



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Dwi’n licio ffasiwn a dwi’n licio dillad. Ond dwi’n casáu dilyn ffasiwn lle mae nhw’n dweud ‘hwn sy’n ffasiwn’ ac mae’n rhaid i ti ddilyn o, neu mae hwnna’n mynd gyda hwnna. Dwi’n licio prynu pethe ffasiynol ond dwi’n licio adio pethau fy hun i wneud o’n wahanol eto.
Mae Elen Rhys wedi troedio llawer i lwyfan, o Steddfodau i Noson Lawen. Mae hi’n gweithio fel cynhyrchydd rhaglenni llwyddiannus iawn i blant, mae hi’n wraig i Dylan ac yn fam i Nansi fach.
Sut fyswch chi’n diffinio dy steil di i ddechrau?
Mae hynna’n gwestiwn anodd achos i ddweud y gwir, alla i ddim! Dwi’n berson eithaf mympwyol. Ac mae’r dillad yn adlewyrchu pa mor fympwyol ydw i.
Mae’n eclectig iawn. Yn hollol wahanol i’w gilydd. Heddiw efallai fod fy steil yn eitha’ ffynci, fory falle fydd o’n wallgo’, mae’n dibynnu ar fy ‘mood’ i ar y dydd. Mae gen i sawl ochr, Mae gen i’r ochr sydd fel pioden. Os ydw i’n gweld unrhywbeth sy’n lliwgar mae’n rhaid i mi gael o, felly mae gen i lot o bethau lliwgar, blodeuog, disglair.
Mae gen i ochr hefyd eithaf drwg sy’n licio pethau mwy ‘daring’ i bobl fatha edrych arna i a dweud ‘Be mae honna’n gwisgo’. Ac wedyn mae gen i ochr sidet, alla i fod yn sidet iawn os dwi ishe.
Fel ti’n gweld, dwi’n licio lliwia. Glas yw fy hoff liw i. Dyma i ti hen ffrog, ffrind roddodd hwn i mi, mae o’n drideg oed, hen un Jasper Conran.
Bargen, mae hwn i fod rhyw bum can punt, ges i o am rywbeth fel £60. Cynhyrfu’n llwyr!
Bargen, lawr o gant a phedwar i £40.
Ond ti amlwg heb ‘di gwisgo hi...
Dwi ddim ‘di gwisgo hi, ond mi wnâi!
Prynu hwn yn Sbaen blynyddoedd yn ôl yn Portobanus, dwi wedi gwisgo fo a gwisgo fo...mwy o batrymau, mwy o batrymau...pethe sy’n sgleinio rŵan... glas sgleiniog. Bioden ynof fi, os dwi ddim yn gwybod beth i wisgo dyma’r hen ffyddlon. Dwi wedi cael hon ers rhyw ddeng mlynedd a dwi di wisgo fo i bob peth. Os dwi ishe plesio Dylan, mi wnâi wisgo hwn, y Hurley number, ac anadlu mewn tipyn bach!
Cot ffwr Anti Blod o Awstralia. O ac wedyn pam fi ar wyliau, mae popeth yn edrych fel bod o am dy siwtio di, dyma drowsus dipyn bach yn wallgo’.
Fel perfformwraig rŵan, be di rôl dillad yn hynny i chdi?
Dwi ddim yn siŵr os dwi’n gweld fy hun fel perfformwraig. Dwi’n gweld o fel bywyd pob dydd a dweud y gwir. Ond dwi yn teimlo bod dillad yn neud i fi deimlo’n fwy hyderus ac yn rhoi stamp personoliaeth i fi i ddangos pwy ydw i, efallai.
Mae Nansi fy merch fach i efo meddwl ei hunan, yn debyg iawn i be oedd gen i. Mae hi’n gwybod yn bendant be mae hi yn ei licio. Tair a hanner yw hi. Ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hir, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn binc.
Ges i fy ngeni yn Sir Drefaldwyn, merch ffarm. Tair o ferched: Elen, Blodwen, Anwen - fi oedd yr hyna’. Ac oedden ni’n cael ein nabod fel y tair chwaer oedd wastad yn gwisgo'r un fath. Oedd pawb yn meddwl ein bod ni’n giwt ac oedden ni wastad yn mynd o steddfod i steddfod yn gwisgo’r un fath.
