Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Cynan Llwyd
CWPWRDD DILLAD: Roger Fenton | Cynan Llwyd | Mari Emlyn
Cynan Llwyd
Cynan Llwyd
Cynan Llwyd
Cynan Llwyd

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Cynan Llwyd yn fyfyriwr ifanc sy'n gwisgo'n ôl ei dast cerddorol.

Cynan Llwyd

Sut fydda' ti'n disgrifio dy steil di?

Dwi'n gymeriad eitha' hyderus a thrawiadol felly ma' nillad i'n adlewyrchu hynny. Weithia' yn Aberystwyth dwi'n cael bach o digs achos mod i'n gwisgo mor wahanol, ond nhw sydd gyda'r broblem nid y fi. Dwi'n darllen lot o gylchgronau cerddoriaeth fel NME a Q ac o hynny dwi'n licio dwyn syniadau pobol fel y Claxons neu MIA sy'n fenyw ond ma' 'i ffasiwn hi'n rili cŵl felly dwi'n dwyn gwahanol syniadau mas o'r cylchgronau yna a chymysgu nhw i wneud steil fy hun. Yn 'stafell y chweched yn yr ysgol ma' lot o Vogues a Glamour a stwff, felly dwi'n dwyn syniadau o bob man.

Cynan Llwyd

Ma' hon yn siwmper liwgar iawn, o le cest di hon?

Ma' stori ddoniol tu ôl i'r hoodie yma oherwydd dad ffoniodd fi pan oedd e yn Llundain a dweud, "Cynan, dwi yn H&M wyt ti ishe rhywbeth?" A medda fi, "Diolch yn fawr iawn dad, erm, pryna rwbath new rave i mi." Rŵan, mi oedd hynny'n brawf i weld pa mor ffasiynol oedd dad ac i weld os oedd e'n gwybod beth oedd new rave. A nath e ddod adre hefo hwn sydd yn new rave, felly llongyfarchiadau iddo fe, mi nath o basio'r prawf chwarae teg iddo fe.

Wyt ti'n meddwl i fod o wedi gofyn i rywun oedd yn gweithio yn y siop?

Siŵr o fod, ma' dad yn cŵl, ond 'di o ddim digon cŵl i wybod beth yw new rave!

Cynan Llwyd

Ydy cerddoriaeth yn ysbrydoliaeth i chdi pan ti gwisgo?

Ydy yn bendant, ond rywsut yn anymwybodol i mi. Dweud os dwi'n gwisgo lan i fynd allan a dwi'n gwrando ar gerddoriaeth pop fel Diffiniad neu roc fel Mattoidz - mi fydd y gerddoriaeth yna'n adlewyrchu beth dwi'n wisgo. Os dwi'n gwrando ar pop mi fyddai'n gwisgo'n lliwgar iawn, ond dweud os dwi'n gwrando ar roc fwy Indie mi fyddai'n fwy toned down.

Cynan Llwyd

Ma'r het yna'n ffantastig.

Mi nes i ffeindio hwn yn y mwd yn Wakestock flwyddyn dwytha'. Do'n i ddim yn gwybod pa liw oedd e nes i fi ddod a fo adre a'i lanhau o. Mae o reit gangster yn dydy? Dwi'n gobeithio na does 'na ddim gangster yn mynd i ddod rownd a chnocio ar yn nrws i moyn yr het yma'n ôl nawr!

Cynan Llwyd

Ti'n licio dy sgarffia' hefyd yn dwyt?

Yndw, yn enwedig y sgarffiau yma achos ma' nhw'n sgarffia' ysgafn ac yn fawr i iawn felly da chi'n gallu eu gwisgo nhw'n y gaeaf ac yn yr haf. Os chi'n oer mewn unrhyw ŵyl gerddorol yna blanced, neu blanced bicnic – popeth.

Cynan Llwyd

Wyt ti'n gerddor dy hun?

Mi o'n i'n brif leisydd mewn tri band; Kenavo, Java a Sleifar a'r teulu sef bandiau hip hop, felly wrth fod ar y llwyfan roedd hi'n bwysig bo' fi'n denu sylw'r gynulleidfa a thrwy wisgo'n lliwgar a phatrymog - ma' hynny'n un ffordd o neud hynny.

Cynan Llwyd

Ma' gen ti lawer o grysau-t lliwgar iawn. Deud wrtha'i ychydig am eu hanes nhw.

Oes, dyma un Castell Rock, sef gŵyl gerddorol sy'n cael ei chynnal yn Aber yn y castell bob blwyddyn.

Cynan Llwyd

Crys-t arall sy'n meddwl lot i fi ydy crys-t band Cristnogol Manna, sef ffrindiau i mi. Mi nes i wisgo hwn pan nes i chware gyda Sleifar a'r teulu ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau jyst cyn i'r Super Furries fynd ar y llwyfan, felly ma' hwnna'n golygu lot i mi. A ges i o am ddim ar yr amod mod i'n wisgo fo ar y llwyfan.

Cynan Llwyd

Deud mwy wrtha fi am dy wallt di - mae o mor cŵl!

Ma' fe'n eitha' 80s - dyna'r feedback dwi wedi ei gael hyd yn hyn. Ma' 'di cymryd sbel i mi ddod i'r model hyn, ond dwi'n credu mai dyma ydy'r finished article erbyn hyn dwi'n meddwl.

Felly ma'n gyrliog yn naturiol?

Ydy ma'n gyrliog yn naturiol a ma' 'da fi un ochor byr a'r cefn yn fyr ac wedyn 'ma' gen i fel ton yn mynd i un ochor. Diffuser yn y bore a curling moose, wax a hairspray... dwi'n swnio'n eitha' merchetaidd dydw i? Dydy hynny ddim yn beth da yn na' dy!

Cynan Llwyd

Ma' pobol yn cysylltu dyddia' coleg fel dyddia lle ti'n datblygu ac yn arbrofi gyda gwahanol bethau. Wyt ti'n credu y byddi di'n arbrofi mwy yn y coleg?

Dyw Aber ddim yn brifddinas ffasiwn y byd o bell ffordd, ond dwi'n sefyll allan ychydig yn Aber. Wythnos diwetha' fe es i i Lundain, a doeddwn i ddim yn sefyll allan o gwbl. Falla yng Nghaerdydd bydd yn rhaid i mi fynd hyd yn oed fwy over the top, a dwi'n barod amdano fe dwi'n meddwl!

  • CWPWRDD DILLAD