Cwpwrdd Dillad: Elinor Jones a Heledd Cynwal
Elinor Jones a Heledd Cynwal
Elinor Jones a Heledd Cynwal
Elinor Jones a Heledd Cynwal
Elinor Jones a Heledd Cynwal

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Elinor Jones a Heledd Cynwal

I ba raddau ydych chi’ch dwy wedi dylanwadu ar steil eich gilydd dros y blynyddoedd?

Heledd: Bydda' mam ddim yn hapus iawn i mi ddeud ei bod hi wedi dylanwadu arna i! Pan o'n i’n groten fach, roedd dillad yn rhywbeth ymarferol llwyr i gadw fi’n dwym, cadw fi’n sych a stopio mi fod yn borcyn mewn gwirionedd. Tomboy o'n i. O'n i’n licio mynd allan i chware ar fy meic, i ddringo ac i farchogaeth ceffylau. Pethe fel’na oedd yn bwysig i mi yn hytrach na dillad. Wedyn fe es i drwy gyfnod yn fy arddegau, chi’n gwybod fel mae plant yn gallu bod yn embarrassed o’u rhieni, wel dwi’n credu fod mam yn embarrassed ohona i! Ma' mam wedyn yn hollol i’r pegwn arall! Dwi’n cofio teimlo rhyw fath o embarrassment achos yn amlwg roedd mam yn gorfod bod yn reit glamorous, felly roedd ganddi’r colur a’r gwisgoedd mawr a weithiau o’n i’n meddwl – pam na fase hi’n gallu bod fel mamau pawb arall?

Elinor: Roedd yn gas gen i weld beth oedd Heledd yn wisgo i ddeud y gwir. Ond oedd e’n grêt achos doedd hi ddim yn hala arian ar ddillad gan ei bod hi’n prynu popeth yn Oxfam! Daeth hi’n ôl ryw ddiwrnod hefo rhywbeth fydden i wedi rhoi bant ddegawd ynghynt! Siaced felfed maroon gyda lapels mawr o’r 70au, a dwi’n cofio hi’n dod yn ôl a dweud ‘Ma hon yn neis tydi?’, ‘Gret’ medda finna'!

Yn yr 80au roedd gen i ‘sgwyddau mawr, jewellery mawr, coler mawr - popeth. Roedd gen i hefyd y sodlau mawr, ond dwi’n dal i wisgo rhain heddiw! Ond na, ma' steil y ddwy ohona ni yn hollol wahanol. Dwi’n tueddu i fod ychydig yn fwy ffurfiol na Heledd o ran gwisgo pethau sydd wedi eu teilwra, yn fwy strwythurol, a ma' Heledd yn gwisgo pethau fwy fel ffrogiau, mwy fluid.

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Mae hon yn siwt arbennig iawn.

E: Dwi ddim wedi cadw ryw lawer o ddillad ers y 70au a’r 80au. Ond mae hon yn un dwi wedi ei chadw. Janice Wainwright ydy hi ac fe brynais i hi ar ddiwedd y 70au, dechrau’r 80au ac fe wisgais i dipyn arni yn y gyfres Elinor pan ddechreuodd S4C. Dwi ddim yn ei gwisgo hi nawr, ond dwi’n meddwl y gwnâi ail ddechrau achos tydi hi ddim yn un ffasiynol, clasurol ydy hi yn y bôn a mae’r gwneuthuriad yn anhygoel. Dwi dal yn hoff iawn ohoni ac mae’r lliw yn hyfryd.

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Mae hon yn ffrog retro iawn, o ble ges di hon?

H: Ges i wahoddiad i barti yn Llandeilo, parti 60au a 70au ac o'n i ishe benthyg rhywbeth i wisgo wedyn mi gofiais i fod gan mam ffrog o’r 70au. Mae hi’n drwm iawn ac yn swêd i gyd. Bron y gallet ti wisgo hi tu fewn, tu fas achos mae hi wedi ei gwneud mor dda gyda llaw. Fe feddyliais i y galle hon weithio heddi', ac felly dwi wedi ei gwisgo hi ar Wedi 7. Mae o fel pe bai hanes yn ail-adrodd ei hun.

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Ydy hi’n handi cael mam gyda chwaeth?

H: Mae’n rhaid i mi fod yn ofalus weithiau achos alle' ni fynd am ambell i beth fydde’r ddwy ohona ni’n licio - mae e wedi digwydd unwaith neu ddwy.

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Ydych chi’n mynd i siopa gyda’ch gilydd?

H: ‘Da ni’n dueddol o siopa ar wahân a falle ffonio’n gilydd lan i ddeud ein bod ni wedi bod yn siopa heddi. Wedyn pan ddaw mam rownd mi wnâi ddangos be dw'i wedi ei brynu. Dwi’n credu mod i erbyn hyn wedi cyrraedd man lle mae gen i ddigon o hyder i wybod be sy’n fy siwtio fi.