Ac oedd o yn edrych yn reit neis. Oedd mam yn prynu dillad hyfryd i ni, yn gwario lot o bres ar ddillad da. Os edrychi di ar luniau ohonai i ers pan dwi’n bump, hyd nes i mi fod yn 13, da ni’n tair yn gwisgo'r un fath. Fel oeddwn i’n mynd yn hŷn wedyn, drwy’n arddegau, ‘nes i rebelio ac eisiau bod yn wahanol, yn hollol wahanol.
Dwi yn licio teits. A dweud y gwir, unrhywbeth sy’n mynd i neud unrhyw wisg sy’n fach yn llwydaidd neu’n dywyll, os ydw i’n teimlo braidd yn cheeky y diwrnod hynny ella, na’i gwisgo teits pinc. Neu falle mod i’n teimlo eitha’ blodeuog, ac mi wnâi wisgo teits blodeuog, neu rhai disglair!
A phethau eraill sy’n jazzio’r dillad ma’ i fyny ydi'r mwclis ffantastig yma. Mae’r lliwiau ‘mae’n grêt ydi nhw’n hen?
O ydyn. Dwi wedi cael y rheina mewn rhyw fath o siope sy’n gwerthu pethau vintage felly mae hwnna’n hen. Fedri di wisgo rhywbeth eitha’ blaen a neud o’n rhywbeth gwahanol efo rhywbeth felly. Dwi’n licio’r sŵn mae o’n neud, nid jyst y pleser o wisgo fo, ond y pleser o edrych arno fo, teimlo fo, mae o bron fel rhywbeth i fwynhau yn ogystal â gwisgo.
Dwi’n cofio Nain yn gwisgo'r rhain. Dwi’n licio’r clasp gwyrdd a’r holl waith a’r lliwiau ac wedyn yr holl liwia pam fi’n rhoi yn y golau.
A ti’n ei chofio hi’n ei gwisgo nhw?
Ydw, felly mae 'na rywbeth sentimental amdanyn nhw hefyd. Dwi’n meddwl fod hynny’n rhywbeth neis am ddillad, mae’n rhaid cael nhw’n agos at dy galon di bron a bod.
Wel o nabod pioden fatha chdi, mae’n siŵr bod gen ti mwy o bethau sgleiniog na dim ond rhain hefyd oes?
Ti’n gwybod be, ti’n iawn! A dwi’n cadw nhw mewn lle arbennig hefyd.
Mae’r sgidiau pinc yna’n ffantastig!
Mae'r rhain yn bwysig i fi. Wisgais i rain ar ddiwrnod fy mhriodas i....
Felly maen nhw wedi gweld lot o ddawnsio felly?
Do. Anodd ei gwisgo nhw de - dw’n i ddim sut wisgais i nhw drwy’r dydd! Pan oeddwn i’n gwybod mod i’n priodi oeddwn i’n meddwl ‘be dwi’n mynd i wisgo?’. Ac yna trafod efo ffrindie, ac oeddwn nhw’n dweud ‘gelli di ddim gwisgo gwyn, ddim ti fydda fo’ ac oedd hynna’n wir. Dyma fi’n ffeindio ffrog oedd yn fy siwtio i o ran steil, ac wedyn dyma fi’n mynd i brynu defnydd o siop Indian a dyma ryw ddynes arall yn rhyw greu ryw concoction ei hunain ar gyfer y ffrog briodas.
A dwi’n cofio dod allan ar ddiwrnod y briodas. A fi’n gwybod fel mae pobl yn dy wylio di ar y stryd, yn enwedig lle da ni’n dod yn y canolbarth, mae llond stryd yn gwylio. A ti’n clywed rhywun yn dweud rhywbeth sy’n aros efo ti. Dyma ryw ddynes yn dweud ‘Oh that’s typical Elen’ ac na’r peth cynta’ glywais i wrth ddod allan o’r car. Oeddwn i ddim yn gwybod sut i gymryd o de, ond mae o’n wir dwi’n siŵr.
- CWPWRDD DILLAD