



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Ma'n rhyfedd sut ma' bywyd yn newid, doedd gan Elin Manahan Thomas ddim syniad y bydda hi'n gantores broffesiynol. Er bod ei harbenigedd mewn cerddoriaeth Baroc, ma' pob cyngerdd yn galw am ddilledyn priodol - yn annatod felly mae gan Elin lot fawr o ddillad.
Wyt ti wastad wedi bod yn hoff o ddillad a gwisgo fyny?
Pan o'n i'n ferch fach, do'n i ddim yn ferch binc a do' ni ddim yn or-hoff o wisgo ffrogia' a gwisgo lan yn sbeshial. Do'n i ddim yn gweld y pwynt, ro'n i jyst yn ferch trowser a thop ac yn 'chydig bach o tomboy.
Oes gen ti gwpwrdd ddillad gwahanol ar gyfer achlysuron gwahanol?
Ma 'da fi dri cwpwrdd i gyd. Dwi'n gwybod ble ma popeth, a dwi'n gwybod pam fod yna gymaint o drefn. Cyngherddau dwi'n wneud yn bennaf a dyna pam ma' gen i gymaint o ddillad achos mae'n rhaid dewis y ffrog gywir ar gyfer y cyngerdd cywir.
Pa fath o ddillad sydd gen ti yn dy gwpwrdd cyntaf?
Falla' y cwpwrdd lleia' cyffrous i mi achos mai dyma yw yn llythrennol fy nillad bob dydd i. Mae gen i siwmperi, topiau, sgerti, trowseri a ffrogia. Ma 'na lot o ffrogia yn y mywyd i, ond dyma'r rhai bod dydd. Mewn ymarferion, 'dych chi ddim yn troi lan yn scruffy - dwi'n gwneud ymdrech, hyd yn oed os dwi'n ymarfer yn y prynhawn, dwi wastad yn meddwl yn ofalus am beth dwi'n mynd i wisgo cyn troi lan ar y diwrnod. Mae'n rhaid edrych y rhan, ma ishe bod yn weddus - edrych fel ta chi'n haeddu bod yna mewn ffordd.
Ydy'r dillad yn yr ail gwpwrdd yn rhai perfformio neu'n ddillad mwynhau?
Ma' 'na gymysgwch yn fan hyn ma'n rhaid i mi gyfadde'. Ma' 'na rai dillad parti fel petai, ond hefyd ma' lot o rhain ar gyfer perfformio. Perfformio llai ffurfiol fel recitals falla' neu gyngherddau yn y prynhawn neu gyngerdd haf.
Mae'r ffrog werdd yma'n fendigedig, o le ges do hon?
Ma hon yn un eitha' pwysig achos roedd hon yn un ges i gan Universal pan nes i'r llunia ar gyfer yr albwm. Mae'n bwysig iawn i mi ac yn golygu lot i mi.
Ma'r ffrog aur yma yn un neis iawn hefyd a mi wisgais i hon ar gyfer pen-blwydd Classic FM yn 15 oed yn yr Albert Hall. Ac mae'r ffrog werdd yma hefo bows arni yn un sbeshial. Ma' ngŵr i'n dweud mod i'n edrych yn bert ynddi, sy'n neis achos dwi'n teimlo fel merch wedyn yn hytrach na chantores.
Ai dim ond mewn ffrogia' y byddi di'n perfformio?
Dwi hefyd yn gwisgo trowseri a thopiau weithiau. Ma' rhain ar gyfer recitals yn bennaf, achos mi fedrai symud rownd a dwi'n teimlo fel mod i'n gallu ymlacio 'chydig yn fwy a mae o fwy normal - ma'n llai ffurfiol ac yn fwy bob dydd, dwi ddim yn teimlo fod 'na gymaint o bedestal. A dwi'n teimlo'n hapus yn gneud fy recitals mewn trowser achos mi fedra i symud rownd yn rhwyddach, dwi ddim yn teimlo'n cweit mor stiff. Felly dwi'n dewis yn ofalus iawn.
