



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Dion yn berchen ar salon gwallt ac yn gweld gwisgo'n hwyl.
Sut fydda ti'n disgrifio dy agwedd di tuag at ddillad?
Dwi jyst ddim yn licio edrych fel pawb arall. Gan mod i'n hairdresser dwi'n licio meddwl mod i'n unique yn be dwi'n wisgo. Dwi'n Lerpwl ers rhyw bum mlynedd rŵan, ac i fod yn onest ma' ffasiwn Lerpwl yn andros o wahanol, ma' pawb yn trio 'out-do each other'. Ma' pawb yn rili gwisgo fyny pan ma' nhw'n mynd allan - lot mwy na fasa nhw'n unrhyw le arall ac ma'r hogia' mor ddrwg â'r merched yma. Ma' gen i salon fy hun yma a dwi'n meddwl fod bod yn hairdresser i gyd am image. Does 'na neb yn y siop yn gwisgo uniform - ma pawb yn gwisgo dillad 'i hunan.
Be ma' dy ddillad a dy steil di yn ei ddweud amdanat ti?
Dwi'n meddwl ei bod hi'n andros o bwysig fod be' ti'n wisgo'n adlewyrchu'r math o berson wyt ti. Dwi'n licio bod yn reit bright a dwi'm yn licio gwisgo dillad tywyll. Dwi'n licio lliwia' fel coch a glas a dwi'n rili licio sefyll allan, ond dwi'n meddwl ei fod o'n adlewyrchu lot arna' ti. Ma' be' ti'n wisgo'n dangos sut ti'n teimlo neu sut wyt ti isho bod y diwrnod yna.
Ma' dy gwpwrdd dillad di'n andros o daclus a phob dilledyn mewn trefn arbennig!
Ma'r t-shirts i gyd yn colour-coordinated achos yn y bora pan dwi'n codi dwi'n trio dewis pa liw i wisgo. Ma' gen i lwyth o t-shirts gwahanol, llwyth hefo cartŵns arnyn nhw neu logos fel un Coca-cola sydd yn reit retro, a ma' gen i un Mr Incredible yn fan hyn! Mi oedd gen i ddillad gwely Mr Incredible oedd yn 'glow in the dark' nes i brynu yn Hong Kong!
Be sydd wedi dylanwadu ar dy steil di?
Dwi'n rili licio petha'r 80au. Dwi'n meddwl fod 'na lot o fashion disasters wedi digwydd yn yr 80au, ond dwi'n meddwl fod 'na lot o bethau lle ma' pobol yn edrych yn ôl rŵan ag yn meddwl eu bod nhw'n reit cŵl rili. Os ti'n edrych yn ôl ar y pop music ar bandia', ti'n edrych ar ffasiwn, a ma' bob dim yn mynd rownd a rownd. Dwi'n meddwl fod yr 80au'n dod nôl ar y funud.
Ma' gen ti lwyth o drainers a ma' nhw i gyd mor lliwgar!
Dwi wrth fy modd hefo trainers a dwi'n byw ynddyn nhw, felly dyna pam fod gen i gymaint ohonyn nhw. Mi nesh i gael gwneud pâr i mi fy hun yn Nike Town, Llundain. Ti'n gallu cynllunio dy drainers dy hun a dewis y lliwia a ma'n enw i ar yr ochr hefyd, a wedyn ma' nhw'n i gyrru nhw i ti o fewn ryw fis drwy'r post. Ma' gen i'r 'thing' 'ma hefyd am Reebok pump trainers - ma gen i 3 pâr ohonyn nhw. Ma' nhw'n pwmpio fyny am dy droed di ac ma' gen i bâr o rai Miami Vice special edition.
Wyt ti wastad wedi bod â diddordeb mewn ffasiwn?
Ma' ffasiwn a ffordd ma' dynion yn edrych ar ôl i hunan wedi newid llawer yn y 10 mlynedd diwetha'. Ma' merched wedi bod yn i neud o ers blynyddoedd, ond ma' dynion yn dechra' teimlo'r un fath o bwysa' rwan. Os ti'n edrych ar y designers rwan, ma' nhw'n gneud lot mwy o ddillad dynion a ma' gen ti bobl fel Louis Vuitton yn gneud bagia' i ddynion. Ma' pawb wedi sylwi fod 'na farchnad arall a ma' nhw'n rili, rili yn ei bwsio fo.
Wyt ti'n credu y bydd dy steil di'n newid yn y blynyddoedd sydd i ddod?
Dwi rili'n teimlo ar y funud mod i'n hapus hefo'r ffordd dwi'n edrych, hefo nghorff, hefo'r ffordd dwi'n gwisgo. Ond dwi hefyd yn teimlo pan dwi'n mynd i siopa am ddillad mod i'n licio cael petha' sy'n fwy classic ac sy'n mynd i bara.
Ma' gen ti lot o fagiau yma hefyd hefo enwau cynllunwyr arnyn nhw, ydyn nhw'n rhai go iawn neu ydyn nhw'n rai ffug?
Na, dydyn nhw ddim yn ffug, ma' nhw wedi costio ffortiwn i mi! One bag a year treat! Yr un Fendi, weekend bag ydy'r un diweddara' nesh i brynu 'Dolig, a dwi wrth fy modd hefo'r bag yna. Ond ma' gen i fag Louis Vuitton dwi'n licio fwy. Nesh i brynu hwnnw ym Milan, ac roedd yn rhaid i mi brynu o adag hynny achos un o'r limited collection bags ydy o, dydy o ddim yn rhan o'r ongoing collection. Dwi wrth fy modd hefo fo. Mi gostiodd o dros £1,000 i mi!
Lle fydd di'n hoffi mynd i siopa?
Ma' 'na lot o siopa vintage yn Lerpwl a dwi'n licio mynd i Camden a llefydd felly. Ma' rhan fwya' o'r crysa' sydd gen i o siopa ail law i fod yn onest. Ma' gen i rai rili neis fel rhai cowboy style a ma'r crys dwi'n wisgo, hen un dad ydi o, mae o tua 40 mlwydd oed a dwi wrth fy modd hefo fo - Fred o Homepride! Mae o 'di para'n dda!
Ma'r trowsus coch a gwyn yma'n anghyffredin iawn, lle ges di'r rhain?
Gucci Jeans ydy'r rhain a nesh i brynu nhw dros chwe blynedd yn ôl, ond dwi ddim yn i gwisgo nhw ddim mwy. Dwi'n meddwl mai ryw £180 oeddan nhw, sydd ddim yn rhy ddrwg, a dwi 'di i gwisgo nhw tua chwe gwaith.
Wyt ti'n ffeindio bo' chdi wedi dod o hyd i ryw fan lle ti'n hapus ac yn hyderus i fod?
Ydw, dwi'n reit hapus achos dydy be dwi'n wisgo ddim yn andros o ddrud i gael ei gynnal achos mod i'n siopa mewn siopau ail law a vintage. Wedyn dwi'n defnyddio'r pres dwi'n ei safio i brynu bagia a sunglasses!
- CWPWRDD DILLAD