



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Eleri Lynne yn ddigon ffodus i gael un o ffrogiau Audrey Hepburn fel rhan o'i chasgliad dillad eang.
Rwyt ti'n gyfrifol am gwpwrdd dillad tra gwahanol ond arbennig iawn, a ti sy'n gyfrifol am yr arddangosfa Oes Aur Couture yn y V & A sy'n llawn o waith Christian Dior. Be ydy arwyddocâd gwaith Dior yn ystod y cyfnod hwn?
Ma' gynnon ni un o'r casgliadau mwyaf pwysig yn y byd o ran hanes a hanes dylunio a chelf, felly mae o'n hyfryd cael gofalu am bethau mor arbennig. Mae'r arddangosfa yn dathlu'r cyfnod o 1947-57. Rydan ni'n dathlu'r cyfnod yma oherwydd dyma ddyddiadau Christian Dior.
Roedd dylanwad Dior yn amlwg yn bell gyrhaeddol, ond pam fod ei ddillad mor bwysig?
Yn y casgliad mae dillad o gasgliad cyntaf Christian Dior, sef y golwg newydd, y 'New Look'. Ma' nhw'n dangos pam y gwnaeth Christian Dior newid ffasiwn gymaint achos nath o newid popeth oedd yn ffasiynol ar y pryd sef y ffurfiau sgwâr iawn ac eithaf militaristic a'i gwneud nhw'n llawer mwy meddal a benywaidd.
Be fasa ti'n ddeud sydd mor arbennig am waith Christian Dior o'i gymharu â rhai o'r cynllunwyr eraill?
Yn y lle cyntaf nath e sylweddoli ar ôl yr Ail Ryfel Byd fod menywod, ac a dweud y gwir bawb, yn edrych am ryw luxury newydd ac fe ddaeth e â phethau benywaidd iawn. Roedd e'n lwcus iawn i fwrw ar y zeitgeist yna, ond hefyd roedd e'n glyfar iawn pan ddaeth e at fusnes. Sylweddolodd y bydda pobol yn talu llawer o arian i brynu tipyn bach o'r brand neu'r enw, felly roedd e'n dechrau gwerthu persawr i bobl oedd falla yn methu fforddio ffrogia' llawn.
Cyfran fach iawn o'r casgliad sydd yn cael ei arddangos, mae yna filoedd o ffrogiau eraill dan dy ofal di yn yr archifdy yn does?
Ma' gynnon ni ryw 80,000 o ddarnau yn y casgliad. Dyma'r cwpwrdd dillad gorau yn y byd!
Pwy gynlluniodd y ffrog anhygoel yma?
Yn y storfa o ddillad yr Ugeinfed Ganrif mae'r ffrog hyfryd yma gan Coco Chanel o'r 1930au. Rydych chi'n gallu gweld faint o waith sydd wedi mynd mewn iddo fe. Mae o wedi cael ei gyfro yn hollol gan sequins du gyda panels o sidan coch. Be sy'n ddiddorol am hyn yw bod e yn gyfforddus iawn i wisgo achos nad oes yna esgyrn yn y bodice ac ma'r sgert jyst yn hongian fel mae e, s'dim pais mawr hefo crinolin a corsehair na'r math yno o beth. Ma' fe'n glynu i'r corff ac yn edrych yn hyfryd. Mae cape bach hefyd sydd yn mynd dros yr ysgwyddau.
Mae bob un o'r sequins wedi cael ei roi hefo llaw dydy?
Wrth gwrs. Dyna sydd yn bwysig i gofio hefo couture ydy bod peiriant heb fod yn agos i'r un fan ohono fe - ma' popeth wedi ei wneud gyda llaw, dyna beth sydd yn ei wneud e mor hyfryd.
Mae yna lawer o siwtiau sydd wedi eu teilwra yn yr ystorfa, pwy arall heblaw Chanel oedd yn gwneud siwtiau fel hyn?
Galwodd Christian Dior a Chanel Balenciaga yn feistr arnyn nhw i gyd oherwydd rodd e'n gweithio gyda defnydd oedd yn anodd iawn ei drin ac roedd e'n gweithio ar gorff y menywod fel sculpturer yn gweithio gyda'r defnydd. Fe greodd silhouette y 60au - yn enwedig pan da chi'n meddwl am bobl fel Jackie Kennedy ac yn y blaen, ma'r siwt yma yn rhan o'r golwg yna. Dim ond Balenciaga alla' fod wedi creu rhywbeth mor berffaith. Rodd e'n gweithio a gweithio i wneud yn siŵr fod pob seam yn hollol berffaith ac yn hollol syth a bod yr ysgwyddau wedi eu creu yn jyst reit. Odd e'n enwog am fynd lan at bobl a rhwygo'r llewys ffwrdd o'r siwtiau os oedden nhw ddim wedi cael eu pwytho'n dda. Felly roedd o'n hollol, hollol obsessive ac yn berffeithydd am wneud pethau'n dda.
Be ydy hanes y ffrog yma?
Dyma ffrog o gasgliad ola' Christian Dior o 1957. Ma' fe'n dangos un o hoff silhouettes Christian Dior, sef ffrogiau gyda sgertiau anferth, fel blodau yn mynd mas ac rydych chi'n gallu gweld cymaint o layers sydd wedi mynd mewn i'r bais i greu'r math yma o siâp yn y sgert.
Ydy o'n wir fod Audrey Hepburn wedi gwisgo'r union ffrog yma?
Ydy. Fe roddodd Audrey Hepburn y ffrog yma i ni yn y 1970au, ond fe wisgodd hi'r ffrog yn y 60au. Ma' hi wedi cael ei chynllunio gan Chivenchy. Fe gwrddodd Chivenchy â Audrey Hepburn yn y 50au ar gyfer ei ffilm gyntaf hi, Sabrina, ac wedi hynny dim ond dillad Chivenchy wisgodd hi. Roedd Chivenchy yn meddwl am Audrey fel y 'fenyw berffaith' a phan 'da chi'n meddwl am Audrey Hepburn, 'da chi rili yn edrych ar rywbeth gan Chivenchy.
Mae'n siŵr ei bod hi'n anodd iawn i ti fynd i siopa am ddillad a chditha yn trin dillad o'r fath ansawdd â hyn bob dydd?
Ma'n safonau i'n uchel nawr wrth fynd i siopa oherwydd does yna ddim byd yn mynd i gystadlu gyda'r petha' yma. Ond, yn ogystal â hynny dwi'n methu prynu vintage chwaith oherwydd dwi'n delio gyda nhw bob dydd felly dwi moyn gofalu amdanyn nhw a dim eu gwisgo nhw. Ma' hi'n amhosib nawr felly dwi mond yn gwisgo hand-me-downs oddi wrth fy mam a'n chwaer!
- CWPWRDD DILLAD