<?xml version="1.0" encoding="iso-8859-1"?>
<!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN"
        "http://www.w3.org/TR/2000/REC-xhtml1-20000126/DTD/xhtml1-transitional.dtd">
<html xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml">
<head>
<meta http-equiv="content-type" content="text/html; charset=UTF-8" />

<title>S4C - Cwpwrdd Dillad</title>

<link href="css/screen.css" rel="stylesheet" type="text/css" />
</head>

<body>
<div id="content">
  <div id="banner">
    <object classid="clsid:D27CDB6E-AE6D-11cf-96B8-444553540000" codebase="http://download.macromedia.com/pub/shockwave/cabs/flash/swflash.cab#version=6,0,29,0" width="710" height="170">
      <param name="movie" value="banner.swf" />
      <param name="quality" value="high" />
      <embed src="banner.swf" quality="high" pluginspage="http://www.macromedia.com/go/getflashplayer" type="application/x-shockwave-flash" width="710" height="170"></embed>
    </object>
  </div>
  <div id="navcontainer">
    <ul id="navlist">
      <li><a href="c_index.shtml">Hafan</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_05_new.shtml">Y Gyfres Hon</a></li>
<li><a href="http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=337675343">Gwylio ar Clic</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_01_new.shtml">Archif Cyfres 1</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_02_new.shtml">Archif Cyfres 2</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_03_new.shtml">Archif Cyfres 3</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_04_new.shtml">Archif Cyfres 4</a></li>
<!--li><a href="c_wardrobes_04.shtml">Archif Cyfres 4</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_05.shtml">Archif Cyfres 5</a></li>
<li><a href="c_competition_llon.shtml">Cystadleuaeth</a></li>-->
<li><a href="c_tips_women.shtml">Tips Ffasiwn</a></li>
<li><a href="c_lens.shtml">Troi'r Camer&acirc;u</a></li>
<li><a href="c_capsule_women.shtml">Y Cwpwrdd Capsiwl</a></li>
<li><a href="c_decades20.shtml">Degawdau</a></li>

      <li><a href="e_cupboards_derfel_4.shtml">English</a></li>
    </ul>
  </div>
  <div id="pagetitle">Cwpwrdd Dillad: Derfel Williams </div>
  <div id="pagecontent">
 <div class="lightpanel"> CWPWRDD DILLAD: <a href="c_cupboards_maureen_4.shtml">Maureen Rhys</a> | <a href="c_cupboards_derfel_4.shtml">Derfel Williams</a> |<a href="c_cupboards_fiona_4.shtml">Fiona Gannon</a></div>
   
        <div class="thumbnail"><img src="images/derfel/95x95_derfel_1.jpg" alt="Derfel Williams" width="95" height="95" border="0" /></div>
    <div class="thumbnail"><img src="images/derfel/95x95_derfel_2.jpg" alt="Derfel Williams" width="95" height="95" border="0" /></div>
    <div class="thumbnail"><img src="images/derfel/95x95_derfel_3.jpg" alt="Derfel Williams" width="95" height="95" border="0" /></div>
    <div class="thumbnail"><img src="images/derfel/95x95_derfel_4.jpg" alt="Derfel Williams" width="95" height="95" border="0" /></div>
    <br />
    <h3> CWPWRDD DILLAD: <a href="c_gallery_derfel_4.shtml">Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy</a></h3>
	
	
        <p class="largetxt">
	
Ar &ocirc;l un mlynedd ar ddeg o berfformio, mae Derfel bellach wedi gadael y syrcas, ond mae'n mynd yn &ocirc;l i weld ei 'sequins' a dangos ei sgiliau am y tro olaf.	
	<br />
    </p>
	
    <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_1.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
	
      
		
      <p>
Tydw i ddim yn cofio amser pan nad oedd gen i ddiddordeb yn y syrcas. Pan o ni'n blentyn bach, bach, ac yn mynd i'r syrcas ym Mhorthmadog, fe ddisgynnais i mewn cariad gyda'r holl beth - hefo'r bywyd, hefo'r bobol. Ac wedyn mynd i'w ddilyn fel gyrfa, dyna'n unig uchelgais i pan o ni'n blentyn. Roedd pawb arall eisiau bod yn b&ecirc;l droedwyr neu rywbeth, ond y syrcas oedd yr unig fywyd i mi. Dwi'n cofio meddwl fod y bobol yma mor wahanol i'r bobl oeddwn i yn eu cyfarfod pob dydd.</p>

<p>
Rhan bwysig o ran y perfformiad oedd y newid. Dwi'n cofio un ferch oedd yn eithaf trawiadol yn y dydd ond yn eithaf plaen ei gwisg, dim colur a'i gwallt hi wedi ei glymu'n &ocirc;l, wedyn am hanner awr wedi pedwar roedd drws y garaf&aacute;n yn cau a hanner awr yn ddiweddarach roedd y drws yn agor ac roedd hi fel 'the queen of Sheba'. Popeth wedi trawsnewid a dwi'n cofio meddwl fod hynny'n ffantastig!

