



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Fe ddywedodd ryw actores un tro, “it’s the shoes. If I’ve got the right shoes then that’s the character developed.” Wel gyda fi, y siec oedd e, ac os oedd hwnnw yn iawn o'n i’n gallu actio wedyn! Na ma' dillad yn bwysig a dyna lle mae’r merched gwisgoedd a wardrobe yn dod mewn- ma' nhw yn bwysig iawn achos s'dim chwaeth 'da fi!
Roedd pawb yn licio Ricky Hoyw, ond ro’ ni yn casáu ei neud e, ond roedd e’n edrych mor naff, dyna oedd bwriad y peth wrth gwrs, naffness y siwt wen a’r sideburns – ond ro’n i’n casáu gwisgo’r gliw a’r wig!
Wyt ti’n un sy’n dilyn ffasiwn?
I fi, dillad yw rhywbeth i gadw’n dwym i ddeud y gwir, neu i guddio’n private parts i!
Mae hon yn edrych yn got gynnes!
Ma hi fel gwisgo sach gysgu! Ma hon i fod tua £400 ond ges i hi am £60. Dwi byth yn i wisgo hi achos ma' fe’n rhy dwym! Oedd e’n rhy dwym yn yr Arctic hyd yn oed!
Ti’n enwog iawn am dy gapiau, pam fod gen ti gymaint?
Mae hon yn un arbennig iawn, wedi dod o Lydaw. Ac mi ges i hon gan Bryn Fôn, ma’ Bryn Fôn wedi cyffwrdd hon! Dwi am ei rhoi hi ar y we, dwi’n siwr y ca’i filoedd amdani!
Dwi’n dod a lot o bethe yn ôl o ‘Byd Pws’, fel hon. Mae hwn wedi dod o Japan ac un Ninja ydi o! Y dillad yn fwy na dim yw’r postcards i fy atgoffa fi o le dwi wedi bod yn y byd.
O le ges ti’r sgarff oren yma?
Mae hwn yn sbeshial. Roedd hwn gen i pan nes i neud y Kumbha Mela yn India lle mae 9 i 10 miliwn o bobl yn dod i olchi yn y Ganga ac oedd hwn yn yr afon. Roedd y Dalai Lama wedi dod i gwrdd â’r Hindwiaid ac roedd e tua deg llath i ffwrdd oddi wrtha i. Roedd yna ddynion hefo gynna’ o’i gwmpas o yn ei amddiffyn o. Mae e’n ddyn mor ffein’ ac yn arwr mawr i mi, fe drodd ata’i a sibrwd wrtha i - ‘Scarlets for the cup!’
O le ddaeth y siaced fawr hon?
Mae hon wedi dod o Fongolia, ac ma’r bobl i gyd yno yn eu gwisgo nhw. Maen nhw’n eu cau nhw’n llac o gwmpas y bol, ac yna’n cadw bwyd tu mewn cyn tynhau’r belt i’w gadw yn ei le. Maen nhw i gyd yn edrych yn dew, ond y bwyd sy’n cael ei gadw yna sy’n gwneud iddyn nhw edrych yn dew!
Mae’r sgidiau coch yma’n rai diddorol...
Lledr ydy’r rhain ac maen nhw wedi gwneud y sawdl allan o hen deiars ceir. Mi brynais i rain ym Moroco, a ro ni’n meddwl y byddai coch yn liw da i mi, yn liw i ddyn. Ond melyn mae dynion yn wisgo yno a’r menywod yn gwisgo coch!
Rŵan mae hon wedi gweld dyddiau gwell!
Mae hon yn racs ac mae tylle ynddi, ond hon yw’n hoff sgarff i a ma' hi wedi bod rownd y byd i gyd hefo fi achos dwi jyst yn licio hi. Hefyd, ti’n gweld war correspondents i gyd ar y teli, a ma' nhw wastad yn gwisgo sgarff fel hyn.
Ar gyfer pa achlysur mae’r dillad smart yma?
Pan ddechreuais i chware golff sylweddoles i fod yna lot o ffýs, ti’n gorfod gwisgo lan - Gentlemen must dress for dinner! Felly fe ges i blazer a siwt. Erbyn hyn dwi wedi cael y tei yma, tei twll mewn un. Rŵan pan ti’n cael twll mewn un mewn golff, ti’n gorfod cael tystion i arwyddo ac yna fe gei di yrru i ffwrdd am dei fel hyn - dwi wedi cael 3 hyd yma!
Wyt ti’n meddwl fod dy steil di’n mynd i newid?
Pan o'n i’n dysgu, roedd yn rhaid i mi wisgo crys a tei neu siwt, a ro’n i’n casau eu gwisgo nhw, doeddwn i byth yn gyffyrddus. Felly nawr dwi fel hyn, dwi jyst yn 60 oed a sa' i’n gallu ‘ngweld i’n newid nawr, dwi’n gyffyrddus mewn crysau-t a down jacket!
- CWPWRDD DILLAD