Cwpwrdd Dillad: Craig Evans
CWPWRDD DILLAD: Beverly Hughes | Craig Evans
Craig Evans
Craig Evans
Craig Evans
Craig Evans

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Craig Evans o Lantrisant yn rhedeg label gerddoriaeth hip-hop ac electro. Cawn fwrw golwg ar sut y mae hoffter rhywun at gerddoriaeth, a steil penodol o gerddoriaeth yn adlewyrchu eu steil personol nhw.

Craig Evans

Pa fath o ymateb mae dy steil yn ei ysgogi?

Dydy pobl ddim yn dy groesawu yng Nghymru os wyt ti yn edrych yn rhy wahanol neu’n unigryw. Mae pobl yn dechrau chwerthin os wyt ti ddim yn gwisgo top rygbi neu’r esgidiau iawn.

Craig Evans

Dwi’n gwybod bod ti wir i mewn i dy gerddoriaeth - felly i ba raddau mae’r gerddoriaeth wyt ti’n licio yn dylanwadu ar be wyt ti’n ei wisgo?

Wel, fe wnes i ddechrau label fy hun o’r enw ‘Skipping Beats’ - label hip-hop ac electronig - a’r steil sy’n gysylltiedig â’r gerddoriaeth yw hetie, trainers a baggy jeans, lot o siacedi ac accessories. Dwi’n prynu lot oddi ar y we a dwi’n licio labeli fel Stussy, Bathing Ape, The Hundreds - ma nhw’n eithaf unigryw. Ma ‘na wefan dwi’n mynd i’n reit aml allan yn America a ma gyda nhw ‘daily dig’ - so ma’ nhw’n gadael i ti wybod yn ddyddiol be sy’n dod i mewn - ond dwi ddim yn mynd i ddweud pa wefan, achos mae pawb yn dechrau gwisgo’r un peth wedyn a dwi’m isho hynny!!

Craig Evans

Wyt ti’n gwisgo’r trainers yma – neu wyt ti’n cadw nhw ac yn edrych arnyn nhw?

Dwi yn gwisgo nhw ond ddylse nhw fod ar ryw silff yn rhywle achos ma’ prisiau nhw’n mynd yn uwch ac yn uwch bob dydd. Y pâr yma o Nike Heinekens nes i brynu am tua £90 punt, ond ma’ nhw’n mynd am tua £400 ar Ebay nawr. Y rheswm eu bod nhw mor ddrud yw fod Heineken wedi cwyno fod Nike wedi defnyddio’r seren goch - felly roedd yn rhaid i Nike dynnu’r holl ‘batch’ ac erbyn hyn maen nhw’n ‘collector’s item’. Yr un peth gyda’r ‘blue -ribbons’, cwmni cwrw o America yw Blue Ribbon, naeth rhain gael eu cymryd oddi ar y silffoedd oherwydd bod Nike wedi cymryd y logo heb ganiatâd. Os byddai’r rhain heb eu gwisgo ac yn eu bocs fe fydden nhw’n costio tua £300, ond am fy mod wedi eu gwisgo gymaint bydde' nhw ddim werth lot!

Craig Evans

Dwi’n gwybod dy fod yn licio dy gapiau - faint o gasgliad sydd gen ti? A be di’r gwahaniaeth rhwng baseball cap a trucker hats?

Ma gyda fi dros tua 30 o hetiau. Mae trucker hats gyda mesh a ffrynt foam – a mae baseball cap mwy fel wrap around heb mesh. Yr het gyntaf i mi ei brynu oedd yr un ‘Miami Mice’ yma - nes i brynu fe pan o’n i’n chwe mlwydd oed yn 1988. Wedyn nes i weld y band yma o’r enw Grandaddy, ac o’n nhw i gyd yn gwisgo Trucker hats felly nes i dwrio’n fy nghwpwrdd dillad i ffeindio fe a dechrau ail-wisgo fe.

Craig Evans

Oes yna ffordd arbennig i wisgo het? Wyt ti wastad yn gwisgo hetiau i’r ochr?

Ydw fi wastad yn gwisgo’r het i un ochr. Fi wedi trio fo’r ochr arall a dydi o ddim yn teimlo’n iawn o gwbl! Make y ddau gap yma yw ‘The Hundreds’ - ac mae gen i jîns yr un fath o steil. Dwi’n licio’r manylion bach.

Craig Evans

Dyma’r eitem dwi byth yn gwisgo - mae mwy fel darn o waith celf i fi - mae e gan Peter Fowler gyda One True Saxon. Peter Fowler sydd yn gwneud gwaith Celf y Super Furry’s ac mae o’n un o fy arwyr i. Dwi’n licio pob dim mae o’n neud - o ddylunio monsters i urban vinyl.

Craig Evans

Be ydy urban vinyl?

Mae rhai yn eu disgrifo fel teganau, ond i fi ma’ nhw fwy fel cerflun gan artistiaid fel Peter Fowler, Joe Ledbetter, James Jarvis, ma nhw i gyd yn enwog am wneud y teganau yma. Dyma’r tegan Leon - sydd yn cyd-fynd gyda’r trainers a ti’n cal nhw am ddim pan ti’n prynu’r trainers. Neu ti’n gallu eu prynu nhw dros Ebay - ond ei fod yn costio bach mwy.

Craig Evans

Ymysg dy siacedi dwi’n gweld rhai Adidas eithaf old school a ma na un yn arbennig dwi’n gweld – a ti’n ei gadw mewn bocs. Be ydy hanes y siaced?

Mae cwmni Toy2R, sydd yn gwmni urban vinyl, wedi dod at ei gilydd gydag Adidas a chreu siaced - a ma 'na degan yn dod am gyda’r siaced hefyd. Mae logo’r cwmni ar y siaced wedyn yn ogystal â logo Adidas.

Craig Evans

Ti’n amlwg yn parchu’r dillad ac yn edrych ar eu hôl!

Ydw - maen nhw fel gweithiau celf a byddwn i byth yn gadael darluniau ar y llawr. Dwi fel y cynfas a dwi’n gwisgo gweithiau celf yr artistiaid yma i gyd. So dwi’n licio eu cadw’n daclus yn eu bocsys.