



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Yn wreiddiol o Bontarddulais mae Eiona Hammond bellach yn ciniawa gyda Chymry Llundain.
“Nôl yn 1947, daethoi lan i Lundain fel athrawes. Ges i fy ngeni a’n magu ym Mhontarddulais, ond o ni ddim am aros yng Nghymru, o’n i am fynd i rywle a gweld y byd. O’n i mynd i Lundain i gael adventure- off a fi! Gwrddais i a ngŵr yn y Capel Cymraeg yn Chelsea, ac roedd mam wastad wedi dweud na’r lle gorau i gael gŵr oedd - yn y Capel Cymraeg.”
Rhain ydy’r ffrogia’ hynaf sydd ganddo chi?
Mae hon yn hen iawn a dweud y gwir, a dwi’n hen, hen cofiwch! Ond mae hon o 1947, o’n i mewn ‘digs’ yn Clapham ac fe ddaeth athrawes o New York i’r un ‘digs’ a rhoi benthyg hon i mi. Dyma hi’n deud mod i yn edrych yn well na hi yn y ffrog achos bod gwallt coch gen i.
Rydach chi’n cadw popeth Eiona!
Dwi’n ofnadwy am gadw pethau dwi’n gwybod. Ma’r ffrog yma’n weddol hen hefyd, 1957. Roedd fy ngŵr wedi mynd i Nigeria, a phan ddaeth e’n ôl fe wedodd yr awdurdodau, “Would you take Miss Nigeria, who’s coming over for the Miss World contest, out to dinner?” Roedd llygaid almond ganddi ac roedd hi’n edrych yn neis iawn, ond enillodd hi ddim.
Mae hon yn fendigedig.
Ges i hon achos oedd gŵr yn gadeirydd Cymry Llundain ar y pryd ac roedd Cymry Llundain yn gwneud reception arbennig yn y St James’s Palace ar gyfer Tywysog Cymru yn 1969.
Mae’r ffrog yma’n hyfryd a’r ‘brooch’ arni’n ffantastig.
Dwi’n dwli ar y ffrog hon achos wi’n dwli ar y lliw, felfed coch. Roedd llywydd Cymry Llundain ar y pryd, William Harries, yn millionaire ac fe roddodd y brooch hon yn anrheg i mi wisgo. Ac fe wisgais i e ar gyfer cinio Gŵyl Dewi yn y Savoy.
O ba gyfnod mae’r ddwy ffrog yma?
O’r 70au ma’ rhain yn dod. Es i mas i brynu ffrog er mwyn mynd i’r House of Commons, a brynais i’r ddwy'r un pryd. Un gwyn Grecian ac un du Victorian!
Oeddech chi’n ffeindio eich bod chi’n mynd o un ciniawa i’r llall?
Fuon ni’n lwcus, gafon ni’n gwahodd i weld y Tywysog yn cael ei wneud yn Dywysog Cymru. Fe aethon ni i Buckingham Palace i’r garden party wedyn, y tro cynta’ hefo’ ngŵr, a’r ail waith ges i ffrog las a het las, ond fe fu Ron farw jyst cyn bo ni’n mynd. Ysgrifennais i at y Tywysog Charles a wedes i fod e wedi marw a dweud y byddwn i’n falch os byddai Gareth, un o’r meibion, yn cael y cyfle i ddod gyda mi. Wedi i mi fynd fewn i’r ardd dyma’r Tywysog Charles yn dod lawr a dod ata’ i, a medda fe, “I was very sorry to hear about your husband”, ac o ni’n meddwl, chware teg iddo fe.
Ydych ch’n dal i fynd allan lot i ginio ac ati hefo ffrindiau?
Odw, dwi’n mynd mas o hyd, ddim cymaint ag o ni wrth gwrs. S’dim partner ‘da fi bellach a wy’n gweld eisiau hynny. Ond tra bo fi’n gallu, dwi’n mynd. Ma’ da fi ddigon o atgofion a chofion melys. Dwi wedi byw bywyd llawn a dwi wedi bod yn lwcus.
- CWPWRDD DILLAD