



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
O le ddaeth dy ddiddordeb di mewn dillad?
Pan oeddwn i’n ifanc fe benderfynais i a’n ffrindiau ein bod ni yn mynd i wneud label dillad a dylunio gwahanol bethau. Roedden nhw mor wirion o edrych yn ôl! Dyna pryd nes i ddechrau licio dylunio a ffeindio mod i’n hoffi ei wneud.
Pa fath o ddillad sydd gen ti?
Mae gen i lot o ddillad a lot o liw, dwi wedi mynd yn eithaf crazy gyda lliwiau ar y foment. Dwi’n prynu lot o bethau o Primark neu Topshop ar sêl neu rywbeth cheap a jyst adio top neu siaced, rhywbeth fel ‘na.
Beth yw’r cwrs wyt ti’n ei ddilyn?
Dwi’n gwneud cwrs ffaswin a dillad tu fas i Gasnewydd. Mae e’n gwrs dwy flynedd ac mae’n rhoi'r cyfle i ni wneud patrymau ein hunain a dylunio. Da ni hefyd yn edrych mewn i hanes ffasiwn a gwahanol ddegawdau. Mae e’n lot o hwyl a dwi’n cael cyfle i adael fy nychymyg fynd yn wyllt! Dwi’n gobeithio ar ôl cael marciau iawn y byddai’n mynd i’r Brifysgol yng NGwlad yr Haf. Dwi jyst yn hoffi fod gen i’r opsiwn o wneud rhywbeth gwahanol.
Pwy yw dy hoff gynllunydd?
Dwi’n hoffi Vivienne Westwood, mae ei phethe hi’n eithaf crazy ac rwy’n hoff o’r cynllunydd Laura Lees sy’n gwneud gwaith i Topshop ar hyn o bryd. Mae hi’n gwneud brodwaith a chael rhywbeth plaen gan adio iddo. Ond, mae gen i fwy o ddiddordeb mewn looks ac edrychiad mwy na chynllunwyr penodol.
Beth yw dy hoff ddilledyn?
Nes i brynu’r ffrog yma yn Topshop yn y sêl ac roedd e damaid rhy fach i mi, felly nes i roi stribyn lawr yr ochor sy’n ei wneud ychydig bach yn fwy, ac mae e’n edrych yn eithaf neis, rhyw fath o newid ar y lliw.
Wyt ti wedi creu gwisg dy hun?
Do. Fe ges i batrwm a chreu fy prom dress fy hun ar gyfer y Prom cwpwl o fisoedd yn ôl. Mae e’n siâp eithaf syml felly fe nes i wisgo fe lan gyda’r siôl ges i ar sêl eto.