Cwpwrdd Dillad: Edna Griffiths
edna griffiths
edna griffiths
edna griffiths
edna griffiths

Ia, hetiau ydi dileit Edna Griffiths ac mae hi wedi bod yn eu cynllunio a'u gwneud nhw ers 8 mlynedd bellach.

Dwi'n cofio pan o'n i'n blentyn bach cael het gan Sion Corn a meddwl, 'dwi'n tops yn yn hwn'a dwi wedi bod yn reit 'fond'ohono a mae o wedi aros yn fy nghof i ers hynny.

Nia: Beth ydi apêl hetiau i chi?

Edna: Steils, y lliwiau, be mae nhw'n mynd efo, y tywydd - pethe fel 'na.

Nia: Pa mor aml ydych chi'n gwisgo het?

Edna: Wel, yn y Gaeaf, dwi wastad yn gwisgo het o gwmpas Brithdir, wastad.

ffion jones

Edna: Het gyntaf aru mi neud oedd un binc a du oedd yn un Cloche. Cloche ydi het sy'n mynd reit i lawr dros y wyneb, fynu i'r llygaid, bochau neu efo ochr am i fyny, steil 1920au, rwbeth fel 'na.

*

Nia: Beth ydach chi'n galw defnydd yr het yma?

Edna: Simine sef defnydd sydd wedi ei wneud allan o bren banana. Wel, teulu'r banana - Avoca, pren yr Avoca o'r Philippines.

ffion jones

Nia: Mae rhain yn edrych yn hollol wahanol i'ch hetiau arferol chi tydyn?

Edna: Yndyn, y 'fascinators'- dyna'r gair iawn amdanyn nhw. Mae nhw ddipyn mwy 'sculptural'.

ffion jones

Nia: Waw, mae hon yn anhygoel! Mae fel rwbath dach chi eisiau hongian ar eich wal achos bod hi jyst mor ddel.

Edna: Yndi, dwi'n licio hon. Crin ydi'r stwff dwi wedi defnyddio i'w gwneud sy'n debyg i blastig.

ffion jones

Nia: Waw, het ddu a gwyn

Edna: Ie, clasur. Mae hi'n andros o gyfforddus. Ti'n ei gosod hi yn ei lle drwy bwyso lawr ar fand yr het a nid ar dop yr het. O'n i eisiau gwneud het ar gyfer priodas fy merch a dyma'r canlyniad.

Edna ar hetiau...
Dwi'n gwerthu fy hetiau o gwmpas Gwynedd a Phowys ac mae un wedi mynd i wlad Groeg. Os oes unrhyw un eisiau het, croeso iddynt gysylltu!

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25