



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Delyth Rees yn berchen ar hen ddillad sydd yn adrodd hanes ac yn agor y drws i achau teuluol. Ma' hi wedi etifeddu hen ddillad gan ei theulu sydd yn dyddio nôl dros bedair cenhedlaeth i ganol y ddeunawfed ganrif.
Ydy rhai o'r dillad sydd gennych chi'n drysorau teuluol erbyn hyn?
Pan oeddwn i yn dysgu, roedd y plant yn cael eu gwisgo nhw ar gyfer y Nadolig neu i gyngerdd ac mi oedden nhw'n cael cymaint o barch. Ar ôl ymddeol dwi wedi gwneud ychydig o waith ymchwil ac mae'n ddiddorol, dod o hyd i hanes y bobl oedd wedi gwisgo'r dillad yma. Ma'n eich gwneud chi'n ymwybodol o'ch gwreiddiau a hefyd ma'n agor drws i hanes.
Ma' gennych chi wisg gan eich hen hen nain a'ch hen nain, ond dwedwch fwy wrtha'i am wisg eich nain.
Margaret oedd ei henw hi. Mi oedd yna 13 o blant, ac mi aeth hi'n ifanc iawn i weithio yn forwyn fach i ryw blasty ac roedd hi'n gwisgo'r dillad hyn. Mi fydda hi'n gwisgo cuffs bach am ei breichiau, a chap gwyn am ei phen.
Wnaeth steil eich nain newid yn ddiweddarach?
Erbyn diwedd ei hoes roedd hi yn gwisgo fel lady. Rwy'n ei chofio hi yn y bore mewn ffedog fras o gwmpas ei gwaith a chap bach ar dop ei phen. Ond, ganol dydd mi fydda' nain yn ymolchi ac yn newid. Fe fydda hi'n troelli ei gwallt mewn dwy blethen hir o gwmpas ei phen ac yn gwisgo dillad o New York. Mi oedd hi wedyn yn barod i dderbyn ei ffrindiau i'r tŷ fel lady.
Sut oedd hi'n llwyddo i gael dillad o New York?
Roedd chwaer nain wedi mynd yno yn nani pan oedd hi'n ifanc. Adeg rhyfel pan oedd pawb yn gorfod defnyddio coupons dillad, roedd hi'n gyrru parseli o ddillad draw ac mi fyddai nain yn cael dillad bendigedig i wisgo ac yn edrych fel lady!
Mae gennych chi glogyn gwyrdd sydd wedi agor y drws i hanes aelod arall o'ch teulu yn does, sef y parchedig Richard Williams oedd yn fasnachwr gwlân?
Pan oedd Richard Williams yn mynd o gwmpas y wlad i brynu gwlân, mi oedd yn pregethu'r un pryd. Rwy'n ei ddychmygu yn mynd ar gefn ei ferlen a'r clogyn gwyrdd yma ar ei gefn. Mae'r steil yn dyddio o tua canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mi oedden nhw'n pasio dillad i lawr o un genhedlaeth i'r llall felly mae'n anodd dweud yn union faint yw ei oed. Uchelgais y Parch Richard Williams oedd cael Beibl Peter Williams i bob un o'i blant cyn iddo farw. Ac mae gen i'r Beibl gafodd ei ferch Mary, sef fy hen hen nain ganddo.
Oes gennych chi ddillad ar ôl eich hen hen nain?
Mae gen i'w bonnet hi, a'i chrys, ac mae'i phantalŵns hi gen i. Mae gen i siôl fagu hefyd a oedd yn dal y plentyn ar y fron gan adael y breichiau yn rhydd i nyddu ar y droell neu wneud gwaith tŷ. Mi oedd gan Mary frawd oedd yn weinidog Methodist, a phan gollodd hi faban bach dyma fo yn ysgrifennu llythyr i gydymdeimlo ac yn dweud rhywbeth fel hyn "gobeithio bydd y tro difrif, dwys hwn o dan fendith y nef i'ch dwyn i lawn ystyried eich diwedd eich hun" - dyna chi ofnadwy ynte! Dyma hi'n ateb o hefo penillion eitha' tyner am golli plentyn "Trwm yw'm calon, trist yw'm henaid ar dy ôl fy mhlentyn llon". Mi fyddai'n meddwl llawer amdani, roedd colli plentyn yn beth oedd yn digwydd yn aml bryd hynny.
Ydych chi'n gallu gwnïo eich hun?
Ydw wir - fy nain arall a ddysgodd fi i wnïo. Mi oedd hi wedi mynd i Rochdale i brentisio i fod yn deilwres. Dwi'n hoffi gwneud lês hefyd. Mi oedd fy mam hefyd yn arfer gwnïo a dwi'n cofio adeg y rhyfel roedd hi'n torri hen gotiau i wneud cotiau i fi a'm chwaer. Wedyn pan ddaeth hi'n amser tynnu'r blackout i lawr ar ôl y rhyfel mi aeth mamau rhai ohonom ati i wneud sgertiau i ni gystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd a rhoi bandiau coch, gwyrdd a gwyn arnyn nhw. Mi fuon ni o amgylch Cymru yn canu, adrodd a dawnsio yn y sgerti.
Ydych chi'n cael pleser o fod wedi creu rhywbeth eich hun a'i wisgo fo, fel eich ffrog briodas chi?
Yn y 50au pan gychwynnes i gael cyflog mi o'n i'n gwario fy arian i gyd ar ffrogiau i ddawnsio, mi o'n i wrth fy modd yn dawnsio. Ond, yn anffodus mi ddaeth tro ar fyd a mi gwrddais i â Tom oedd â dwy droed chwith! Serch hynny mi briodon ni ac mi es i ati i wneud fy ffrog briodas. Mi ges i'r defnydd yn Browns of Chester a'r patrwm o Vogue a defnyddio hen beiriant gwnïo cast iron. Dydw i ddim yn gwnïo cymaint dyddiau hyn, rhyw drwsio jîns i'r wyrion ac ailgylchu ac addasu pethau. Ond yn yr 80au mi oeddech chi'n gallu arbed llawer o arian wrth wnïo eich hun.
Ydych chi'n meddwl yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni heddiw fod pobl yn fwy parod i ddechrau gwnïo eto?
Mae 'na ddosbarthiadau rŵan ym mhob man i ddysgu gwnïo eto, ac mae hynny'n beth da. 'Da ni wedi colli llawer o'r sgiliau i wledydd fel Taiwan a China, ac felly er mwyn yr economi mae'n rhaid i ni ail-ddarganfod y sgiliau yma. Mae'n bwysig iawn hefyd ein bod ni'n ailgylchu ein dillad - mae'n syndod be allwch chi wneud o hen ddilledyn.
- CWPWRDD DILLAD