Cwpwrdd Dillad: Donna Morris
Donna Morris
Donna Morris
Donna Morris
Donna Morris

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Donna yn ferch o Fae Colwyn sydd yn dilladu dawnswyr disgo a Miss Wales, ymhlith eraill.

Ar ôl gadael coleg celf Caerfyrddin aeth Donna Morris i weithio i Lundain gyda enwau mawr fel Zandra Rhodes a Harrods. Fe fu hefyd yn gweithio i gwmni o’r enw Chrisanne sydd yn arbenigo mewn gwisgoedd dawnsio ballroom a Lladin a arweiniodd yn ei dro at jobyn arbennig iawn yn gwneud gwisgoedd ar gyfer y rhaglen ‘Strictly Come Dancing’.

Donna Morris

Beth ydy’r broses o greu gwisg dawnsio?

Llun, patrwm, torri allan a ffitio gyda dawnswyr. Roedd y dawnswyr yn gweud beth oedda nhw moyn ac ambell waith bydda nhw moyn rhywbeth da chi’n ffili ei gael.

Donna Morris

Pa fath o ddefnyddiau sy’n addas wrth greu dillad dawns?

Stretch lycra, stretch satin, stretch lace, stretch netting, popeth yn stretch achos ma rhaid iddyn nhw symud. Os fydda chi yn defnyddio defnydd gwahanol heb ddim stretch mi fyddai’n torri. Mae yna lawer o ddefnydd stretch neis iawn i’w gael ond gyda sparkle a blodau ond mae gen i mwy o ddiddordeb mewn lliwiau.

Donna Morris

Ar wahân i ddillad dawnsio, pa fath o ddillad wyt ti yn eu creu?

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gwneud gwisgoedd fel Mother of the bride, ffrogiau priodas, bridesmaids, flowergirls, ffrogiau parti, bodices ar gyfer special occasions a dwi’n gneud gwisgoedd prom i ferched. Ma’ nhw yn dod ata fi er mwyn cael rhywbeth gwahanol i be ‘da chi yn gael yn y siopau.

Donna Morris

Rwyt ti hefyd wedi bod yn cynllunio ar gyfer Laura Livesey, sef Miss Wales. Beth oedd y broses yn fana?

Daeth y syniad gan Laura. Oeddwn i yn gallu gweld siap o beth fyddai’n neis iawn dim ond wrth edrych ar Laura ac ro’n i wedi cynllunio gyda papur jyst fel sketch. Roedd yn rhaid cael gwyrdd, coch a gwyn yn y cynllun gan ei fod yn gorfod cynrychioli Cymru.

Donna Morris

Pa fath o ddefnyddiau wyt ti’n eu defnyddio?

Mae gen i a Simon ferch o’r enw Hannah Caron sydd yn 5 mis oed, a phan gafodd hi ei bedyddio nes i ddefnyddio ffrog briodas mami sydd yn 40 blynedd oed i neud ffrog bedydd i Hannah.