Cwpwrdd Dillad: Eleri Jones
Eleri Jones
Eleri Jones
Eleri Jones
Eleri Jones

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Eleri Jones yn artist sy’n cael ei hysbrydoli gan ddillad. "Dwi’n sbïo ar lot o eitemau o ddillad gwahanol, a ma’ nhw’n sbarduno lot o gwestiynau i mi, fel beth yw rôl draddodiadol merched, rôl y wraig yn y tŷ a lot o gwestiynau fel’na."

Eleri Jones

Lle wyt ti’n meddwl fod dy gariad di tuag at gelf yn gorgyffwrdd gyda dy gariad di tuag at ddillad?

Maen nhw’n cydblethu mewn lot o ffyrdd gwahanol. Dwi’n meddwl ei fod o wedi dechrau wrth i mi wneud prosiect ar fywyd llonydd, a sbïo ar gorneli cartrefi mam a dad, a nain a taid, gan edrych sut mae pobl yn gosod pethau yn eu cartrefi a sut dwi’n gosod pethau yn fy fflat bach i. I mi’n bersonol, dillad a sgidiau a handbags oedd y rhan fwyaf o’r pethau o’n i’n edrych arnyn nhw.

Eleri Jones

Beth wnaeth i ti greu darn o waith yn uniongyrchol am esgidiau?

Ro’n i’n lwcus i gael swydd fel artist preswyl yn amgueddfeydd sir Conwy ac fe wnes i weithio cyfnod yn amgueddfa Sir Henry Jones yn Llangernyw, ac roedd tad Henry Jones yn grydd. Fe ofynnais i drigolion Llangernyw a phlant yr ysgol i ddod a chasgliad o sgidiau ata’i. Mae’n siŷr mod i wedi cael tua 60 pâr i gyd hefo’i gilydd a fe es i ati i sketchio.

Eleri Jones

Heblaw am fagiau, esgidiau ac ati, pa themâu arall sydd yn ymddangos yn dy waith di?

Dwi’n gwneud lot o waith figurative, yn edrych ar bobl mewn gwahanol leoliadau. Dwi’n licio tynnu lluniau pobl wrth iddyn nhw weithio neu ymlacio, neu thra maen nhw’n sgwrsio.

Eleri Jones

Oes yna un math o ddefnydd wyt ti’n licio gweithio gyda’n benodol?

Pob math rili. Nes i dreulio amser yn Sri Lanka ac yn India. Tra o’n i yn Sri Lanka fe dreuliais amser gyda seamstress o’r enw Sahira oedd yn gweithio gyda phob mathau o hen silk. Roedd e fel rhyw fath o insight i fywyd go iawn pobl Sri Lanka, a sut oedden nhw’n mynd ati i ennill eu pres. Roed Sahira yn pwytho ac yna’n sychu herbs, roedd hi fel rhyw entrepreneur. Dwi’n meddwl ein bod ni dyddiau yma wedi anghofio’r ffordd draddodiadol o weithio gyda pheiriant gwnïo.

Eleri Jones

Mae gen ti gymaint o fagiau mae hi’n edrych fel oriel yma!

Dwi wrth fy modd yn gosod pethau fyny ar y wal. Dwi wedi gwneud ambell i lun o’r holl fagiau yma ar y wal. Mae gen i fag bach pen ci, wel pwrs, a hwnnw oedd y pwrs cyntaf i mi ei gael, felly mae’n ddipyn o oed.

Eleri Jones

Mae hon yn edrych fel ei bod hi wedi dod o India.

Nes i brynu hon yn Delhi yn India, a dwi’n difaru peidio prynu tua phymtheg ohonyn nhw. Dwi’n meddwl mai dim ond ryw 75c oedden nhw'r un, a dwi di gwisgo cymaint arni gan ei bod hi’n cool braf i’w wisgo yn India. Ond mae o wedi dechrau rhwygo. Yn anffodus gan fod y rhan fwyaf o’r stwff yn silk mae o reit fregus. Ac er bod o wedi rhwygo dwi dal wrth fy modd yn ei wisgo.

Eleri Jones

Ac o ble ddaeth hon?

Mae hon o Sri Lanka, a Sahira ddaru wneud hon i mi, hon oedd y gynta' nath hi i mi. Mi ges i’n mesur ac mae hi’n ffitio’n berffaith. Ma’i ’di cael ei gwneud ar beiriant gwnïo hen ffasiwn gan ddefnyddio pwyth anghyffredin yr holl ffordd rownd y ffrog.

Eleri Jones

Ac mae hon yn anghyffredin hefyd.

Mae hon hefyd o Sri Lanka, a geneth ifanc, dwi’n meddwl mai ryw 18 oed oedd hi, wedi dechrau busnes yn gwneud ei ffrogia’. Roeddwn i’n lwcus i allu dewis dwy sari wahanol er mwyn gwneud y ffrog. Dwi’n licio fel ma’r lliwiau yn clasho gyda’r leinin llachar.

Eleri Jones

Mae’r bag yma’n ffantastig.

Dyma’r bag fwya’ ecsentrig sydd gen i, ond dydw i ddim yn ei ddefnyddio’n aml, achos fedrai ddim rhoi mwy na phwrs a lipgloss ynddo fo, oherwydd pob tro dwi’n rhoi wbath arall ynddo fo, mae o’n mynd yn fwy ac yn fwy ac yn fwy, mae’n strechio!

Eleri Jones

Mae gen ti lond gwlad o saris yma.

Brynais i hon yn Cambodia gan ryw ddynas oedd yn gwerthu llwyth o saris tu allan i ddeml. Ar ôl i mi weld hon roedd yn rhaid i mi ei phrynu hi.

Dwi’n rili licio’r syniad yma bo’ ni’n cadw darnau o ddillad am flynyddoedd, a’n bod ni’n gwisgo dillad dro ar ôl tro, a bod stori i bob dilledyn. Dwi hefyd yn licio ailgylchu drwy fynd i siopau elusen. Dwi jyst yn meddwl fod dillad yn lot gwell pan mae yna hanes neu stori tu ôl iddo fo.