Ydy'r ffaith dy fod di'n gwisgo'n smart yn ffordd o ddangos parch tuag at y gynulleidfa?
Yn sicr, mae hefyd yn dangos parch at y gerddoriaeth. Os wyt ti'n mynd i wneud ymdrech i ganu'r gerddoriaeth yn dda, wedyn man a man rhoi'r pecyn i gyd at ei gilydd ac edrych yn neis hefyd.
Mi wyt ti'n lwcus iawn yn cael gwisgo dillad mor hardd pob dydd.
Ma'r ffrogia hir wrth gwrs yn wych ac yn gyffrous a ma' nhw mor hardd, ond ma' nhw dipyn bach fel iwnifform i fi achos pan dwi'n gwisgo ffrog fel 'na dwi'n gweithio. Dwi ddim yn credu fod pobl yn ystyried pa mor bwysig yw dewis y ffrog neu'r outfit iawn ar gyfer cyngerdd. Ma'n rhaid i chi fod yn weddus os ydych chi'n canu requiem, sef offerem i'r meirw, ac mae'n rhaid i chi wisgo du. Os wyt ti'n canu'r Passion hefyd mi fydda ni'n disgwyl gwisgo lliwia tywyll - glas neu wyrdd tywyll. Os dwi'n canu mewn Eglwys, mae'n rhaid cyfro'r ysgwydda'. Felly ma' 'da fi selection hyfryd o gardigans bach neis a sgarffiau - neu unrhyw beth sy'n cyfro chi'n hardd.
Ma' gen ti gasgliad hyfryd o ffrogia bendigedig, o le ges di'r un yma?
Dyma'r ffrog gynta' i mi ei phrynu ar gyfer perfformio a ma' hi'n un syml iawn. Mi oedd gen i gyngerdd yn Kings ac ro'n i'n canu Soul gan Handel, a 'na i gyd o'n i'n gorfod ganu oedd "He Comes, he comes" a wedyn roedd gen i ddarn bach ar y diwedd. Ond be wnes i? Gan mod i mor nerfus, nes i ganu "He comes", ac yna cael hiccup a wedyn canu "He comes"!
Ma'r ffrog yma eto'n fendigedig, wyt ti'n cofio gwisgo hon am y tro cyntaf?
Hon oedd y ffrog strapless gynta' i mi wisgo. Mi wisgais i hon yn Aberhonddu i wneud y Magnificant gan Bach. Ro'n i'n eistedd lawr yn wynebu'r gerddorfa gan mod i mewn eglwys ac wrth i mi sefyll lan, rois i'n nhroed ar y ffrog, a phan godais i, fe gwympodd y ffrog reit lawr. Diolch byth doedd hanner y gerddorfa ddim yn edrych, dim ond y brass wrth gwrs - 'Helo, bois y pres! Dwi'n siŵr fod chi'n falch ych bod chi wedi dod heddiw!' Roedden nhw'n eu dagrau. Felly eisteddais i lawr a thynnu'r ffrog lan a throi rownd a chanu cân am y Forwyn Fair! Felly roedd e'n weddus iawn dwi'n meddwl!
Pan ti'n perfformio, ti'm ishe bod yn poeni bod rhywbeth yn mynd i syrthio lawr neu fod yn rhy isel neu'n rhy dynn. Ti'n gorfod bod yn gyfforddus yn dwyt?
Yn sicr, dyna yw'r un o'r pethe' pwysicaf i fi achos y gerddoriaeth sy'n bwysig, nid yn llais i hyd yn oed, ond y gerddoriaeth. Mae'n rhaid mod i'n trosleisio fel petai'r gerddoriaeth mewn i'r perfformiad. Dwi wrth fy modd os oes rhywun yn dweud wrtha'i fod y gerddoriaeth yn wych, nid hyd yn oed fy llais i, ond eu bod nhw'n dweud, "Waw," ond yw Mozart yn wych neu fod Handel yn wych?