Elinor Jones a Heledd Cynwal

O le ddaeth y siwt yma?

E: Mae hon yn dod o siop Mela yn Llandeilo. Y lliw 'nath fy nennu i ddechrau a siâp puff-ball y sgert. Pan dwi’n ei rhoi hi mlaen ma' hin dynn, dynn, dynn a gan mod i’n fach dwi’n hoffi dangos wast bach neu mae dillad yn gwneud i mi edrych fel bocs!

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Mae hon yn llawer o hwyl tydi?

H: Ydi, mae hon yn hwyl. O'n i yn licio’r toriad a ma' na rywbeth eitha’ merchetaidd amdani, eitha’ kitsch!

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Ydych chi’n dilyn ffasiwn?

H: Dwi’n ymwybodol o ffasiwn, ond dwi ddim yn ei ddilyn, ond dwi ddim yn slaf iddo fe. Mae e mor bwysig i gadw dy hunan hefyd.

E: Mae’n rhyfedd achos ma' ffasiwn yn cymryd pawb drosodd yn y diwedd. Mae e ymhob man, felly da chi’n mynd i gael eich dylanwadu ganddo fe. Ond dwi’n credu fod gen i steil sydd yn syml yn y bôn. Mae fy nghypyrddau dillad i gyd yn cylchdroi o amgylch y bocs yn anffodus!

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Ydych chi’n cofio’r peth cyntaf i chi wisgo ar y sgrin erioed?

E: Yndw, gwasgod a throwsus lledr coch. Roedd gen i fwnci ar fy nglin ac fe wnaeth o bach o fess arna’i, ar y siwt i gyd, felly diolch byth mae lledr oedd hi!

H: Un o’r pethe cyntaf dwi’n cofio gaeth ei brynu ar fy nghyfer i oedd y siaced ledr goch yma pan nes i ddechrau cyflwyno Uned 5 ar S4C pan o'n i yn 21 - felly mae hynny dros 10 mlynedd yn ôl! Dwi’n cofio’r fenyw gwisgoedd, Bet, yn prynu’r siaced yma i mi. Fe aethon ni am ddiwrnod o siopa i Gaer a dwi’n cofio roedd hon yn eitha’ drud. Pan o'n i’n gwisgo hon ro’n i’n teimlo’n arbennig, roedd hi’n neud i mi deimlo’n saff. Es i drwy gyfnod pan o'n i ddim yn siŵr iawn beth oedd ‘yn steil i a beth oedd yn fy siwtio fi - felly os o’n i’n gwisgo hon, gan fod Bet wedi ei phrynu hi, ro ni’n gwybod mod i’n edrych yn iawn.

Elinor Jones a Heledd Cynwal

A chithau wedi bod ar S4C o’r cychwyn, oedd yna ddelwedd newydd oedd yn rhaid i chi gyd-fynd ag o?

E: Oedd, roedd yna ddisgwyliadau arna i. Ond roedd hi’n gyfnod ffeministiaeth yng Nghymru. Roedd yna dipyn o greulondeb tuag ata i gan ferched oedd yn ysgrifennu i bethau fel Y Cymro a’r Faner – ‘pwy ma' hi’n credu yw hi i wisgo fyny mewn siwtiau sidan yn eistedd ar y settee!’ Ges i lot o stick gan ambell i ferch oedd yn ysgrifennu i’r cyfryngau mae’n rhaid cyfaddef achos roedd hi’n gyfnod y dungarees, ac os oeddech chi’n credu mewn ffeministiaeth doedd dillad ddim yn bwysig i chi!

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Beth yw hanes y siaced yma?

E: O’n i yn yr opera ryw noson yn gwisgo hon, a ti’n gwybod y teimlad yna fod rhywun yn edrych arnat ti? ‘Nes i droi rownd a dyma nhw’n deud, ‘It’s all right, we’re just reading you’. Ac roedden nhw yn darllen beth sydd ar gefn y siaced, sef ‘You can’t judge a girl by her clothes!’ Felly fe roedden nhw wir yn fy narllen i!

Elinor Jones a Heledd Cynwal

Beth yw steil y ddwy ohona chi?

E: Esblygu mae steil yn y bôn. Ac wrth gwrs yn fy oedran i, dwi wedi ei weld o i gyd o’r blaen. Mae pethau’r 50au, 60au, 70au i gyd yn dod yn ôl - does yna ddim byd yn newydd!

H: Dwi’n credu i fod o’n beryglus dweud ‘dyma yw fy steil i’, achos dwi’n meddwl fod e’n beth iach i esblygu a newid y ffordd ti’n gwisgo. Dwi’n credu hefyd os ti’n cadw diddordeb mewn dillad ti’n cadw diddordeb mewn ti dy hunan a dwi’n credu fod hynny yn beth pwysig ac iachus iawn yn feddyliol hefyd.