn oed mewn tywydd twym dwi’n licio cal rhywbeth o gwmpas fy ngwddw i – rhywbeth eitha’ ysgafn neu amser mae’r gaeaf yn dod, rhywbeth mwy trwchus fel pashmina – mae gen i rai mewn lliwiau gwahanol.

Wy’n teimlo ambell waith bod pobl yn meddwl ‘beth yffach mae e’n ei wisgo’. Oce, mae dipyn o fy nillad i braidd yn ‘loud’ efallai, ond wedyn mae lot o ddu ‘da fi ‘fyd.

Os oes rhywbeh arbennig ‘da fi, mae’n well ‘da fi wisgo rhywbeth sydd ychydig yn wahanol falle. Dwi ddim yn un sy’n gwisgo siwts a teis, wy’n teimlo’n anghyfforddus yn gwisgo nhw. Chi’n mynd i’r nosweithie ‘ma ble mae pawb yn gwisgo’r un peth. A ‘wy jyst yn meddwl fod o braidd yn boring rili. Mae’n nhw’n gwisgo’r pethe yna jyst i fod yr un peth a phawb arall. Fi’n teimlo’n fwy cyfforddus fy hunain efallai jyst yn gwisgo rhywbeth ychydig bach yn wahanol i’r ‘norm’.

Christian Trumper

Mae Christian yn ffan mawr o ledr, mae’n amlwg. Ond nid dim ond lledr du, lledr turquoise, coch a wedyn yr holl gotiau hir – cot camel hollol glasurol, hyfryd mewn defnydd bendigedig...ble ges di hon?

Brynais i hon ar gyfer pen-blwydd ‘yn hunain! Weles i hi mewn catalog Next. Ond daeth y maint anghywir felly es i nôl ag hi wedyn ges i’r seis nesa. Talais i, ond aeth yr arian byth mas o’n nghyfrif i felly sori Next!

Christian Trumper

Brynais i hon mewn siop yn Abertawe. Oeddwn i’n meddwl bod y lliw mor foethus, a mae hi’n teimlo’n foethus ‘fyd. A phan bigais hi lan, sylweddoles fod yn bosib ei gwisgo hi’r ddwy ochr, naill ai’r du neu’r gwyrdd.

Christian Trumper

A mae na ddwy yn fana sy’n reit debyg o ran steil, yn does?

Mae rhain yn ‘bargain buys’. Ges i nhw o Ebay. Roedd yr un coch ‘byty £1.50 a hwn ‘byty £1, rhywbeth fel ‘na. Ond roedd rhaid i mi dalu ‘byty £20 i gael eu hallforio nhw o Tsieina.

Dwi’n dwli ar ledr. Peth cyntaf coch i fi brynu erioed dwi’n credu.

Christian Trumper

Ti’n gwybod be sy’n fy synnu i am y lledr? Ti’n amlwg yn edrych ar ôl dy ddillad lledr.

Dwi byth yn gwisgo lledr mas yn y glaw. Felly tydyn nhw ddim yn dod allan yn aml yn y tywydd ‘da ni’n gael yma yng Nghymru.

Christian Trumper

Oes gen ti ddillad blêr, dillad pob dydd, dillad efo tyllau ynddyn nhw, dillad chwaraeon?

Dim dillad chwaraeon! Dwi ffaelu dychmygu hynny. Amser oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i jyst yn sefyll yn y gornel, jyst yn gadael i bawb redeg heibio neu rhywbeth! Mae hen drowsus ‘da fi i olchi’r car!

O ran y convertible, oeddwn i wastad rili, rili, moyn un. Os ydw i’n tynnu’r to off, mae fel petai’r byd ar agor i mi a mae o jyst yn neis. Mae’n well ‘da fi gael y to bant yn y nos. Dwi’n cael rhyw fath o egni.

Christian Trumper

O ble ddaeth y syniad o wisgo pashminas?

Un fy nhad-cu oedd hwn. Ffeindies i fe yn y drâr ac roeddwn i jyst yn dwli ar y lliwie ‘fyd.

Oeddwn i’n mynd i briodas dros y gaeaf a moyn rhyw sgarff a weles i yr un yma [sgarff turquoise]. Roeddwn i’n dwli ar y lliw. Oedd hi’n two-for-£5 yn y French Market so ges i’r ddwy yma gyda’i gilydd. Oddi ar hynny, dwi wedi lando fyny’n prynu’r lleill! Dwi jyst yn dwli ar eu lliwie nhw, eu teimlad nhw wrth ‘yn ochr i...

Christian Trumper

Mae’n rhaid i mi ofyn i ti – wyt ti’n smwddio dy ddillad dy hun?

Dibynnu. Os yw mam a dad bant, dwi’n smwddio odw! Ambell waith, dwi ddim yn cael siawns achos mae mam yn dwli ar smwddio. Mae hi’n dwli gwylio rygbi a smwddio yr un pryd! So cadw mas o’i ffordd hi amser mae’r rygbi ‘mlaen!

Christian Trumper

Mae hon yn ddramatig, yn dydi?

Oedd fy ffrind i yn priodi dros dolig, ac mae fy ffrind arall i Debbie yn andros o dda yn gwneud pethe felly gwnaeth hi hon i fi. O’n i wastad wedi bod moyn siaced ddu, felly wnaethon ni siarad ac roedd cynllun siaced fyr ganddi ar y pryd, ond fe wnaeth hi ychwanegu gweddill y deunydd ato fe wedyn. Crys du gyda’r secwins arno fe a’r pashmina turquoise jyst i godi’r lliw wedyn.

Christian Trumper

Dwi wastad wedi dwli ar amber. Roedd ‘yn ffrind i’n dweud ‘o bydd amber yn dy siwtio di achos ti’n cael egni a phethe o’r garreg’. Wedyn es i lan i Aberystwyth i brynu hwn a ges i’r fodrwy i fatshio. Mae’r un ar y trydydd bys wastad yn matshio be sydd o gwmpas fy ngwddwg i.

Dwi’n gweithio i Wedi 3 a Wedi 7 a fi’n gwneud yr isdeitlau felly mae’n rhaid teipio’n gyflym. Mae’n rhwyddach tynnu nhw off na bod nhw’n mynd yn y ffordd.

Mae’r dillad dwi’n wisgo yn dibynnu ar y ffordd dwi’n teimlo. Os ydw i’n teimlo’n isel ac eisiau cadw mas o’r ffordd, wy’n trio gwisgo lawr falle, neu’n dueddol o wisgo du am ryw reswm. Fel bod y du yn rhyw fath o ‘cloak’ drosto fi, i gadw mas o’r ffordd. Os ydw i’n teimlo fel ‘dwi moyn cael sbri heddi’ dwi’n gwisgo mwy o liw.

  • CWPWRDD DILLAD