Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Delyth Eirwyn
Delyth Eirwyn
Delyth Eirwyn
Delyth Eirwyn
Delyth Eirwyn

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Delyth Eirwyn yn gyfarwydd i ni gyd fel actores fu'n chwarae cymeriad go nwydus yn Tipyn o Stad yn ddiweddar, ond mae ganddi gariad nwydus tuag at ddillad hefyd.

Delyth Eirwyn

Ma'r siaced lwyd yma'n un smart iawn, o le ges di hon?

Pan oeddwn i'n byw yn Llundain dipyn o amser yn ôl erbyn hyn, roeddwn i'n ffrindia' hefo pobol sy'n cynllunio dillad o'r enw Preene. Roedden nhw wedi bod wrthi'n cynllunio dillad am 'chydig o flynyddoedd pan gynlluniwyd hon. Erbyn hyn ma' nhw'n gwmni llwyddiannus iawn, ma' pobol fel Kate Moss ac amryw o sêr eraill yn gwisgo'i dillad nhw. 'Yn chwaer i ddaru ddylunio'u corporate logo nhw mewn ffordd. Mi nes i weithio iddyn nhw ym marchnad Portabello, ac yn hytrach na chael fy nhalu hefo pres - ar y pryd, ac yn dal i fod - dydy pres ddim yn golygu dim i mi, ond roedd dillad yn ffordd lot gwell o nghyflogi fi!

Delyth Eirwyn

Ma'r sgert werdd yma gan yr un cwmni yn dydy? Faint fydda ti wedi talu am sgert fel yma bryd hynny?

Ma'r sgert yma'n un arall ma' Preene wedi ei chynllunio ac ma' nhw wedi chwarae hefo'r gathering ar yr ochr. Mi faswn i'n deud ei bod hi wedi bod yn gwpwl o gannoedd bryd hynny i'w phrynu, ond wrth gwrs nes i'm talu ceiniog amdani de!

Delyth Eirwyn

Ma' hon yn ffrog anghyffredin iawn, at ba achlysur brynis di hon?

Mi fyddai'n gwisgo lot o ddu rili a mi fyddai'n rhoi un lliw am ei ben o - coch ydy'r lliw sydd wedi bod yn reit amlwg. Mi nes i brynu hon i briodas yn Los Angeles. Ma'r frawddeg, 'Every girl wants a pair of red shoes' wedi ei ysgrifennu ar ei hyd hi, sydd yn wir wrth gwrs! Roedd 'na gwpwl o Americanwyr yn darllen y nghefn i'n ystod y briodas ei hun. Mi ddaru ni fwynhau'n hunain. Gathon ni bartio hi mewn llefydd mwya' arbennig! Yng ngwaelod yr ardd roedd 'na gerddorion jazz, a mi oedd 'na gwpwl o genod wedi canu a dyma fi'n cael y ngwahodd fyny, wel mi oedd hynny'n 'top-hat' ar y noson. Mi o'n i wedi gorfod stopio yn diwadd achos bod y bobl oedd yn byw drws nesa', sef Sharon Stone, wedi cwyno am y sŵn!

Delyth Eirwyn

Sonia wrtha'i am y gerddoriaeth wyt ti a'r band yn ei greu ac wyt ti'n gorfod gwisgo i gyd fynd hefo'r ddelwedd yna?

Cerddoriaeth o Frasil sy'n gymysgfa o Bossa Nova, sydd o'r 40au a'r 50au a chanu Latin Jazz ydy o, ond 'da ni'n chwarae rhai caneuon samba hefyd sydd dipyn bach fwy heddiw. Ma' samba mewn ffordd yn gysylltiedig â'r carnifal. Taswn i isho gwisgo fel carnifal, am wn i y baswn i mewn bikini a spangls ond faswn i ddim yn edrych yn grêt mewn un o rheina! Felly, mewn ffordd falla' mod i'n mynd 'chydig bach am olwg y jazz.

Delyth Eirwyn

Wyt ti'n sentimental iawn am dy ddillad di?

Nac'dw, dwi ddim yn sentimental am ddim byd mewn ffordd. Ma' dillad, yn enwedig ffasiwn, yn medru symud mor handi dwi jyst yn cael gwared ohonyn nhw a chael rhai newydd. Ma' hynny'n rhan o'r gwisgo - os ydi o'n rywbeth newydd - mae o'n well. Y munud dwi wedi laru arnyn nhw, 'out with the old in with the new' - run peth a nynion i!

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales