



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Wedi cyfnod yn byw yn Seland Newydd, mae Efa Thomas wedi dychwelyd i Gymru ac yn brif leisydd y Stilletoes.
I ba raddau ti'n meddwl fod cerddoriaeth a steil ynghlwm â'i gilydd?
Wel, miwsig 'di bywyd fi, dyna be sy'n ysbrydoli fi ac yn cadw fi fynd. Felly dwi'n licio dangos hynny yn dillad fi – badges, patches a phetha fel 'na.
O'n ni'n clywed fod ti wedi perfformio yn dy bajamas?
Do, jyst er mwyn bod yn gyfforddus. Ac nes i recordio sengl ni yn rhein hefyd. Dwi'n meddwl fod ti'n fwy cyfforddus pryd ti yn dy bajamas. Dwi'n meddwl fod hynny'n dod o pryd o'n ni'n byw ar y traeth yn Seland Newydd. O'n ni'n byw ar y traeth a phetha, yr whole surf life, felly o'n ni jyst yn gwisgo pethau cyfforddus i fynd i'r traeth a mae hynna dal ynddo fi.
Sut newidiodd Seland Newydd ti?
Nath byw yn Seland Newydd neud fi'n berson lot mwy pen-agored i bobl newydd. Wedyn naethon ni ddod yn ôl i Gymru a nath ffrind fi roi menthyg 'Never Mind the Buzzcocks' gan y Sex Pistols i fi, a nath hynny newid bob dim i fi. O'n ni'n clicio be oedd bywyd fi amdan. A nes i ddechre gwisgo'n wahanol.
O lle ti'n cael dy ddillad, ac wyt ti'n eu haddasu a'u customeiddio nhw?
Ie, fi sy'n adio'r patches a'r badges a bob dim. Dwi ddim yn licio'r postcard punk thing efo'r Mowhawks a phetha, ond dwi'n licio'r syniad bod y gerddoriaeth ti'n licio'n gallu bod arna chdi, a fedri di dynnu fo o 'na a roi o nôl on. Fedri di constantly newid sut mae dillad ti'n edrych heb orfod gwario llwyth o bres.
Be 'di hanes y siaced ddu 'ma?
Wel, oedd rhaid i mi fynd i briodas a doedd gen i ddim byd digon parchus i wisgo. Felly nath Mam brynu hwnna i fi ac wedyn ar ôl y briodas nes i newid o i steil fy hun, adio patches a phetha.
Ydy'n bwysig sefyll allan fel aelod o fand?
Os 'sa chdi'n ista mewn bar ddim yn gwybod pwy oedda chdi'n watsiad, ti'n gweld rhyw bedwar hogyn indie'n chwarae miwsig, ti jyst yn mynd i ista 'na'n nodio dy ben yn meddwl 'Yeah, mae hwn yn iawn'. Ond os wyt ti'n sbio'n cornel llygad chdi ac yn gweld fi, ti'n mynd 'Woah, be di hwnna ta?!'.
Be 'di cefndir enw'r band?
Dwi'n meddwl bod sgidia fel stilletos yn cloi genod lawr. Dydi'r sgidiau yma ddim y petha mwya' cyfforddus a dwi'n meddwl bod merched yn cael eu rhoi i mewn i'r image 'ma o be maen nhw fod. Dwi'n meddwl fod stilletos yn cadw ti mewn un lle ac yn dangos dy fod ti wedi cael dy gloi fyny mewn bywyd, fel bod yn housewife neu rhywbeth fel 'na. Dwi ddim isho gorfod tyfu i fyny i fod yn ddim byd penodol, dwi'n meddwl dyle pawb gael y dewis i fod yn rhydd. Ond mae 'na hefyd rhywbeth secsi, attractive am yr enw sy'n cymryd sylw bobl, sy'n beth da.
Wyt ti'n mynegi dy farn drwy sloganau ar dy ddillad hefyd?
Dwi'n galw nhw'n Nazis Cymraeg – mae gen i top yn fan 'na. Doedd mam ddim yn gadael i fi wisgo fo i'r Steddfod achos fod o'n dweud 'Dwi'n Caru Saeson'. Dwi ddim yn licio'r holl 'twll tîn i bob Sais' a petha. Achos 'sa ti'n deud 'twll tîn i bob dyn du' 'sa fo fel...mae'n ffordd o fod yn hiliol, jyst achos maen nhw'n byw drws nesa' i ni 'di o ddim yn gneud o'n iawn.
Felly ti'n mynegi dy hun i gymdeithas drwy dy ddillad di?
Ie, dyna be ma' miwsig amdan hefyd, ie, dwi jyst yn deud be dwi'n feddwl, bod yn fi fy hun.
- CWPWRDD DILLAD