Mi fyddai llawer o ferched yn genfigennus iawn o gynnwys dy gwpwrdd dillad di!
Mae'r gost o gadw'r ffrogia' yma'n anhygoel, a wedyn mae'r gemwaith a'r sgidia - ma' 'na gymaint o bethau mae'n rhaid eu hystyried. Wrth gwrs fedrwch chi ddim gwisgo'r un ffrog ddwywaith yn yr un lle, felly, ma' 'da fi ddyddiadur yn dweud ble dwi 'di bod, a be dwi wedi ei wisgo i mi gael gwybod mod i ddim yn dyblu lan a bod pobol yn dweud, "wisgodd hi'r ffrog yna llynedd"! Felly ma' cadw rhain i gyd yn golygu fod fy insurance i'n enfawr, achos ma werth miloedd o bunnoedd lan loft!
Ti'n dweud fod yna werth miloedd yn dy gwpwrdd di, ond faint fydda ti'n talu am un ffrog?
Ma'r ffrogia yma'n gallu costio tua £800, ond roedd hon yn £180, wedes i wrth y fenyw, "Why is it £180?" A wedodd hi, "Why not?" A ro'n i'n meddwl, dwyt ti ddim yn gwbod pa mor rhad yw hon, dwi jyst yn mynd i adael yn gloi nawr gyda'r ffrog. Ma'r ffrogia' 'ma'n ofnadwy o drwm, ac os ti'n meddwl am deithio dramor gyda rhain hefo dy luggage allowance di – does yna ddim llawer o le i ddim byd arall!
Ar gyfer pa gyngerdd wnes di brynu'r ffrog arbennig yma?
Ma' hon yn ffrog sbeshial iawn a wisgais i hon yn Llangollen ar gyfer y cyngerdd clo yn 2008 gyda David Kempster. Ro'n i'n teimlo fel tywysoges ynddi, roedd hi'n neis cerdded ymlaen ar y llwyfan a meddwl - dwi'n teimlo'n sbeshial, felly dwi'n licio'r ffrogia' fwy sparkly ma'n rhaid dweud.
Ar ddiwrnod priodas ma'r rhan fwya' o ferched yn cael gwisgo ffrogia hir fel 'ma, ond ti'n cael eu gwisgo nhw drwy'r amser!
Dwi'n gwybod, ond mae'n teimlo 'chydig bach fel iwnifform. Ond wedi dweud hynny, dwi'n teimlo chydig bach yn smyg pan dwi'n rhoi'r ffrog ymlaen. Mae o'n hassle pan ti'n gorfod rhoi'r colur 'mlaen a gwneud dy wallt, ond ar ôl rhoi'r ffrog arno, dwi jyst yn teimlo wrth fy modd.
Pa un ydy dy hoff ffrog di?
Ma'r ffrog yma'n dod o Lanelli a mam ffeindiodd hi – ma' hi fel ffrog Cindarella! Mi wisgais i hon ar gyfer ail hanner cyngerdd clo Llangollen, real diva yn newid hanner ffordd yn de! Ti'n gwybod pan gerddi di mas y bydd pawb yn dweud, "Waw!" Ma'n deimlad neis achos mae o'n rhoi hyder i ti. Ma'n neis teimlo os af i ar y llwyfan mod i'n edrych yn dda - looking the part - a bydd pobl yn dweud mod i'n edrych yn bert. O leia' ti wedi hanner eu perswadio nhw bod ti'n ok! Wedyn ti'n dechra canu ac ar ôl 'chydig o fariau ti'n gobeithio eu bod nhw dal yn dy licio di - ti yna'n gallu ymlacio 'chydig. Hon ydy'n hoff ffrog i ar y funud, ma hi just mor anhygoel o bert, dwi jyst moyn ei gwisgo hi drwy'r dydd. Mi ddylwn i wisgo hi i lanhau rownd y tŷ dwi'n credu!
- CWPWRDD DILLAD