



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch am fwy o luniau
Mae Claire Jones yn delynores Frenhinol sydd â chasgliad o ffrogiau ysblennydd. Mae ei thalent wedi mynd a hi o Orllewin Cymru i balasau a llwyfannau byd enwog.
Ydy dy swydd di fel telynores Frenhinol yn rhoi'r cyfle i ti wisgo dillad arbennig yn aml?
Dwi'n ffili dweud faint o bleser yw hi i fod yn delynores i'r Tywysog. Mae pawb sy'n fy nabod i yn gwybod mod i yn hoffi ffrogiau, ac mae'n mynd mor dda gyda'r swydd a gyda chwarae'r delyn wrth gwrs, ffrogiau hir yn aml iawn.
O ble ddaeth dy ddiddordeb di yn chwarae'r delyn?
Mi wnaeth o gychwyn nôl pan o'n i tua saith mlwydd oed pan ddechreuais i chwarae'r piano ar ffidl, ac fe es i ymlaen i chwarae'r delyn pan o'n i'n ddeg. Mi nes i fynd mewn i'r coleg Brenhinol ar y ffidl, ond mi wnes i newid i'r delyn pan o'n i yn yr ail flwyddyn. Roedd hi'n lwc i mi newid, achos mi fyddai wedi gallu bod yn stori dra gwahanol.
Does yna ddim llawer o ferched efo draig goch ar eu sgertiau nhw. Wyt ti wedi cael hon wedi ei gwneud yn arbennig i ti?
Do, ges hi wedi ei gwneud cyn y Nadolig gan gwmni o'r enw Galloping Cat o Sir Benfro ar gyfer dau achlysur arbennig iawn. Y cyntaf oedd chwarae cyn y gêm rygbi rhwng Cymru a De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Ar gyfer yr achlysur hwnnw fe ges i hi wedi ei gwneud fel bod fflag Cymru arni. Chwe diwrnod yn ddiweddarach mi fues i'n chware ar gyfer pen-blwydd y Tywysog yn 60 yn yr Opera House yn Covent Garden yn Llundain. Mi wnes i addurno ffrog gyda'r lliw aur i fynd gyda'r delyn Frenhinol dwi'n ei chwarae.
Ydy cael gwisgo ffrogiau hir prydferth yn rhan braf o dy swydd di?
Ydy, mae'n hyfryd iawn. Gan fy mod i'n hoffi gwisgo ffrogiau hir hefyd dwi'n joio gwisgo pethe sydd yn tynnu sylw a ffrogiau sydd yn grand. Dwi'n joio gwisgo pethau llawn ysblander ac sy'n hardd iawn.
Be ydy hanes y ffrog aur hir yma?
Ges i fenthyg hon gan Salvi, cwmni telyn sy'n garedig iawn gyda fi. Maen nhw wedi benthyg sawl peth a phrynu sawl ffrog i mi dros y blynyddoedd.
Wyt ti'n mwynhau gwisgo lliwiau llachar fel y ffrog goch yma?
Ffrog yw hon y gwnaeth Salvi brynu i mi o Selfridges. Y siâp a'r lliw yw'r peth gorau amdani hi. Mai'n siâp sydd yn flattering iawn ar gyfer fy siâp i. Dwi'n dueddol o fynd am ddillad sy'n dynn am y wast, ac yna'n mynd mas tamed bach yn y gwaelod i mi gael lle i allu chwarae. Mae'r lliw ar hon yn berffaith, ac mi fyddai yn ei gwisgo hi yn St James' Palace yn Windsor a llefydd fel yna gan fod lliw'r adeilad tu fewn yn goch.
Beth ydi hanes y ffrog ddu yma?
Mae tipyn o hanes tu ôl i hon. Ma'i hi'n ffrog arbennig iawn i mi achos mi wnes i chwarae yn hon ar y noson pan gefais i fy ngwneud yn delynores frenhinol swyddogol. Hefyd fe ges i ysgoloriaeth i'n helpu i fynd trwy'r academi a'n astudiaethau i yna, felly roedd hi'n noson eitha' mawr!
Gan dy fod di newydd gwblhau cwrs ôl radd yn yr Academi Frenhinol ac y byddi di'n perfformio yn broffesiynol o hyn allan, ydy hynny yn golygu y byddi di'n cael gwisgo mwy o ffrogiau arbennig fel y ffrog las yma?
Mae nifer o bethau dwi'n hoffi am y ffrog yma, i ddechrau'r lliw, y royal blue, mi wisges i hi i gwrdd â thywysog William. Mae'r lliw yn mynd gyda lliw fy llygaid i a dwi'n credu ei bod hi'n sefyll allan o flaen y delyn. Yr ail beth dwi'n hoffi yw siâp y ffrog, mae yna ddarn sy'n dod allan ar y gwaelod ac mae hwnna hefyd yn gallu llifo yn neis ar ochr y delyn wrth i chi chwarae. Mae'r lliw glas satin hefyd yn mynd yn dda iawn gyda'r froets ges i gan y Tywysog, sef y broets sy'n cael ei phasio mlaen i'r telynor neu delynores frenhinol nesaf.
Mae'n dipyn o newid byd i ferch o Grymych ddod i weithio i Lundain, wyt ti'n mwynhau byw yn y ddinas?
Ma' hi wedi bod yn chwe blynedd ers dwi'n byw yn Llundain nawr a dwi'n joio mas draw. Ma' yna dipyn o wahaniaeth rhwng Llundain a Chrymych ond dwi'n hapus iawn. Dwi'n mynd nôl adref yn eithaf aml i weld mam a dad a'r teulu i gyd ond mae'n rhaid i mi gyfaddef mod i'n mwynhau'r ffaith fod popeth ar y stepen drws yma.
Ydy dy steil di wedi newid ers i ti symud i Lundain?
Dwi'n credu fy mod i wedi mynd yn lot fwy arbrofol wrth i'r amser fynd ymlaen, yn enwedig wrth i mi berfformio mewn llefydd mawr o ran maint, fel y Faenol. Mae'r llefydd yma mor fawr da chi'n dueddol o feddwl eich bod ch eisiau gwisgo rhywbeth sy'n adnabyddus i bob un ac y bydd pawb yn gallu ei weld.
Oes yna ddillad unrhyw gynllunydd yn arbennig wyt ti'n ei hoffi?
Dwi'n hoff iawn o Desigual, dillad sy'n cael eu cynllunio yn Sbaen ydyn nhw. Ma' nhw'n lliwgar gyda lot o brintiau mawr arnyn nhw ac mi fyddai yn eu gwisgo pan dwi ddim yn perfformio yn aml iawn. Ma' nhw'n hollol wahanol i fy nillad perfformio i. I feddwl am yr ysblander sydd yn mynd gyda'r ffrogiau, dwi'n dueddol o fynd yn erbyn hynny pan dwi'n gwisgo dillad bob dydd.
Beth sydd gen ti mewn golwg ar gyfer y dyfodol?
Fe ysgrifennodd y Tywysog ata i wythnos ddiwetha' yn gofyn i mi fynd ymlaen gyda'r swydd am ryw ddwy flynedd arall. Felly dwi'n edrych ymlaen yn fawr at hynny, maen fraint mawr, a dwi'n gobeithio ca'i wisgo lot mwy o ffrogiau hardd gyda'r swydd wrth gwrs!
- CWPWRDD DILLAD