



"Fyddai dim ond yn prynu dillad mewn sêl. Fyddai byth, byth yn prynu mewn siop os nad yw yn y sêl. Mae'r canran o elw sy' ar ddillad yn enfawr a dyw'r siop ddim yn mynd i symud felly os na chewch chi'r dilledyn fis yma, yna o fewn deufis fydd 'na sêl yno. Mae meddwl am yr holl bobl sy'n talu ddwywaith neu deirgwaith gymaint o arian ar ddilledyn nag sydd angen yn wallgo."
Pryn rad, pryn eilwaith yw athroniaeth y gwr busnes llwydiannus o Aberdar yn wreiddiol ond sydd nawr wedi gwneud ei ffortiwn ac yn rhannu ei amser rhwng Llundain a Chaerdydd.
Darran: Mae hi bob amser yn sioc i mi pan wy'n trio tacluso fy nghwpwrdd dillad oherwydd fasen i'n licio meddwl nad oes gen i lot fawr, ond y gwir yw ma' gen i lot gormod o ddillad. Gan fy mod yn rhannu fy amser rhwng Llundain a Chaerdydd, roedd gen i esgus arbennig o dda i orfod prynu ail gwpwrdd! Ma' gen i bron union yr un cwpwrdd yn Llundain a sy' gyda fi yng Nghaerdydd fwy neu lai. Achos bo' fi ddim yn ffan o siopa, be' dwi'n ei wneud ydi prynu dau o'r un peth ac os ydyn nhw yn y sêl, fyddai'n gallu prynu dau am bris un.
Nia: Ti'n berson taclus iawn dwyt?
Darran: Wel, wnes i ymdrech i dacluso'r cwpwrdd cyn i ti ddod. Rhaid i mi gyfadde', doedd e ddim fel hyn echdoe! Ond, dwi'n ffodus iawn fy mod i'n gymharol drefnus ar hyn o bryd. Y rheswm dros hyn yw bod pobl yn fy helpu mas o ran golchi a smwddio oherwydd mae'n gwneud byw a gweithio mewn dau le llawer iawn mwy ymarferol. Mae'n golygu fod gen i ddillad yn barod ar gyfer y gwaith pan fyddaf yn dychwelyd i Lundain neu ddillad ar gael yn gymdeithasol.
Nia: Mae gyda ti lot o grysau
Darran: Crys Ozwald Boateng yw hwn ac odd e'n ddrud iawn ac mae o ansawdd hyfryd. Odd e'n y sêl a thua traean o'r pris gwreiddiol. Ma' wastad sêl da gyda Ozwald Boateng. Mae'r crys arall sy'n hongian nesa' i'r crys yma yn y cwpwrdd dillad o George, Asda a mi dales i £4.99 amdano! Roedd crys Ozwald Boateng £120 yn wreiddiol.
Nia: Beth am siwtiau felly? Wyt ti'n mynd am rai rhad a rhai drud felly fel wyt ti gyda chrysau?
Darran: Ydw, siwr o fod ond wy'n dal i'w prynu yn y sêl. Dyma un Versace brynais i tua tair mlynedd yn ôl pan yn aros yng ngwesty Versace yn Awstralia. Esgus da i brynu siwt Versace! Siwt arall dwi'n hoff iawn ohono yw un Armani brynes i'n Bond Street, Llundain.
Nia: Wyt ti wastad wedi bod yn ymwybodol o'r ffordd ti'n edrych a'r ffordd rwyt ti'n gwisgo?
Darran: Ddechreues i gymryd sylw tua 15 mlynedd yn ôl pan ddechreues i fy musnes. Nes i ddechrau cymryd sylw o beth oedd pobl yn ei wisgo a'r math o ddelwedd oedd y dillad yn ei gyfleu - hynny yw, beth oedd y dillad yn ei ddweud amdanyn nhw. Roedd rhai yn gwisgo siwtiau rhad a'n rhoi argraff rad, ac eraill yn gwisgo rhai rhy ddrud a'n edrych yn 'flash'. Felly, fy nghyfrinach oedd i drio ffeindio rhywbeth o safon oedd yn cyfleu proffesiynoldeb, rhywbeth rhwng y ddau begwn.
Darran: Mae 'na un dilledyn arbennig sy'n dod ag atgof nôl i mi. Cred neu beidio, ond mae hi'n hen siwt i Cliff Richard! Tua tair neu bedair mlynedd yn ôl fore ar ôl bod mewn noson elusennol ym Mryste, wy'n cofio deffro mewn gwesty a'r peth cyntaf weles i oedd y siwt. Wy'n cofio meddwl i mi fy hun "O na, wnes i hynny go iawn?" Dales i lot gormod amdano fe!
Nia: Beth am y gôt ledr?
Darran: Dyma fy hoff ddilledyn. Brynes i hi o Armani ar Bond Street am tua traean o'r pris gwreiddiol. Ar ôl wythnos o'i gwisgo hi, o'n i mor hapus gyda hi fe es i nôl i'r siop i brynu ail un ar gyfer fy nghwpwrdd dillad yng Nghaerdydd. Erbyn hynny roedd y sêl wedi gorffen a doedden nhw ddim yn fodlon i mi gael un arall gyda gostyngiad ar y pris. Siaradais gyda'r rheolwr ac mi lwyddes i'w berswadio i'w gwerthu am yr un pris a'r llall! Felly mae gen i un yn Llundain a'r llall yng Nghaerdydd!
Darran ar ddillad...
Wy'n credu wrth i rywun fynd yn hyn, ma' rhywun yn gobeithio eu bod nhw'n dod yn fwy cyfforddus a'u delwedd nhw a'r hyn sy'n eu gweddu. Wy ddim yn credu mod i'n hynod ffasiynol. Y cwbl wy moyn yw edrych yn drwsiadus a'm mod i ddim yn gwneud camgymeriadau ffasiwn enfawr. Gan bo' fi ddim yn gwisgo'n trendi iawn, falle bod yna lai o siawns i mi gael fy hun i bicil!
- Bob nos Fercher 20:25