Cwpwrdd Dillad: Elen Elias
CWPWRDD DILLAD: Jill Rowlands | Gwion Evans | Elen Elias
Elen Elias
Elen Elias
Elen Elias
Elen Elias

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Elen Elias

Sut fyddet ti'n disgrifio dy steil di?

Dwi ddim yn ecsentrig. Dwi'n edrych ar bobl eraill a mynd 'waw - ma' hwnna'n wahanol!' Ond dwi'n hapus fy myd hefo be' sgena'i! Dwi'n dilyn ffasiwn ac yn ddigon hapus i ddweud fy mod i'n i ddilyn o. Ma' gennai ddiddordeb iach iawn mewn ffasiwn 'dwi'n credu. Dwi wedi mynd i wisgo'n reit ferchetaidd, yn enwedig ar ôl i mi gael plant. Nes i benderfynu bo' fi ddim ishe bod yn ‘mumsy' ac yn rhy debyg i'r norm, doeddwn i ddim yn mynd i wisgo pinafore dress na dim byd fel'na. O'n i ishe gwisgo jeans a boots a combat trousers a phethau felly.

Elen Elias

Sut mae cael plant wedi newid dy steil di?

Ma' Jac yn ddeg nawr a Gweni'n bedair. Ro'n i'n fam ifanc iawn ac felly ro'n i ishe diffinio fy hun ac ishe bod yn fi fy hun. Dwi'n credu pan ti'n cael plant ti'n anghofio pwy wyt ti. Dwi'n credu o ran dillad i mi sylweddoli mod i'n gallu edrych ar ôl fi fy hun a ‘mod i'n gallu rhoi steil i fi fy hunan. Dwi'n amau mod i wedi defnyddio hynny fel ychydig bach o ddihangfa i ryw raddau.

Elen Elias

Ma'r sgert yma'n un gwahanol iawn. O le gefaist ti hon?

Ges i hon ar gyfer parti nos priodas. Mae'n chwarae hefo'r golau yn berffaith ac wrth gwrs ma' dwylo bach Gweni yn cael eu denu ati'n syth. Ma' hi'n licio cyffwrdd a chwarae gyda hi. Fe es i weld ballet un noson, a dwi'm yn credu fod pobl yn gwisgo lan i fynd i'r theatr rhagor - ond y noson honno roedd pobl wedi gwisgo i fynnu ac fe wisgais i hon a theimlo fel tywysoges ynddi.

Elen Elias

Wyt ti'n hoffi mynd allan i siopa?

Dwi wrth fy modd yn mynd i siopa! ‘Yn anffodus' bydda ngŵr i'n dweud. Dwi'n mynd pan nad yw'r plant gyda fi - i mi gael llonydd. Dim ond fi a fy ngherdyn Topshop! Os dwi'n gweld rhywbeth dwi'n ei hoffi, 'dwi'n methu dweud ‘na'.

Elen Elias

Wyt ti wedi bod yn hoff o ffasiwn erioed?

O'n i'n blentyn yn y 70au, ac wrth gwrs roedd gen i wallt cwta. Dwi ddim yn credu fod mam a dad ishe hogyn bach, ond fel'na o'n i'n edrych weithiau. Ro'n i mewn jeans, y rhai hefo'r patches arnyn nhw, ond roedd e'n bwysig i mi fod e'r peth iawn a rhywbeth o'n i'n licio ei wisgo. Yn y 70au roedd gan bawb party dress ac roedd rhaid cael ffrog ddel i fynd i barti. Aeth dad a fi i Howells yng Nghaerdydd ac yn y diwedd gath e chwech o'r menywod oedd yn gweithio yna i ddal ffrog i fyny o mlaen i mewn rhes, fel tase'n i yn Paris Hilton! Nes i gwympo mewn cariad gyda'r byd ffasiwn. Doeddwn i ddim yn darllen Just 17, ro'n i'n darllen Vogue yn 15 oed. Ro'n i ishe dianc i mewn i'r byd yna. Roedd y ffotograffiaeth a'r esthetigs yn y lluniau mor bert ac o'n i wrth fy modd yn neidio i mewn i'r byd yna am gyfnod. Pan oedd dad yn mynd i Cannes, dwi'n cofio dweud wrtho un tro mod i ddim isio anrheg. ‘Dwi just isho i ti fynd mewn i boutique Chanel a dere a chatalog yn nôl i fi...'

Elen Elias

Mae hon yn ffrog anghyffredin dydy?

Roedd gen i ffrind oedd yn symud i fyw i Hong Kong ac fe benderfynodd hi ei bod hi am gael parti gyda thema Tsieineaidd. Es i i chwilio am wisg ac fe wnes i ffeindio hon ar ôl amser hir, hir yn ymlwybro drwy'r dref. Roedd hi'n ffitio fel maneg ar y pryd a nes i droi fyny i'r parti a fi oedd yr unig un oedd yn gwisgo unrhyw beth Tsieineaidd. Roedd fy ffrind yn gwisgo camisol bach, a wedais i; 'dyw hwnna ddim yn Tsieineaidd', a 'nath hi ddweud ‘ond mae o wedi cael ei wneud yn Hong Kong!'

Elen Elias

Pam wnes di ddewis y steil yma ar gyfer dy ffrog briodas di?

Ro'n i ishe ffrog oedd wedi cael ei gwneud i mi. Felly roedd e'n broses o edrych drwy gylchgronau am fisoedd a chael ffrind i dad oedd yn gwneud gwisgoedd i'r teledu i wneud fy ffrog i mi. Dwi'n hapus ei bod hi wedi costio cyn lleied i mi wrth feddwl faint mae rhai o'n ffrindiau i'n gwario ar eu ffrogiau nhw. Rodd fy un i wedi costio lot, lot llai. Ro'n i ishe rhywbeth clasurol a rhywbeth y byddwn i'n gallu ei rhoi i Gweni.

Elen Elias

Lle ges di'r bag Louis Vuitton yma?

Pan aethon ni i Baris ro'n i'n benderfynol o fynd i'r siop. Mi o'n i am stopio ar y St Germain i mi brynu potel fach o win i Hywel a ro'n i am ei feddwi o'n ara' deg a draggio fe rownd heb fod e'n sylwi ei fod yn gorfod gwario! Chwarae teg iddo fe nath e ddweud, ‘go on dos i mewn'; a nes i ddim gorfod meddwi fe o gwbl.

Elen Elias

Wyt ti'n hoffi mynd i siopa i Baris?

Dwi'n credu weithiau fod yna ryw gartref ysbrydol i mi ym Mharis. Dwi'n methu siarad Ffrangeg felly dwi'n dead loss pan 'dwi'n mynd yna ac yn gorfod dibynnu'n llwyr ar Hywel. Ond dwi'n gallu ymlacio yna a dwi'n licio popeth o gwmpas. Mae'r lle mor fendigedig. Dwi'n hoffi gwylio'r byd yn mynd heibio mewn caffi, does ‘na ddim byd tebyg!

Elen Elias

Beth wyt ti'n ei deimlo wrth feddwl am ddillad?

Dwi'n hapus. Dwi'n gwario lot gormod ar ddillad, ond ma' bob geneth yn dydy? A bydd pob gŵr wastad yn cwyno! Ond ydy, mae'n fy ngwneud i'n hapus i gael yr hyn dwi isio a dwi wrth fy modd pan mae'n dod yn ben-blwydd neu'n Nadolig a chael vouchers i fynd am ddiwrnod o siopa - mae'n dod a gwên fawr i'n wyneb i.