Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Emily Tucker
Emily Tucker
Emily Tucker
Emily Tucker
Emily Tucker

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Emily yn actores ac yn un o wynebau newydd Pobol y Cwm.

Emily Tucker

Be ma' dillad yn ei olygu i ti?

Dwi'n licio teimlo'n hyderus yn be dwi'n wisgo ac yn gyfforddus hefyd - o'n sgidiau, i beth dwi'n wneud hefo ngwallt i, ma'n rhaid i mi deimlo mod i'n gallu mynd mas felly a mod i'n teimlo'n iawn. Dwi'n cyfaddef mod i'n dwli gwisgo lan a dwi'n licio bod y cyntaf i wisgo rhywbeth neu'r cynta' i roi ryw dop a throwser gyda'i gilydd - dwi'n licio rhoi stamp yn hunan ar bethe. Dwi'n hapus iawn i sefyll allan. Yn bendant, mae'n rhaid i mi sefyll allan.

Emily Tucker

O le fyddi di'n prynu dy ddillad?

Unrhyw le, o River Island i Peacocks. Mi fyddai'n prynu unrhwybeth o'r high street ynghyd â phethe o boutique bach ym Mhontcanna yng Nghaerdydd. Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig i chi adnabod siâp eich corff a dwi'n credu bod y siâp sy'n tynnu mewn ar y wast yn dda iawn i ferched sydd yn llai fel fi.

Emily Tucker

Ma hon yn ffrog fendigedig, o le ges di hon?

Mi wisgais i hon pan o'n i'n ddeunaw i'm mharti pen-blwydd. Roedd hi'n noson lyfli felly ma' hon bach yn sentimental, fyddai byth yn cael gwared â hon.

Emily Tucker

Wyt ti'n gorfod gwisgo mewn ffordd arbennig pan wyt ti'n mynd i glyweliad?

Mae'n dibynnu am ba fath o gymeriad dwi'n mynd amdano fo. Os ydy'r cymeriad yn ifancach na fi, mae'n rhaid i mi feddwl, fedrai ddim gwisgo dim byd sydd yn rhy sexy neu'n rhy aeddfed - falle y baswn i'n gwisgo rhywbeth fel jîns a t-shirt. Mi fues i am glyweliad ar gyfer trydedd ffilm High School Musical, felly roedd yn rhaid i mi fod yn eitha' American, felly mi wnes i wisgo pethe' oedd yn eitha' 'squeaky clean teen'.

Emily Tucker

Sut brofiad oedd cael clyweliad am ffilm mor enwog?

Roedd e'n dda achos ei fod e'n glyweliad ble oedd yn rhaid i ni ddawnsio, canu ac actio. Pan ddes i mas ro'n i'n chwys i gyd, ond roedd e'n dda gwneud y clyweliad gan ei fod e'n gymaint o sbort.

Emily Tucker

Beth fydd di'n ei wisgo o ddydd i ddydd?

I fynd nôl a mlaen o'r gwaith neu rywbeth i deimlo'n gyfforddus o gwmpas y tŷ mi fyddai'n gwisgo hoodies. Ma'r siwmper yma mor drwchus ac mor gyfforddus i'w wisgo, dwi'n ei gwisgo hi bron bob dydd! Achos fod clyweliad High School Musical yn y Pineapple Dance Studio, mi brynais i hwn ar ôl y clyweliad felly ma' hi'n sentimental iawn i mi.

Emily Tucker

Ma'r siwmper yma yn ychydig o hwyl yn dydy?

Mi brynais i hon o David and Goliath - ma eu dillad nhw bach yn quirky hefo jôcs bach ar y tu blaen. Dydy pawb ddim yn eu licio nhw ond dwi'n meddwl eu bod nhw'n eitha' doniol a bod y steil 'chydig bach yn wahanol.

Emily Tucker

I ble fydda ti'n gwisgo'r siwmper frown flodeuog yma?

Un o siop Roxy ydy hon. Ma hi'n gyfforddus iawn i wisgo gyda Ugg boots a joggers i fynd mewn i'r gwaith.

Emily Tucker

Yn ogystal â hoodies, ma gen ti hefyd lawer o grysau yn does?

Oes, ma' gen i dipyn o grysau. Un Abercrombie and Fitch ydy hwn a mae o'n gyfforddus iawn i wisgo. Ma' fe'n dwym iawn i feddwl mai dim ond crys yw e. Ma' Abercrombie and Fitch wedi dod yn boblogaidd rŵan, ma' pawb yn gwisgo'r crysa' a'r polo shirts hefyd.

Emily Tucker

Ma' hon yn siaced neis, pryd fyddi di'n gwisgo hon?

Mi fyddai'n gwisgo'r jaced yma i fyd mas dros t-shirt neu rywbeth fel 'na i fynd am ginio neu rywbeth ac mae o'n rhoi ryw dwtsh personol i outfit a'i wneud o 'chydig bach fwy smart.

Emily Tucker

Wyt ti'n mwynhau siopa?

Dwi'n dwli prynu pethe newydd - dwi bach yn obsessed dwi'n meddwl! Dwi'n dwli ar y teimlad yna o gario bag gyda dilledyn newydd ynddo fe. Dwi'n meddwl 'yes', ma rhywbeth newydd 'da fi! Ond does dim rhaid iddo fod yn rhywbeth drud o gwbl.

Emily Tucker

Ma'r ffrog ddu a gwyn yma'n fendigedig, o le ges ti hon?

Ges i hon yn Peacocks ac roedd hi'n £15 - bach o bargain buy! Dwi yn dilyn ffasiwn, ond dwi hefyd yn rhoi stamp bach yn hunan arno fe.

Emily Tucker

Wyt ti'n meddwl y gwnaiff dy steil di newid fel ma' ffasiwn yn newid?

Dwi yn sentimental iawn am fy nillad, ond ma'n steil i'n newid hefyd - felly ma' pethau'n aros yn y cwpwrdd a ma' mwy o bethau yn dod mewn. Does yna ddim byd rili yn gadael y cwpwrdd!

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales