



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Dewi Foulkes yn aelod o fand sydd yn enwog am eu gwisgoedd ysblennydd.
Mi wyt ti'n dod o ardal Caernarfon yn wreiddiol, ac wedi symud i Gaerdydd i fynd i'r Brifysgol. Wyt ti'n gweld gwahaniaeth o ran y steil yma?
Ers i mi symud i Gaerdydd dwi wedi cyfarfod cymaint o bobl newydd o bob cwr o'r wlad, ac mae steil dinas fawr yn wahanol iawn i le dwi'n dod. Fyddet ti ddim yn mynd rownd Caernarfon mewn trainers ar noson allan, mi wyt ti'n gorfod gwisgo 'sgidia' capel', fel dwi'n galw nhw!
Mi wyt ti'n aelod o'r band Derwyddon Dr Gonzo ac mi ydach chi'n gwisgo'n reit wahanol yn dydach chi?
Ydw, dwi'n chwarae bas yn y band - band reit ecsentrig o fynyddoedd gogledd Cymru ydy Derwyddon Dr Gonzo. Mi ydan ni'n gwneud enw i'n hunan trwy wisgo dillad gwahanol. Mi oedd hen fandiau ffync o'r 70au yn gwneud yr un peth - wel, mi ydan ni yn gwneud yr un peth â nhw, ac wedi cael ein dylanwadu gan hynny.
Pa fath o fandiau o'r 70au sydd wedi dylanwadu arnoch chi?
Bandiau fel Kool & the Gang, Jackson Five, Average White Band - bob dim sydd wedi cael ei greu cyn i mi gael fy ngeni! Mi oeddan ni'n chwarae gig mewn gŵyl yn Suffolk, gŵyl o'r enw Latitude, ddechrau'r haf ac mi wnaeth Cai gael y syniad o rentu dillad gan Barcud. Ma' 'na naw ohono ni yn y band, felly mi oedd gan bawb eu gwisg eu hunain dros yr haf! Mi 'da ni'n reit enwog am wisgo fyny.
Mi o'n i'n gwisgo siwt Huggy Bear o Starsky and Hutch, siwt aur ac aviator shades mawr - mi o'n i'n teimlo reit cool ynddo fo.
Beth ydy'r peth mwya' lloerig da chi wedi ei wisgo fel band ar y llwyfan?
Mi nathon ni wneud gig yn Clwb Ifor Bach mis Tachwedd diwetha' a phrynu naw pâr o y-fronts gwyn a sbreio'n hunan yn aur. Mi oedd hi'n ofnadwy o boeth yna, a mi oedd y sbrê yn diferu - afiach.
Pa fath o wisgoedd eraill 'da chi wedi eu gwisgo ar y llwyfan?
Mi nathon ni wisgo rhyw fath o contamination suits. Mi nes i ymuno efo'r band tua blwyddyn a hanner yn ôl, a dyna beth oedd y peth cynta' nesh i wisgo. Mi nath Super Furries wneud gig yn Sesiwn Fawr yn gwneud yr un math o beth...
A beth am dy ddillad personol di felly? Beth wyt ti yn hoffi ei wisgo o ddydd i ddydd?
Ma' gen i 'chydig bach o barch at sgidiau a bod yn onest, mae gen i bob math o sgidiau. Dwi'n licio Hi- tops efo velcro, fatha sgidia'r 80au fel rhai Martin Mcfly yn Back to the Future a'r math yna o sgidiau - Nike, Adidas a phethau felly. Half boots ydy enw arall am hi-tops. Ma' nhw'n stopio wrth ymyl y ffêr - mi oedd chwaraewyr pêl-fasged yn arfer eu gwisgo nhw ers talwm er mwyn amddiffyn y ffêr. Ma'r sgidia' mae Nike yn eu gwneud mor wahanol i bob dim arall - efo'r tafodau tew a ballu.
Ydy o'n bwysig i ti i brynu rhywbeth am fod yr arwydd Nike arno fo?
Ydy, mae o'n eitha' pwysig. Pan dwi'n mynd allan dwi'n anelu am y brand yma bob tro. Os 'dw i isho prynu sgidia, dwi bob tro yn mynd am Nike gynta'. Dwi'm yn siŵr pam mod i mor hoff o Nike. Y math o gerddoriaeth dwi'n gwrando arno fo ydy hip hop o'r 80au a ma' nhw i gyd yn gwisgo hi- tops Nike neu Adidas neu Puma. Dwi'n licio'r edrychiad yna, felly dwi'n trio'i efelychu o.
Pam dy fod di mor hoff o steil yr 80au a thithau heb dy eni dan ddiwedd y ddegawd?
Ie, mae o reit od. Dwi'm yn meddwl fod steil sêr yn y byd pop heddiw'r un peth â steil hen fandiau fel Stetsasonic, a'r math yna o fandiau hip hop felly mi ydw i'n trio mynd nôl i'r 80au.
Mi wyt ti yn dy flwyddyn gyntaf yn y coleg. Ydy hynny'n golygu dy fod ti wedi gwario dy fenthyciad myfyrwyr i gyd ar ddillad?
Y tymor cyntaf mi oeddwn i reit ddrwg, mi wnes i brynu tua pedwar pâr o drainers. Ond mi ges i alwad ffôn gan dad wedyn, ac mi o'n i'n gorfod stopio! Mi oedd o'n mynd yn wirion braidd, o'n i'n methu fforddio bwyd am fy mod i isho trainers gymaint - felly mi o'n i'n gorfod byw ar Super Noodles. Mae'n well edrych yn dda na bwyta dwi'n meddwl!
- CWPWRDD DILLAD