	   </p>
    </div>
    <div class="panel"> <img src="images/derfel/100x100_derfel_2.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
	
        <p class="question">Sut oedd hi'n teimlo i roi gwisg ymlaen?<br />
        </p>
		
      <p>
Roedd hynny yn rhan fawr o wireddu'r freuddwyd, rhoi'r dillad ymlaen, a phan ydych chi'n gweithio dan oleuadau mae'n rhaid cael colur ymlaen, roedd hynny i gyd yn rhan o'r profiad. Ond, i rywun oedd yn dod o du allan i'r syrcas roedd cael gafael ar y dillad yn anodd. Fedrwch chi ddim picio mewn i siop ym Mhorthmadog a phrynnu siwt jyglwr! Mae'n rhaid mynd ati i'w gwneud hi. Doedd hogyn o Borthmadog ddim yn gwybod sut i wn&iuml;o, felly roedd yn rhaid dysgu sut i wn&iuml;o'r sequins ymlaen, a dwi'n cofio mynd i'r farchnad ym Mhwllheli i brynu'r sequins!</p><p>
Fe ddechreuais i fel jyglwr, a sylweddoli yn fuan iawn nad oeddwn i ddigon da i ennill y cyflog oeddwn i eisiau, felly roedd yn rhaid meddwl am rywbeth ychydig yn wahanol. Felly fe ddyfeisiais i'r act 'falansio' oedd yn gyfuniad o'r hen sgil wedi ei foderneiddio - mi fues i'n gwneud hynny am weddill fy ngyrfa wedyn.

	  </p>
    </div>
	
	
    <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_3.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
        <p class="question">Fues di'n gylch feistr? </p>
		
		
      <p>
Do, roedd hynny yn rywbeth nes i wneud yn weddol fuan yn fy ngyrfa. Roeddwn i newydd adael coleg ac fe ges i gynnig mynd ar daith gyda syrcas eithaf mawr oedd yn dod i Gymru am y tro cyntaf. Roedd y perchennog yn ymwybodol iawn o'r iaith Gymraeg ac roedd o eisiau rhywun i gyflwyno'r syrcas yn Gymraeg mewn rhai llefydd. </p>
	  
    </div>
	
	
	
    <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_4.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
	
	
        <p class="question">Oedd gwisg y Cylch feistr yn wahanol i'r wisg jyglo?</p>
		
        <p>
		Oedd. Mae yna draddodiad yn perthyn i'r wisg cylch feistr, y g&ocirc;t goch draddodiadol a'r het fawr ddu. Ond, ymhellach ymlaen yn fy ngyrfa fe wnes i drio diweddaru'r wisg drwy gadw'r g&ocirc;t hir ond peidio gwisgo het fawr a chael cotiau gwahanol liwiau a steil fwy modern.
</p>
	  
     
    </div>
	
    <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_5.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
        
		
		<p class="question">Oeddet ti'n teimlo fel cymeriad hollol wahanol ar &ocirc;l ymwisgo?</p>
		
		
		
      <p>
	  
Oeddwn. Roedd bywyd y syrcas yn gallu bod yn galed, yn aml fe fydden ni'n teithio tan oriau m&acirc;n y bora, cyrraedd rhywle'n hwyr yn y nos, codi wedyn yn fuan i roi'r babell i fyny ac wedyn gwneud dwy sioe. A jyst cyn sioe, oeddet ti'n meddwl, fedrai ddim sefyll r&#373;an am bedair awr, ac yn rhyfedd, wrth ddechrau paratoi a rhoi'r wisg ymlaen, roeddech chi'n gwybod, mae hi'n amser sioe felly, mae'n rhaid cyfarch y bobl.  </p>
  </div>
    
	
	
	<div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_6.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
        
		
		<p class="question">Beth yw hanes y wisg werdd yma?</p>
		
		
		
      <p>
	  
Mae hon yn un o'n ffefrynnau i. Mae yna lot fawr o waith wedi mynd i hon. Fi roth pob un wan jac o'r sequins ymlaen ac fe gymerodd ryw chwe wythnos o wneud tipyn bob nos. Ond, yn anffodus. ar &ocirc;l i mi wneud yr holl waith, fe wisgais i hi unwaith ar ddiwedd y tymor a meddwl y cawn ni ei gwisgo'r tymor canlynol, fe gyrhaeddais y sioe a dyma'r perchennog yn dweud wrtha'i na chawn ni wisgo gwyrdd yn eu sioe nhw gan eu bod nhw'n ystyried gwyrdd fel lliw anlwcus! Felly tydi hi ddim wedi gweld llawer o olau dydd!

