



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Elin Maher yn fam i dri o blant ac yn chwilio am gyngor ffasiwn.
"Mae pawb yn gobeithio colli pwys neu ddau ychwanegol beth bynnag yw eu maint. Rydych chi angen dillad i wneud i chi deimlo’n dda beth bynnag fo’ch siâp ac mae hynny’n gamp. Yn bersonol, dwi’n meddwl y bydd gweld Elanor yn gwneud lles i mi, yn gwneud i mi sylweddoli rhai pethau ac i allu symud ymlaen."
Pa broblemau sy’n wynebu merched o faint mwy pan maen nhw yn prynu dillad?
Mae yna ddiffyg dewis a hefyd dwi’n meddwl fod diffyg hyder gan rai i fynd mas i brynu dillad. Ar un adeg ro’n i yn gwisgo siwmperi’r gŵr. O’n i jyst yn hapus i wisgo rhywbeth oedd y fy ffitio i ac oedd yn gyfforddus. Nawr, mae’r hyder gen i adael i chi edrych drwy fy nghwpwrdd i. Dwi ddim yn gwybod os ydw i’n gwneud rhywbeth doeth, ond dyna fe! Efallai y bydd hyn yn ysgogi rhywun arall sydd efallai a dim hyder i edrych yn wirioneddol ar beth ma’ nhw’n wisgo. Yn gallu rhoi hwb bach personol iddyn nhw deimlo’n well o fewn ei hunain, rwy’n credu fod hynna’n bwysig.
Sut wyt ti yn mynd ati i ddewis dy ddillad?
Rwy’n dueddol o weld rhywbeth dwi’n hoffi, dim ots os yw ar gael yn fy maint i neu beidio. Dwi wastad yn credu y gwneith o ffitio mewn wythnos, y bydda’ i wedi colli ychydig o bwysau, ond dyw hynny byth yn digwydd. Dwi’n licio’r syniad o gael rhywun i ddweud wrtha’i be i wisgo, beth sydd yn fy siwtio fi. Rhoi cic yn fy mhen ôl er mwyn i mi brynu pethau doethach yn y dyfodol gobeithio!