Cwpwrdd Dillad: Eirwen Finch
Cwpwrdd Dillad: Catrin Finch | Eirwen Williams | Mark Lugg

eirwen williams
eirwen williams
eirwen williams
eirwen williams

Mae cartref Eirwen Williams yn llawn dillad a mae hi wedi eu cadw nhw ers dechrau'r 60au.

eirwen williams

Eirwen: Dwi ddim yn 'shopaholic' na dim fel 'na. Dwi jyst yn prynu dillad ar gyfer rhyw achlysur arbennig fel arfer. Deud y gwir, dwi'n dangos fy hun weithiau, gormod weithiau o bosib. Dwi'n meddwl bod gwisgo math arbennig o ddillad yn newid eich cymeriad chi gymaint.

Nia: Beth oedd eich gwaith chi a sut oedd hynny'n effeithio ar beth oeddech chi'n ei wisgo?

Eirwen: Gweinyddes feithrin oeddwn i ond cyn hynny arferwn weithio yn yr ysbyty yn tynnu gwaed. Pan o'n i'n gwisgo'r gôt wen amdanaf, roedd hynny'n newid fy nghymeriad yn gyfangwbl. Fasech chi'n meddwl 'mod i'n feddyg! O'n i'n berson hollol wahanol pan oeddwn yn ei gwisgo.

eirwen williams

Nia: Pryd ddechreuoch chi gymryd diddordeb mewn dillad felly?

Eirwen: I ddechrau, cadw fy ffrog briodas. Odd hi'n arbennig oherwydd mai un fer steil balerina oedd hi a roedd hyn yn anghyffredin yn y cyfnod. Mae'n siwr fy mod wedi troi llawer i ben yr adeg hwnnw yn gwisgo'r steil yna. Erbyn heddiw, mae hi'n dod ag atgofion hapus yn ôl a dwi'n falch fy mod wedi ei chadw.

eirwen williams

Nia: Ydach chi'n gwybod beth ydi fy hoff liw?...Pinc! Ma' hon yn ffrog binc anhygoel!

Eirwen: Nes i fwynhau ei gwisgo hi a dim ond unwaith dwi wedi'i gwisgo hi ar gyfer achlysur arbennig. Dwi wedi ei thrio hi'n unig o flaen y drych wedi hynny, dim ond er mwyn gweld os ydi hi'n dal i ffitio. Faswn i byth yn cael gwared ohoni.

eirwen williams

Eirwen: Gathon ni wahoddiad i barti yng Nghyffordd Llandudno i lawnsio BMW newydd oedd ganddyn nhw yno a phwy oedd yna ar y noson ond Miss Wales ar y pryd. Felly wrth gwrs dyma fi'n dechrau brolio i'm ffrindiau ond yn ddiweddarach ar y newyddion roedd stori amdani yn dweud bod yna drafferth wedi bod rhyngddi a'r heddlu ym Mae Colwyn! Dyma wisgais ar gyfer y noson a dwi wedi ei chadw ers 30 o flynyddoedd.


eirwen williams

Eirwen: Mi wisgais fy ngwallt i lawr gyda'r ffrog ra-ra yma sy'n hollol anghyffredin i mi. Fyddai byth yn gwisgo fy ngwallt i lawr a dwi heb wneud ers y noson yna.

eirwen williams

Nia: Ydach chi'n berson ymarferol? Ydach chi'n hapus i basio'ch dillad at rywun arall?

Eirwen: Ydw. Mi fydda' i'n pasio fy nillad at fy chwaer. Mi fydd hi'n fy ffonio weithiau and dweud wrtha i "wisgais i'r siwmper goch yna heddiw a mi oedd pawb yn dweud pa mor dda oeddwn i'n edrych." Ond, dwi'm eisiau gwybod hynny neu mi fydda i eisiau'r dillad nôl! Dwi'n ailgynhyrchu'r dillad weithiau. Roedd fy wyres eisiau clogyn Batman rhyw dro, felly es ati i dorri ffrog goch a gwneud clogyn iddi o'r ffrog honno.


eirwen williams

Nia: Ydi eich dillad yn dod ag atgofion nôl atoch weithiau?

Eirwen: Mae o run peth a phan fyddwch chi'n gwrando ar fath arbennig o fiwsig a mi fydd yn mynd a chi nôl i ryw gyfnod neu le arbennig. Mae fy nillad yn gwneud yr un peth i mi ac erbyn heddiw dwi'n hynod falch fy mod wedi eu cadw i gyd oherwydd eu bod yn dod ag atgofion pleserus iawn yn ôl i mi am nosweithiau difyr iawn yn fy mywyd.

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25