 </p>
  </div>
    
 <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_7.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
        
		
		<p class="question">A beth am y siwt las?</p>
		
		
		
      <p>
Mae hon gen i ers blynyddoedd lawer oherwydd ei bod hi'n braf i'w gwisgo. Weithiau os wyt ti'n nerfus mewn sioe newydd ac yn gwneud dy berfformiad cyntaf, y peth diwethaf wyt ti eisiau ei boeni amdano ydy'r wisg. Fe fyddwn i'n gwisgo hon gan ei thaflu ymlaen a doedd hi ddim yn symud, roedd hi'n gyffyrddus i weithio ynddi. Felly mae hi'n hen fel pechod ac wedi ei hail wneud droeon.
    </p>
  </div>
  
  
  
   <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_8.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
        
		
		<p class="question">Mae gen ti sawl gwasgod yn dy gasgliad di. Chdi sydd wedi gwneud y rhain i gyd?</p>
		
		
		
      <p>
Ia. Dwi'n prynu'r gwasgodau mewn siopau elusen ac wedyn eu haddurno nhw. Maen nhw i gyd yn fy atgoffa fi o gyfnod, neu o ble roeddwn i ar y pryd.
Dwi'n gwybod mod i wedi bod adref yn ddi-waith un gaeaf ac felly fe wnes i'r wasgod biws ac arian yma. Roeddwn i wedi cael cytundeb  ar gyfer y Nadolig yr un flwyddyn ac roeddwn i eisiau rhywbeth Nadoligaidd ei liw, felly fe wnes i hon. Dwi'n cofio yn union lle roeddwn i pan roeddwn i'n gwn&iuml;o'r rhain ymlaen.


  </p>
  </div>
  
   <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_9.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
        
		
		<p class="question">Beth yw hanes y siaced ddu?</p>
		
		
		
      <p>
Fe wnes i hon pan o ni yn sownd lawr yn Ne Ffrainc. Roeddwn i wedi mynd yno dros y Nadolig ac fe dorrodd y lorri lawr, felly fe fuodd yn rhaid i mi aros yna'n hirach nac oeddwn i wedi ei feddwl, felly doedd gen i ddim byd arall i'w wneud tra'n aros i gael ein hachub, felly fe wnes i hon. Dwi'n meddwl mai hon oedd yr unig beth da i ddod allan o'r trip i Ffrainc achos roedd o'n eithaf hunllefus ar y pryd.
  </p>
  </div>
  
  
   <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_10.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
        
		
		<p class="question">O le ddaeth y siaced melfed piws yma?</p>
		
		
		
      <p>
P&acirc;r o lenni oedd y rhain. Mi ffeindiais i'r defnydd mewn siop elusen a meddwl ei fod yn ddefnydd rhy neis o lawer i'w adael yno, felly fe es i a fo at deiliwr. Ac fe drodd y teiliwr ei drwyn braidd, a dweud, "you expect me to do something out of this?"
Ond, fe wnaeth o. Roedd Michael Jackson yn eithaf poblogaidd ar y pryd a dwi'n meddwl ei fod o wedi dylanwadu ar y siaced yma gyda'r ysgwyddau mawr.


  </p>
  </div>
     
  
   <div class="panel"><img src="images/derfel/100x100_derfel_11.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Derfel Williams" />
        
		
		<p class="question">Ti wnaeth y siacedi yma?</p>
		
		
		
      <p>
Fi wnaeth eu haddurno nhw. Teiliwr yng Nghaer wnaeth y ddwy siaced, dyma'r ddwy olaf ges i cyn ymddeol o'r syrcas. Roeddwn i'n defnyddio'r rhain ar gyfer gwaith fel cylchfeistr. Mae nhw dal yn eithaf traddodiadol gan eu bod nhw'n 'tail-coat', ond mae nhw ychydig mwy modern gan nad ydyn nhw'n goch, ac eu bod nhw wedi eu  haddurno, ac roeddwn i yn gwisgo gwasgod oddi tano yn hytrach na 'tei-bo'.</p>
<p>
Mae gen i hiraeth am y sioe ac mae gen i hiraeth am y bobl, achos roeddech chi'n dod ar draws pobol yn y syrcas na fasech chi'n byth yn dod ar eu traws mewn bywyd pob dydd. Ond, does gen i ddim hiraeth am y mwd, y gwynt a'r glaw! 

  </p>
  </div>
	
	
	
	
  </div>
  <div id="indextx">
<ul>
<li>CWPWRDD DILLAD</li>
<!--li>Bob nos Fawrth 21:00</li-->
</ul>
</div>

<!--<div id="indextx">
<strong>CWPWRDD DILLAD</strong><br />
Cyfres yn dychwelyd nos Wener 2 Tachwedd 20:25
</div>-->


<script src="http://www.google-analytics.com/urchin.js" type="text/javascript">
</script>
<script type="text/javascript">
_uacct = "UA-2122504-2";
urchinTracker();
</script>
</div>
</div>
</body>

</html>

